鶹Լ

Dileu cynllun rheilffordd digwyddiadau mawr

Tren yn gorsaf trenau CaerdyddFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae gorsaf drenau Caerdydd yn gallu bod yn hynod brysur adeg digwyddiadau mawr

  • Cyhoeddwyd

Mae'r cynllun i adeiladu rheilffordd a fyddai wedi storio trenau i'w defnyddio pan fo cyngherddau a gemau mawr yng Nghaerdydd wedi ei ddileu gan Lywodraeth Cymru.

Dywedodd Trafnidiaeth Cymru a’r llywodraeth bod y lein gadw ar gyfer digwyddiadau mawr yn costio mwy na’r disgwyl, ac felly doedd y cynllun ddim yn werth da am arian.

Mae'r cwmni, sy’n eiddo i’r llywodraeth, wedi dweud hefyd nad oes modd iddyn nhw adennill y gost o £10m a mwy sydd wedi ei wario ar gynllunio’r trac ger y gwaith dur yng Nghasnewydd.

Mae'r gwrthbleidiau yn y Senedd wedi beirniadu’r penderfyniad.

Dim effaith ar gynlluniau eraill

Roedd cynllun y lein gadw, 1.6km o hyd, yn addo rhagor o gapasiti ar y rheilffordd pan mae disgwyl torfeydd mawr.

Disgrifiad o’r llun,

Mae nifer o deithwyr wedi wynebu oedi yn ystod digwyddiadau mawr

Fe fyddai trenau yn cael eu cadw yno a’u defnyddio i gludo cefnogwyr i gyngherddau a gemau - gan gynnwys gemau rygbi’r Chwe Gwlad yn Stadiwm Principality.

Ond yn eu hadroddiad blynyddol diweddaraf, mae Trafnidiaeth Cymru yn dweud bod costau o £10.54m a wariwyd ar y prosiect ers 2018 “nawr yn cael eu hystyried yn rhai na ellir eu hadennill”.

Dywed y cwmni nad yw'r penderfyniad yn effeithio ar y cynlluniau i agor gorsafoedd newydd o amgylch Casnewydd a Chaerdydd - gan gynnwys yn Llanwern.

'Seilwaith trafnidiaeth hynod fregus'

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Y cynllun oedd cynyddu capasiti rheilffyrdd ar ddiwrnodau digwyddiadau mawr yn y ddinas, fel gemau'r Chwe Gwlad

Mae digwyddiadau mawr yn rhan bwysig o economi Caerdydd, ond mae rhai pobl wedi cael anawsterau gyda thrafnidiaeth yn y gorffennol.

Methodd rhai a gweld Ed Sheeran pan ddaeth i berfformio yn Stadiwm y Principality yn 2022.

Mae mwy o berfformwyr enwog yn perfformio yno'r flwyddyn nesaf, gan gynnwys Taylor Swift a Bruce Springsteen.

Bydd rhai o gemau pencampwriaeth pêl-droed Euro 2028 yn cael eu chwarae yn y brifddinas hefyd.

Y trenau yn llawn

Ddydd Sadwrn roedd hi'n ddiwrnod gêm rygbi Cymru yn erbyn y Barbariaid.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Chris Medlicott, 45, o Aberdâr wedi dod â'i fab Owen i'w gêm gyntaf yn Stadiwm Principality ddydd Sadwrn

Dywedodd Chris Medlicott, 45, o Aberdâr ei fod e wedi dod â'i fab Owen i'w gêm gyntaf yn Stadiwm Principality.

"Fe gawson ni sedd - ond dim ond just - roedd pawb arall yn sefyll," meddai.

"Roedd rhai pobl yn dadlau ar y trên. Mae pobl yn mynd yn flin. Dwi ddim yn edrych ymlaen at fynd yn ôl.

"Roeddwn i wedi meddwl gyrru ond yna 'nes i feddwl y byddai'n anodd parcio - ond nawr fi'n credu y dylwn fod wedi gyrru.

"Gobeithio y bydd mwy o gerbydau wedi i'r lein gael ei thrydaneiddio."

Disgrifiad o’r llun,

Roedd y trên o Bont-y-clun yn orlawn medd Shelli Docherty a ddaeth i Gaerdydd gyda'i theulu

Dywedodd Shelli Docherty, 44, bod y trên o Bont-y-clun i Gaerdydd yn "orlawn" ddydd Sadwrn.

Ychwanegodd bod hi, ei mab Marcus a'i gŵr Doc wedi gadael ddwyawr cyn dechrau'r gêm ond eu bod o bosib wedi'i gadael hi'n rhy hwyr.

Mae Sarah Hemsley-Cole yn rhedeg cwmni cynhyrchu digwyddiadau yng Nghaerdydd - cwmni sy'n helpu i drefnu cyngherddau mawr.

"Mae gennym ni seilwaith trafnidiaeth hynod fregus," meddai.

"Mae yna bwysau mawr ar gynaliadwyedd a dydw i ddim yn meddwl bod gennym ni’r atebion yma yng Nghymru mewn gwirionedd i ddarparu rhwydwaith trafnidiaeth gadarn i gefnogi’r digwyddiadau sydd gennym."

'Dim gwerth am arian'

Mewn datganiad, dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod nhw wedi penderfynu nad oedd y llinell yn werth am arian yn dilyn “adolygiad trylwyr o’r achos busnes” ar ôl y pandemig.

“Mae Trafnidiaeth Cymru yn cyflwyno trenau newydd sbon i helpu i wella gwydnwch ac ateb y galw cynyddol ar draws y rhwydwaith ar ddiwrnodau digwyddiadau mawr,” meddai llefarydd.

Mae Trafnidiaeth Cymru, sy’n adeiladu Metro De Cymru, yn dibynnu ar gymhorthdal cynyddol gan drethdalwyr.

Yn ddiweddar, cyhoeddodd gweinidogion daliad ychwanegol o £125m ar gyfer y rhwydwaith.

Eleni daeth i'r amlwg fod cost y Metro wedi cynyddu £260m, i £1bn.

Dywedodd yr arbenigwr rheilffyrdd Andrew Potter, o Brifysgol Caerdydd, fod costau adeiladu ac ynni uwch wedi taro'r diwydiant.

"Mae cronfa sefydlog o arian ar gyfer buddsoddiad cyfalaf yn y rheilffyrdd ac yn y pen draw, gyda chost y Metro yn mynd i fyny, mae’n rhaid ailwerthuso prosiectau eraill am werth am arian," meddai.

Colli £10m yn 'hollol anghyfrifol' a 'siomedig'

Mewn datganiad i 鶹Լ Cymru, dywedodd Trafnidiaeth Cymru: "Yn dilyn gwaith datblygu manwl, gan gynnwys gwaith dichonoldeb, dylunio a galluogi, daeth yn amlwg y byddai’r costau sy’n gysylltiedig â’r prosiect yn sylweddol uwch na’r amcangyfrifon cychwynnol.

"Gwnaed y penderfyniad i atal rhai rhannau o’r prosiect er mwyn osgoi mynd i gostau pellach, gan arwain at amhariad ar yr ased sy’n cael ei adeiladu yn ein datganiadau ariannol ar gyfer 2022/23."

Mae'r cwmni yn dweud y bydd "buddion eraill" o waith ehangach y prosiect rheilffordd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae llefarydd trafnidiaeth y Ceidwadwyr, Natasha Asghar, yn poeni y bydd y trenau yn "embaras" i'r ddinas yn ystod digwyddiadau mawr

Dywedodd llefarydd trafnidiaeth y Ceidwadwyr, Natasha Asghar, fod dileu mwy na £10m yn “hollol anghyfrifol”.

“Rwy’n poeni y bydd y trenau "shambolic" yma yn embaras i Gymru ar lwyfan y byd pan fyddwn yn cynnal yr Euros yn 2028,” meddai.

Dywedodd Delyth Jewell, llefarydd trafnidiaeth Plaid Cymru, taw trafnidiaeth gyhoeddus ddylai fod y dewis cyntaf i bobl, ond bod hynny’n bell o fod yn wir.

“Mae’n siomedig felly i weld y cynllun hwn i gynyddu capasiti wedi ei roi o’r neilltu gyda chymaint o arian wedi ei golli,” dywedodd.