Â鶹ԼÅÄ

Llai na thraean o deithiau trên ar drenau newydd

  • Cyhoeddwyd
Trên trafnidiaeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Yn 2018 roedd Trafnidiaeth Cymru wedi dweud ei bod eisiau i 95% o deithiau fod ar drenau newydd erbyn 2023

Mae llai na thraean o holl deithiau Trafnidiaeth Cymru (TC) yn cael eu gwneud ar drenau modern, er i darged o 95% gael ei osod pum mlynedd yn ôl.

29% o wasanaethau TC sydd ar drenau sydd wedi'u cyflwyno ers i'r cwmni gymryd cyfrifoldeb dros y rheilffyrdd yng Nghymru.

Dywedodd y cwmni fod y pandemig wedi achosi oedi sylweddol, a bod rhai o'i dargedau wedi cael eu diwygio.

Yn 2018 roedd TC - sy'n berchen i Lywodraeth Cymru - wedi dweud ei bod eisiau i 95% o deithiau fod ar drenau newydd erbyn 2023.

Cafodd y ffigyrau eu datgelu mewn ymateb i gwestiwn gan lefarydd Plaid Cymru ar drafnidiaeth, Delyth Jewell.

Dywedodd Trafnidiaeth Cymru: "Mae rhai o'n targedau gwreiddiol a osodwyd yn 2018, gan gynnwys 95% o deithiau ar drenau newydd erbyn 2023, wedi cael eu diwygio oherwydd y pandemig a ffactorau eraill.

"Mae pethau'n symud ymlaen yn dda o ran cyflenwi, profi a chyflwyno ein fflyd o drenau newydd gwerth £800m."

Ychwanegodd llefarydd eu bod wedi "cynyddu gwasanaethau o 20%" a "buddsoddi £33m yn ein gorsafoedd" ers cymryd rheolaeth o wasanaethau Cymru a'r Gororau.

Mae dydd Sadwrn yn bum mlynedd ers i TC ddechrau rheoli'r gwasanaethau hynny, gan olynu cwmni Arriva.

'Trenau hen, hwyr, a chwsmeriaid anfodlon'

Dywedodd Ms Jewell fod rheilffyrdd Cymru "wedi'i grynhoi gan drenau hen, hwyr, a chwsmeriaid anfodlon".

Mae Plaid Cymru eisiau i wasanaethau rheilffyrdd gael eu datganoli'n llawn i Gymru.

Ar hyn o bryd, Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am weithredu'r rheilffyrdd yma, ond Llywodraeth y DU sydd â chyfrifoldeb dros isadeiledd, cynllunio ac ariannu Network Rail.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Delyth Jewell ei bod yn siom nad yw Llywodraeth Cymru wedi gwneud mwy i geisio datganoli'r rheilffyrdd yn llawn

Dywedodd Ms Jewell: "Ry'n ni'n derbyn bod problemau mawr o ran ariannu ein rheilffyrdd, ond mae mor rhwystredig nad yw Llywodraeth Cymru wedi gwneud mwy i fynnu datganoli llawn o'r rheilffyrdd, fyddai'n ein galluogi ni i reoli hynny ein hunain.

"Gyda'r biliynau ry'n ni wedi cael ein gwrthod o brosiect HS2, gallwn ddatblygu gwasanaeth newydd a gwelliannau, trydaneiddio rheilffyrdd y gogledd a'r de, a gwella ein gwasanaeth bws, sy'n cael trafferthion.."

Mae Llywodraeth Cymru wedi cael cais am sylw.

Ar hyn o bryd mae'n ystyried achos cyfreithiol yn erbyn llywodraeth Geidwadol y DU ynglŷn â phrosiect HS2, gan ddadlau y dylai fod wedi derbyn arian gan San Steffan i ariannu prosiectau yng Nghymru.

Mae Llywodraeth y DU wedi awgrymu y gallai Cymru dderbyn arian wrth i gyllid symud o HS2 i brosiectau eraill yn Lloegr.