Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Tanau Gwlad Groeg yn 'uffern ac fel ymladd â’r diafol'
- Awdur, Gwyn Loader
- Swydd, Prif Ohebydd Newyddion S4C
- Yn gohebu o Ynys Rhodos
“Mae fel uffern, fel ymladd â’r diafol.”
Yn y mynyddoedd yn ne Ynys Rhodos, mae Costas Kotiadis yn disgrifio’r profiad o ddiogelu ei gymuned rhag tanau sydd yn dal i losgi ychydig fetrau y tu ôl iddo.
“Rydych chi’n ceisio diffodd tân o’ch blaen chi, mae un arall yn codi fan hyn, un arall fan draw. Beth allwn ni wneud?”
Ers dyddiau, mae fflamau wedi bod yn llosgi yn y rhan yma o’r ynys.
Mae miloedd o dwristiaid wedi diflannu o’r gwestai moethus ar yr arfordir a channoedd yn rhagor wedi gorfod gadael cartrefi hefyd.
'Rhaid i ni fod ar ein gwyliadwraeth'
Ym mhentref Vati, does dim trydan na dŵr. Mae mwyafrif y bobl leol wedi dianc, ond mae ‘na gnewyllyn wedi aros.
Gyda’r tymheredd yn cyrraedd 40 gradd celsius, mae ambell un yn cael saib mewn taverna yn y pentref ar ôl dyddiau o weithio dan yr haul crasboeth.
Wrth i ludw gwympo o’r awyr fel plu eira, mae Konstantinos Koutelos yn disgrifio’i ofid.
“Ar hyn o bryd, ry’n ni wedi’n hamgylchynu. Mae un tân y tu ôl i ni, un ar yr ochr arall.
“Bore 'ma, roedd un ar y chwith. Mae’n edrych yn iawn nawr. Ond mae’n rhaid i ni fod ar ein gwyliadwraeth. Gallan nhw ddechrau eto unrhyw bryd.”
Wrth i ni adael y pentref, mae’r heddlu’n dod â ni i stop. Mae’r tân wedi lledu a nawr yn rhwystr ar y brif hewl at yr arfordir.
Am awr, ry’n ni’n gwylio wrth i gerbydau tân, pobl leol ac awyrennau a hofrenyddion ollwng dŵr ar yr hewl a’r tân sy’n llosgi o amgylch.
Ar ôl awr o weiddi a seirenau'n sgrechian, maen nhw wedi llwyddo i reoli’r fflamau - am y tro, o leiaf.
Ry’n ni’n gadael i ddiogelwch y gogledd, ond yn Vati o hyd mae Kostas, Konstantinos a haid o bobl eraill yn gwneud eu gorau i amddiffyn eu cymunedau.
'Ry’n ni wedi bod yn lwcus'
Yng Nghymru a Phrydain, mae sylw’r newyddion wedi canolbwyntio ar y rheiny oedd ar eu gwyliau ar yr ynys pan ddechreuodd y tanau ledu.
Roedd Lowri Jones a’i merch Ella ymhlith y rhai a deithiodd yma heb wybod am realiti'r sefyllfa.
Gyrhaeddon nhw fyth eu gwesty yn ne’r ynys.
Am noson, roedd Ella a’i mam yn cysgu ar lawr teils bar gwesty yng ngogledd yr ynys - ardal na sydd wedi'i heffeithio gan y tanau diweddar.
Mae hi’n rhwystredig gyda’r diffyg gwybodaeth oedd ar gael wedi iddyn nhw lanio, ond wrth siarad gyda fi y tu fas i westy newydd lle maen nhw wedi cael ystafell erbyn hyn, mae’n sylweddoli hefyd eu bod nhw’n lwcus ar un wedd.
“Dim ond gwyliau yw e i ni," meddai. "Gall gwyliau gael eu haildrefnu.
"Mae rhai pobl wedi colli bywoliaethau a chartrefi.
“O weld y darlun mawr, ry’n ni wedi bod yn lwcus.”
Yng Ngwlad Groeg, mae tridiau o alaru cenedlaethol nawr i goffhau dau beilot fu farw wrth geisio diffodd y tanau ar ynys Evia.
Ddydd Mercher mae Ynys Rhodos gyfan wedi ei rhoi mewn stad o argyfwng.
Gyda’r tanau'n dal i losgi, bydd Costas, Konstantinos a holl bobl yr ynys yn gweddïo bod diwedd i’r trychineb yma yn dod cyn hir.