Â鶹ԼÅÄ

'Wythnos o uffern' - Profiad Cymry o'r gwres eithafol

  • Cyhoeddwyd
Tanau gwyllt yng ngwlad GroegFfynhonnell y llun, Shutterstock
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r tywydd eithafol wedi achosi tanau gwyllt yng ngwlad Groeg

Mae'r gwres eithafol yn parhau ar draws Ewrop, gyda'r tymheredd yn dal i godi ar draws y cyfandir.

Dywedodd Glesni Trefor Williams, sy'n byw yn yr Eidal, fod 'na rybuddion coch am wres ym mron pob un ddinas fawr yn y wlad.

Mae'r rhybuddion yn golygu bod y gwres yn beryglus i bawb - nid dim ond i bobl fregus.

O Alpau'r Swistir i wlad Groeg, mae tanau gwyllt yn dinistrio coed, tir ac eiddo.

Mae'r jetlif yn eistedd uwchben canol Ewrop ar hyn o bryd ac yn tynnu gwres cynnes, trofannol, o gyfeiriad Affrica.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Glesni Trefor Williams nad oes llawer o barciau na chysgod yn ninas hynafol Bologna

Yn yr Eidal, mae'r cyfryngau wedi galw'r tywydd poeth yn settimana infernale - neu "wythnos o uffern".

Ynysoedd Sardinia a Sisili fydd y llefydd poethaf, lle bydd y tymheredd yn cyrraedd 46C neu 47C.

'Mwy o sioc i dwristiaid'

"Mae'r tymheredd heddiw wedi cyrraedd 39C," meddai Glesni Trefor Williams, sy'n byw yn ninas Bologna yng ngogledd yr Eidal.

"Mae Bologna yn boeth beth bynnag ond ma' hyn yn extreme newydd.

"Mae'r ddinas o'r canol oesoedd so does 'na ddim lot o goed na pharciau yng nghanol yr hen ddinas i gael cysgod.

"Falle bod hyn yn fwy o sioc i dwristiaid, gan bod lot o bobl leol wedi mynd ar eu gwylia', ac wedi mynd tua'r arfordir," meddai.

Mae'r tywydd poeth hefyd wedi gweld rhybuddion coch am dymheredd all beryglu bywydau yn parhau mewn grym yn Sbaen a'r Balcanau.

Ffynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Pobl yn Bologna yn ciwio i gael dŵr o ffynnon yng nghanol y ddinas

Yng ngogledd America hefyd, mae'r tymheredd yn dal i fod yn uchel.

Mae Jayne Malhi, sy'n wreiddiol o Gaerfyrddin, yn byw yn ninas San Jose, California.

"O'dd 'da ni lot yn mynd 'mlaen 'da'r plant ond fe gafodd lot o bethau eu canslo oherwydd bod y tymheredd wedi mynd dros 100ºF (37.7C)," meddai.

"Erbyn heddi ry'n ni wedi cael tamaid bach o ryddhad - ni lawr nôl i ryw 85ºF (29C) sy'n lot haws!

"Ni'n ffodus bod gan y rhan fwyaf o dai air-con ond ni'n trial peidio'i ddefnyddio fe ormod achos ma' fe'n costi'n ddrud a dyw e ddim yn dda i'r amgylchedd."

Ffynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Mae nifer o drigolion Bologna wedi teithio tua'r arfordir i geisio osgoi'r gwres llethol yn y ddinas

Yn Ne Corea mae o leiaf 40 o bobl wedi marw wedi llifogydd a thirlithriadau.

Mae'r trychineb wedi arwain at alwadau gan yr Arlywydd Yoon Suk Yeol i "ailwampio" sut mae'r wlad yn brwydro yn erbyn tywydd eithafol oherwydd newid hinsawdd.

'Mae pethau'n gwaethygu'

"Dechrau'r haf bob blwyddyn mae hi'n monsoon season felly 'dan ni wedi arfer efo glaw adeg yma'r flwyddyn, ond eleni mae 'na lot fwy o law ac mae o wedi para'n hirach hefyd," meddai Eifion Wyn Davies, sy'n byw yn y brifddinas Seoul.

"Mae'r strydoedd i gyd fel afonydd ond mae 'na dirlithriadau a llifogydd wedi dinistrio cartrefi pobl ac wedi dinistrio 30,000 hectar o dir amaethyddol.

"Mae'r wlad wedi arfer efo'r tywydd monsoon - ond mae pethau'n gwaethygu - ac mae cynhesu byd eang yn amlwg yn gadael ei farc yma ac mae pobl yn gofyn am weithredu gan y llywodraeth."

Mae gwyddonwyr wedi rhybuddio y bydd cyfnodau o dywydd poeth eithafol yn digwydd yn amlach ac yn para'n hirach o ganlyniad i newid hinsawdd.

Mae arbenigwyr yn dweud Ewrop yn benodol yn cynhesu'n gynt o lawer na roedd eu modelu wedi rhagweld.

Bu farw dros 61,000 o bobl o ganlyniad i'r gwres llethol yn Ewrop y llynedd, ac mae 'na ofnau y bydd niferoedd tebyg yn marw eleni.

Pynciau cysylltiedig