Â鶹ԼÅÄ

Gofal cymdeithasol: Antur Waunfawr yn dangos y ffordd

Gofal Cymdeithasol CymruFfynhonnell y llun, Huw John
Disgrifiad o’r llun,

Enillodd Antur Waunfawr wobr am "ofalu am, a gwella llesiant y gweithlu" yng ngwobrau Gofal Cymdeithasol Cymru

  • Cyhoeddwyd

Ar adeg pan mae anawsterau wrth recriwtio staff a phrinder gweithwyr yn y sector gofal cymdeithasol yn cael effaith fawr, mae Antur Waunfawr yng Ngwynedd yn cael canmoliaeth am gyflwyno dulliau arloesol i geisio taclo'r broblem.

Mae'r fenter gymdeithasol - sy’n darparu hyfforddiant a chyfleoedd gwaith i bobl ag anableddau dysgu yn eu cymuned - yn 40 oed eleni, ac wrth nodi'r garreg filltir mae mwy nag un rheswm i ddathlu.

Yn ddiweddar fe gafodd y gwaith sy'n cael ei wneud yn Waunfawr wrth recriwtio a chadw staff ei gydnabod a'i wobrwyo ar lefel genedlaethol gan Gofal Cymdeithasol Cymru, sy'n gweithio i gyflwyno gwelliannau yn y maes.

Fe ddaeth Antur Waunfawr i'r brig a chipio gwobr am "ofalu am, a gwella llesiant y gweithlu".

Trosiant staff isel iawn

Ar hyn o bryd mae Antur Waunfawr yn cefnogi 70 o unigolion gydag anableddau dysgu, a nifer o'r rheiny ag anghenion cymhleth a dwys.

Mae'n cyflogi dros 100 o staff ar bedwar safle.

Mae trosiant staff yr Antur yn isel iawn - 5% o'i gymharu â 31% yn genedlaethol o ran gweithwyr yn y sector gofal cymdeithasol i oedolion.

Yn ogystal â hynny, mae nifer fawr o staff yn aros i weithio gyda'r Antur am flynyddoedd, sy'n groes i'r hyn sy'n digwydd yn genedlaethol ym maes gofal.

Dywedir hefyd bod nifer o staff sy'n dewis gadael, yn mynd ymlaen i aros ym maes iechyd neu ofal cymdeithasol ac yn datblygu eu gyrfa ymhellach.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Ellen Thirsk yn galw am roi'r un platfform i ofal cymdeithasol ac iechyd

Er bod Antur Waunfawr yn llwyddo i gadw a recriwtio staff, mae'r prif weithredwr Ellen Thirsk yn dweud y gallai newidiadau sylfaenol helpu i wella problemau wrth recriwtio a chynnal staff ar draws y sector.

"Mae 'na lot fawr 'da ni wedi'i roi fewn o ran cefnogaeth i staff - o ran cefnogaeth iechyd meddwl, cefnogaeth corfforol, sesiynau iechyd a llesiant," meddai.

"Ond dwi’n credu bod angen cydnabod bod y maes gofal cymdeithasol ar yr un platfform ag iechyd.

"Mae angen cyfartaledd o ran cyflog a mae angen cyfartaledd o ran cydnabyddiaeth.

"Mae Llywodraeth Cymru wedi helpu gyda'r cyflog byw gwirioneddol ond dwi o’r farn fod 'na lot mwy i 'neud a lot mwy o gydlynu y maes."

Disgrifiad o’r llun,

"Mae o’n deimlad mor braf cael datblygu pobl i lwyddo a rhoi pwrpas i fywyd," medd Cara Evans

Mae nifer o weithwyr y fenter wedi elwa o gyrsiau hyfforddi a datblygu gyrfa.

Fe ddechreuodd Cara Evans fel gwirfoddolwr yn yr Antur, a hi bellach yw'r rheolwr iechyd a lles.

"O'm mhrofiad i yn y maes, does 'na ddim un diwrnod yr un fath yma," meddai.

"Mae pob diwrnod mor hwylus, ti’n cael dysgu lot o sgiliau newydd yn ogystal â rhoi dy sgiliau di i bobl hefyd.

"Mae o’n deimlad mor braf cael datblygu pobl i lwyddo a rhoi pwrpas i fywyd, a dyna pam dwi’n mwynhau y job."

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Dr Ceryl Teleri Davies fod "cael partneriaeth rhwng iechyd a gwasanaethau gofal yn allweddol"

Wrth wella lles y gweithwyr mae Antur Waunfawr wedi bod yn gweithio gyda Phrifysgol Bangor ar ap newydd i helpu meddwlgarwch a lles.

Dywed Dr Ceryl Teleri Davies, darlithydd mewn gwaith cymdeithasol yn y brifysgol: "Mae ffocysu ar anghenion staff a chynlluniau hyfforddiant ac iechyd a llesiant yn hollbwysig ac mae ein prosiect meddwlgarwch, a'r ap 'Chilltastic' yn rhan o hyn.

"Mae cael partneriaeth rhwng iechyd a gwasanaethau gofal yn allweddol.

"Mae lot o sialensiau yn y sector yn sgil, ac ar ôl Covid, ond mae'r gweithlu yn rhoi pob un dim."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn "cydnabod y gwaith anhygoel mae gweithwyr gofal yn chwarae ac wedi ymrwymo i wella amodau gweithio a denu mwy o bobl i'r sector".

Maen nhw hefyd yn gweithio'n agos â'r undebau a chyflogwyr i wella amodau gweithio a chyfleoedd i ddatblygu gyrfa, meddai.

'Swydd ac ymdeimlad o berthyn'

Sefydlwyd Antur Waunfawr gan R Gwynn Davies bedwar degawd yn ôl.

Ei weledigaeth oedd cynnig gwaith go iawn gyda phwrpas i bobl ag anableddau dysgu.

Cyn hynny, derbyn gofal a gwaith mewn canolfannau arbennig oedd yr arferiad i bobl ag anableddau dysgu.

Yn ôl y fenter, roedd e wedi "paratoi y ffordd i oedolion ag anableddau dysgu, gan gynnig nid yn unig swydd, ond hefyd ymdeimlad dwys o berthyn o fewn eu cymuned".

Disgrifiad o’r llun,

Roedd rhieni Elen Lois Bee yn gweithio yn Antur Waunfawr, ac mae hi wedi eu dilyn yno hefyd

Elfen bwysig o waith yr Antur yw'r cysylltiad â'r gymuned leol.

Mae rhai o'r gweithwyr yn dilyn ôl traed eu rhieni fu yma yn gweithio o'u blaenau.

Yn eu plith mae Elen Lois Bee.

"Nes i gael fy magu gyda Mam a Dad yn gweithio yn yr Antur, felly trwy fy mhlentyndod mae Antur wedi bod yn part mawr o fy mywyd i, a'r unigolion yn enwedig," meddai.

"Mae ‘na luniau o Mam a Dad ar ddiwrnod eu priodas efo unigolion, felly mae 'na rai dwi’n 'nabod ers dwi’n 'fengach.

"Ac wedyn pan o'n i yn y coleg nes i 'neud work experience yma a dod nôl i 'nabod pawb, dod i weld sut oedd yr Antur yn gweithio. Nes i fwynhau’r wsos yna gymaint."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Antur Waunfawr wedi helpu Kim Roberts trwy ei hyfforddiant

Wrth gynnig cefnogaeth i'r staff, mae'r Antur hefyd yn helpu gweithwyr i ennill sgiliau all arwain at ddatblygu gyrfa a chyflogau gwell.

Un sydd wedi elwa o'r cyfleoedd hyfforddi yw Kim Roberts, sy'n weithiwr cefnogol.

"Mae'r Antur wedi rhoi fi trwy NVQ Lefel 2 Health and Social Care, so dwi wedi 'neud hwnna’n 2019 ar ôl dechrau’r job.

"A dwi wrthi yn 'neud application rŵan i 'neud NVQ Lefel 3 - rŵan bo fi’n uwch weithwraig alla i 'neud hwnna.

"Mae’r bobl yma wedi helpu fi i ddatblygu fy hun efo hyfforddiant a dringo’r ysgol yn y gwaith."

Mae'r galw am gefnogaeth i unigolion sydd ag anghenion gofal yn cynyddu, ac mae ymateb i hynny yn heriol.

Fe allai gwersi sydd wedi eu dysgu mewn canolfannau fel Antur Waunfawr dros y 40 mlynedd ddiwetha' helpu gwasanaethau ar draws Cymru, sydd eisoes dan bwysau, i geisio cwrdd â'r galw.