鶹Լ

'Roedden nhw'n crio - doedden nhw erioed wedi cael noson mor amazing'

Criw tu allan i glwb nosFfynhonnell y llun, Llwybrau Llesiant
Disgrifiad o’r llun,

Y criw tu allan i'r clwb nos ym Mangor

  • Cyhoeddwyd

Mae pobl gydag anableddau dysgu ac awtistiaeth wedi cael y profiad o fynd i glwb nos am y tro cyntaf diolch i brosiect newydd.

Mae’n gallu bod yn anodd i bobl sydd angen cymorth neu ofal i fedru cymdeithasu gyda’r nos oherwydd lleoliadau sy’n anaddas ar eu cyfer a gan fod shifftiau gweithwyr cynorthwyol yn aml yn gorffen rhy gynnar.

Cymaint yw’r broblem fel bod elusen Stay Up Late wedi cael ei ffurfio yn benodol i wella’r sefyllfa.

Ond yng Nghyngor Gwynedd mae ‘na un swyddog lles sydd hefyd yn gweithio mewn clwb nos - ac fe gafodd syniad.

Ffynhonnell y llun, Llwybrau Llesiant
Disgrifiad o’r llun,

Daeth dros 70 i'r noson ym Mangor ddiwedd Gorffennaf

Mae Catrin Jones yn rhan o dîm gofal cwsmer clwb Trilogy ym Mangor - ond ei phrif swydd ydi efo Llwybrau Llesiant, sy’n rhan o dîm Oedolion ag Anabledd Dysgu Cyngor Gwynedd.

“Dwi ‘di bod yn gweithio yn y nightclub ers naw mlynedd bron a dwi wedi bod isho gwneud noson fel yma erioed so mae pawb yn cael yr un profiad a be’ da ni’n cael,” meddai. “A dechra’ flwyddyn ar ôl siarad efo’r tîm a nhw’n gefnogol neshi decidio - go for it!”

Felly’n gynharach eleni fe drefnodd ddigwyddiad arbennig ar nos Iau - pan nad oedd y clwb yn agored i’r cyhoedd - ar gyfer pobl oedd yn defnyddio eu gwasanaethau yng Ngwynedd, Môn a Chonwy.

'Edrych ymlaen i'r nesa yn barod'

Aeth 47 i’r noson - gyda phob un ond dau yn cael eu profiad cyntaf erioed o fynd i glwb nos.

Oherwydd llwyddiant y noson fe benderfynwyd trefnu un arall ddiwedd Gorffennaf ac aeth 74 i’r noson.

“Ar y ffordd adra o’r un gynta’ roedd pobl yn crio ar y bws doedden nhw erioed wedi cael noson mor amazing,” meddai Catrin. “A cyn i'r noson dwytha orffen roedd pawb yn gofyn ‘pryd ma’r nesa’ ac yn edrych ymlaen yn barod.

“Nesh i siarad efo’r managers ar ôl y noson a roedda nhw’n hapus dros ben, a mor neis gweld gymaint o bobl 'di troi fyny. Roedd Trilogy yn amazing ac mor barod i helpu.”

Ffynhonnell y llun, Llwybrau Llesiant
Disgrifiad o’r llun,

Mwynhau'r profiad newydd o fod mewn clwb nos

Roedd staff y clwb nos a thîm Llwybrau Llesiant wedi gwneud ychydig o addasiadau i noson arferol mewn clwb nos - er enghraifft cael y sain ychydig yn is ac ychydig llai o oleuadau yn fflachio.

Roedd y bar coctêls a’r ardd hefyd ar gael fel lle i gael llonydd, ac roedd gweithwyr tîm iechyd galwedigaethol Cyngor Gwynedd yno i helpu, fel rhoi rampiau er mwyn i bawb fedru mynd ar y llwyfan neu i ddawnsio.

Yn ôl arweinydd tîm Llwybrau Llesiant, Eryl Price Williams: “M gwneud o fel hyn yn rhoi cyfle i gael y profiad mewn awyrgylch saff, maen nhw’n gwybod bod o’n le saff i fynd, bod pobl ma' nhw’n nabod yna os oes rhywbeth yn digwydd - ond does ‘na ddim wedi digwydd.

“Ond hefyd mae’n bwysig i roi authentic experience i bobl yn lle disgo mewn neuadd gymunedol neu rywbeth. Mae o hefyd yn rhoi foot in the door i rai pobl fasa isho mynd i nosweithiau eraill mewn clwb hefyd.”

'Pawb yn haeddu yr un cyfleoedd'

Aelod arall o’r tîm ydi Richard Cashman: “Edrych yn ôl i hanes pobl efo anabledd, dio ddim mor hir yn ôl - tua 30 mlynedd yn ôl - roedda nhw mewn institution ac yn gorfod mynd i lefydd i aros.

Fast forward i rŵan lle ‘da ni’n trio rhoi cyfleoedd mae pawb yn haeddu eu cael, ac i bobl gael cyfle i wneud rhywbeth dydyn nhw erioed wedi 'neud o’r blaen.

“M barriers i bobl ddod i bethau fel yma - diffyg staff, diffyg amser, cludiant - ac felly i gael 74 o bobl i ddod dros y barriers yna, dwi’n meddwl bod o’n amazing.”

Ffynhonnell y llun, Llwybrau Llesiant
Disgrifiad o’r llun,

Mae bwriad i gynnal noson arall cyn y Nadolig

Mae’r digwyddiad yn y clwb nos yn rhan o wasanaeth ehangach sy’n cynnig bob math o gefnogaeth i bobl efo anableddau dysgu, gan gynnwys sesiynau am arian, cyngor ar sut i fod yn ddiogel ar-lein, clwb cerdded, bingo a noson cwis.

Y bwriad ydi helpu unigolion i fagu sgiliau a rhoi cyfleoedd gwahanol iddyn nhw er mwyn iddyn nhw gael yr hyder i fyw mor annibynnol â phosib.

Meddai Eryl: “Efo gwasanaethau anabledd, yn aml mae support staff yn gorffen am 8pm felly tydi pobl ddim yn mynd i unlle ar ôl 8pm ond mae o’n iawn i bobl efo anableddau dysgu fod allan yn hwyr yn y nos os ydyn nhw eisiau.”

Pynciau cysylltiedig