Eisteddfod yr Urdd 'wedi gwrando' ar anghenion pobl anabl

Disgrifiad o'r llun, Ollie Griffith-Slater yw swyddog hygyrchedd cyntaf Eisteddfod yr Urdd

Mae'r Urdd yn gobeithio bod newidiadau ar y Faes yr Eisteddfod eleni yn mynd i wella'r profiad i bobl anabl.

Mae'r mudiad wedi derbyn beirniadaeth yn y gorffennol dros gyfleusterau anabl sydd ar y Maes.

Y llynedd, bu'n rhaid i deulu ofyn am help gan elusen cymorth cyntaf St John i newid merch, oedd yn defnyddio cadair olwyn, gan nad oedd "unman i gael".

Ers y feirniadaeth, mae'r mudiad wedi creu rôl newydd i hybu hygyrchedd (accessibility).

Mae newidiadau ar y maes ym Meifod hefyd yn cynnwys mwy o draciau cadarn ar y gwair, toiledau arbennig ac adnoddau i bobl fyddar.

Disgrifiad o'r llun, Mae'r Urdd wedi cychwyn cyd-weithio gyda sawl sefydliad i wellau hygyrchedd ar faes yr Eisteddfod

Ollie Griffith-Slater yw swyddog hygyrchedd yr Eisteddfod, rôl newydd i'r Urdd ers gŵyl 2023 yn Llanymddyfri.

Dywed bod yr Eisteddfod yn ystyried amryw o gyflyrau gwahanol wrth weithio ar hygyrchedd y maes.

"Dwi'n gobeithio bydd yr adborth yn really good achos ni 'di rhoi gymaint o amser a gwaith i fewn i wneud y maes yn hygyrch i pawb," meddai.

"Dim ond 3% neu 4% o [bobl anabl] sydd mewn cadair olwyn so mae gymaint o pobl 'efo anableddau 'di pobl ddim yn gweld."

Disgrifiad o'r fideo, Dywed Cat Dafydd fod yr Eisteddfod wedi "newid lot o bethau" er mwyn gwneud y maes yn fwy hygyrch

Ychwanegodd Ollie: "Mae'n gwneud gwahaniaeth massive achos allan nhw deimlo yn rhan o Eisteddfod yr Urdd, a maen nhw yn, a bydd mwy o bobl yn dod."

Yn ddefnyddiwr cadair olwyn ei hun, mae Mr Griffith-Slater yn credu bod cydweithrediad yr Urdd gydag ymgyrchoedd a phobl anabl wedi arwain at welliannau pellach eleni.

Dywedodd Mr Griffith-Slater: "Ni ffili gallu dweud 'da ni'n mynd yn wrong yn enfawr oherwydd pob tro, ni'n dysgu.

"Pob blwyddyn ni moyn mynd yn well."

Yr Eisteddfod 'wedi gwrando'

Mae'r mudiad hefyd wedi partneru gyda Disability Arts Cymru a chwmni theatr Taking Flight er mwyn ymrwymo i sicrhau bod digwyddiadau celfyddydol yr Urdd, gan gynnwys yr Eisteddfod, yn fwy hygyrch i gystadleuwyr ac ymwelwyr.

Fel rhan o'r bartneriaeth, bydd y mudiad yn creu pecynnau gwybodaeth ar gyfer ymwelwyr dall a byddar, ac yn rhoi gwersi cychwynnol iaith arwyddo BSL i holl staff yr Eisteddfod.

Un sy'n falch o'r newidiadau yma yw Cat Dafydd, sy'n defnyddio cadair olwyn.

Wrth gyfeirio at drafferthion y mae wedi gweld yn y gorffennol, dywedodd: "O'r blaen o'n i wedi bod yma mae wedi bod yn anodd iawn i symud rownd, anodd iawn i ffeindio rhywle addas i fynd i'r tÅ· bach.

"[Mae wedi bod yn] anodd i fynd mewn i'r pafiliwn a ffeindio rhywle i rolio i aros ond tro 'ma mae'n wahanol.

"Ma' lot o bethau dwi'n gallu gweld maen nhw wedi rili ystyried ac wedi newid."

Dywedodd ei bod hi'n haws i fynd o un lle i'r llall ar y maes eleni, a bod y newidiadau yn "bwysig achos mae'n gwneud i fi feddwl maen nhw wedi gwrando".

"Dwi'n cwyno lot amdano pethau i 'neud e'n deg i bobl mewn cadair olwyn, ac maen nhw wedi gwrando, dim jyst i fi, mae pob anabledd yn wahanol, maen nhw wedi rhoi BSL mewn, maen nhw wedi newid lot o bethau, mae'n bwysig iawn".

Er hyn, mae'n dweud nad oes modd iddi fynd at y Pentre Bwyd na Llwyfan y Canlyniadau, ond bod y sefyllfa tipyn yn well.

Disgrifiad o'r llun, Mae Llio Maddocks, Cyfarwyddwr Celfyddydau’r Urdd yn annog pobl i fod yn rhan o'r Fforwm Hygyrchedd

Gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru, mae'r Urdd yn chwilio am unigolion rhwng 16-25 oed i eistedd ar Fforwm Hygyrchedd newydd er mwyn helpu i weithredu ei strategaeth 'Urdd i bawb'.

Bydd y panel yn cydweithio gyda threfnwyr Eisteddfod yr Urdd drwy rannu eu profiadau neu arbenigedd o'r maes anableddau a hygyrchedd i sicrhau bod yr ŵyl yn gynhwysol.

Yn ogystal â'r panel, bydd y mudiad hefyd yn gweithio gydag Attitude is Everything, sefydliad sy'n gweithio i wella’r mynediad sydd gan bobl anabl i ddigwyddiadau cerddoriaeth byw.

Dywedodd Llio Maddocks, Cyfarwyddwr Celfyddydau’r Urdd, fod yr eisteddfod yn "un o uchafbwyntiau diwylliannol ein calendr Cymreig, ac mae gwyliau celfyddydol yn haeddu cael eu mwynhau gan bawb".