Â鶹ԼÅÄ

Cyfleusterau anabl maes Eisteddfod yr Urdd 'ddim yn ddigonol'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Disgrifiad,

Fe aeth Vanessa â'i merch, Hannah sy'n defnyddio cadair olwyn, i'r maes ddydd Mercher

Mae mam i fenyw ifanc o Sir Gaerfyrddin sydd ag anabledd yn dweud nad yw cyfleusterau maes Eisteddfod yr Urdd yn ddigon da.

Fe aeth Vanessa Rumsby o Landdarog â'i merch 18 oed, Hannah sy'n defnyddio cadair olwyn, i'r ŵyl yn Llanymddyfri ddydd Mercher.

Roedd yn rhaid i'r teulu ofyn am help gan elusen cymorth cyntaf St John i newid Hannah gan nad oedd "unman i gael".

Fe wnaeth llefarydd ar ran yr Urdd ymddiheuro ar ôl clywed am brofiad y teulu.

Mae gan Hannah sawl anabledd gwahanol sy'n golygu fod cerdded yn gallu bod yn anodd. Mae'n defnyddio cadair olwyn ac mae angen gofal arni hefyd i'w newid a'i bwydo.

Yn ôl Vanessa, mae'r teulu'n arfer osgoi gwyliau fel yr Eisteddfod oherwydd yr heriau gyda chyfleusterau, ond gan fod yr ŵyl yn un lleol eleni, fe benderfynon nhw ymweld â'r maes.

"Ma' Hannah 'di mwynhau'r gerddoriaeth, ma' hi 'di mwynhau gweld ffrindiau â phobl ni'n 'nabod," dywedodd.

"Ond y peth mwya' anodd yw'r cyfleusterau newid a'r toiledau anabl. Does 'na ddim cyfleusterau newid o beth y'n ni 'di gallu ffeindio.

"Ma' portaloos sy' bach mwy o size ar gyfer y rhai anabl ond o'dd e'n hynod o dywyll mewn 'na - o'dd dim lle iddi hi sefyll, ac i'r gader ac i fi fynd mewn hefyd.

"Ni 'di ymdopi gyda help cymorth cynta' St John ond wedi gorfod gofyn am y cymorth 'na, o'dd dim unman i gael."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Hannah'n defnyddio cadair olwyn a'r her fwyaf ar y maes oedd cyfleusterau newid, yn ôl ei mam, Vanessa

Dywedodd Vanessa ei bod wedi edrych ar wefan yr Urdd cyn dod i'r maes, ond dywedodd na ddaeth o hyd i unrhyw gymorth.

"'Nes i holi ar [grŵp] Rhwydwaith Menywod Cymru ar Facebook a'r un teimlad o'n i'n ca'l, bod 'na ddiffyg cyfleusterau 'ma," meddai.

Neges y mudiad eleni yw 'Urdd i Bawb', ond dywedodd Vanessa fod hynny'n fwy perthnasol "i rai nag eraill".

"Byddwn ni'n bendant yn dod eto ond ma' isie' i sefydliadau fel hyn i feddwl 'mlaen a darparu'r cyfleusterau," meddai.

"Doedd y cyfleusterau ar ein cyfer ni ddim yn ddigonol heddi'.

"Mae hi yn Urdd i Bawb ond dwi'n credu bod y profiad i rai yn well nag eraill."

'Siomedig ac yn ymddiheuro'

Mae'r Urdd wedi ymddiheuro gan ddweud y byddan nhw'n adolygu eu cyfleusterau ar ôl yr eisteddfod.

"Rydym yn siomedig i glywed nad yw'r unigolyn wedi cael profiad positif ar faes yr eisteddfod," meddai llefarydd.

"Rydym am sicrhau fod profiad ein holl ymwelwyr yn gadarnhaol.

"Mae maes yr eisteddfod yn cydymffurfio gyda gofynion digwyddiadau achlysurol i unigolion ag anableddau, ond mae gennym gyfrifoldeb i sicrhau fod y profiad yn well na hyn."

Fe ddywedon nhw mai eu bwriad ar ôl yr Eisteddfod yw cynnal "awdit allanol o'n cyfleusterau ar gyfer ymwelwyr anabl er mwyn gwella ein gwasanaeth i'r dyfodol".