Â鶹ԼÅÄ

Arogleuon gwael o safle tirlenwi dadleuol 'heb eu datrys'

Safle tirlenwiFfynhonnell y llun, Colin Barnett
Disgrifiad o’r llun,

Mae Dauson Environmental Group yn dweud eu bod wedi mynd i'r afael â'r sefyllfa

  • Cyhoeddwyd

Mae pobl sy'n byw ger safle tirlenwi dadleuol Withyhedge wedi gwrthod honiad gan y cwmni sy'n gyfrifol amdano eu bod wedi mynd i'r afael ag arogleuon gwael.

Yn eu datganiad diweddaraf, dywed Dauson Environmental Group eu bod yn "hyderus bod y sefyllfa o ran arogl wedi'u datrys".

Dywedodd Colin Barnett o ymgyrch Stop the Stink fod y gymuned yn dal i adrodd problemau "bob dydd".

Dywedodd y rheoleiddiwr amgylcheddol, Cyfoeth Naturiol Cymru bod trafferthion Withyhedge yn "gwbl annerbyniol" a bod eu hymchwiliadau yn parhau.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r rheoleiddiwr "wedi methu, a methu, a methu", medd Colin Barnett o ymgyrch Stop the Stink

Mae trigolion wedi bod yn adrodd pryderon i CNC ynglŷn â'r safle ger Hwlffordd, Sir Benfro ers mis Hydref 2023, gan ddisgrifio'r lle fel "stink bomb on steroids".

Mae'r rheoleiddiwr wedi cyflwyno dau hysbysiad gorfodi, gyda'r diweddaraf yn rhoi tan 14 Mai i'r cwmni fynd i'r afael â'r problemau.

Dywedodd Mr Barnett bod dros 40 niwrnod wedi bod ers hynny â'r gymuned yn dal i "ddioddef", gyda'r arogleuon yn effeithio ar iechyd meddwl pobl a chyflyrau fel asthma.

Roedd e'n cydnabod bod yna ddyddiau lle "efallai" nad oedd yr arogl mor wael ag o'r blaen, ond "ddylai'r gwynt yna ddim fod yn dod y tu hwnt i ffin y safle", meddai.

"Mae hyn wedi bod yn digwydd ers 10 mis bellach, ac maen nhw wedi mynnu wrthon ni y bydd hyn yn stopio droeon - maen nhw wedi methu, a methu, a methu," meddai, gan alw am ymchwiliad i'r modd y mae CNC wedi delio â'r mater.

'Dim atebion cyflym'

Yr wythnos ddiwethaf, fe ddywedodd adroddiad gan Iechyd Cyhoeddus Cymru bod lefelau hydrogen sylffid yn yr awyr ger y safle a oedd y tu hwnt i ganllawiau Sefydliad Iechyd y Byd ar brydiau ym mis Mawrth a mis Ebrill.

Gall hyn arwain at arogl cryf sy'n debyg i wyau, ac fe wnaeth y corff ailadrodd ei gyngor i bobl leol gau ffenestri a drysau "pan fydd arogleuon gwael yn codi" a holi am gyngor meddygol os oedden nhw'n teimlo'n sâl.

Dywedodd Claire Holman, llywydd y Sefydliad Rheoli Ansawdd Aer, bod y canfyddiadau yn tanlinellu "bod 'na broblem go iawn" a bod angen i'r rheoleiddiwr weithredu.

Gall problemau gydag arogleuon "barhau am flynyddoedd mewn rhai safleoedd tirlenwi ac yn draddodiadol mae'r rheoleiddwyr wedi bod yn araf i ymateb," meddai.

Mae gwaith monitro ac adferiad yn "cymryd amser," ychwanegodd.

"'Dw i ddim yn credu y bydd yna unrhyw atebion cyflym."

Disgrifiad o’r llun,

Roedd y safle yn destun rhaglen Dispatches yr wythnos ddiwethaf

Dywedodd llefarydd ar ran Dauson Environmental Group bod y cwmni wedi cyflwyno mesurau yn dilyn trafodaeth gyda CNC "i sicrhau bod unrhyw arogl o'r safle yn cael ei leihau ac nad yw'n effeithio ar y gymuned leol".

"Ry'n ni unwaith eto yn ymddiheurio am yr effaith y mae hyn wedi'i gael ar bobl leol a'n cymuned," meddai.

Ychwanegodd bod y cwmni wedi buddsoddi dros £5m er mwyn gwneud gwelliannau sylweddol ers cymryd perchnogaeth o'r safle yn 2022.

Wrth ymateb i honiadau a wnaed yn rhaglen Dispatches Channel 4 yn ddiweddar, fe ychwanegoedd nad oedd y cwmni yn derbyn gwastraff nad oedd yn cydymffurfio â'u trwydded - gan gynnwys plastrfwrdd, sy'n gallu cynhyrchu hydrogen sylffid wrth iddo ddirywio.

Mae Â鶹ԼÅÄ Cymru wedi siarad ag un o'r cyn-weithwyr a ymddangosodd ar y rhaglen, a fu'n codi cwestiynau ynglÅ·n â'r ffordd y cafodd trwytholch - sef hylif llygredig sy'n ffurfio mewn safle tirlenwi - ei drin.

Dywedodd Andrew Phillips, oedd yn gyrru tractor, nad oedd y safle'n medru "ymdopi â faint o drwytholch" roedden nhw'n ei gynhyrchu, a'i fod wedi derbyn cyfarwyddyd i'w ailosod ar y gwastraff, neu "roedden nhw'n cloddio twll mawr ac o'n i'n rhoi'r trwytholch yn y twll".

"Byswn i'n dychmygu y byddai'n ymdoddi ac achosi mwy o wynt," meddai.

'Arfer derbyniol'

Dywedodd Dauson Environmental Group bod trwytholch ar y safle yn cael ei reoli'n llym yn unol â'u cynllun.

"Mae ail-gylchynni trwytholch yn arfer derbyniol ac nid yw'n torri amodau ein trwydded.

"Mae dros 35,000 tunnell o drwytholch hefyd wedi'i symud o'r safle dros y flwyddyn ddiwethaf i'w drin."

Mae cyfarwyddwr y cwmni, David Neal - sydd wedi'i gael yn euog ddwywaith o droseddau amgylcheddol - wrth galon y ffrae ynglŷn â rhodd o £200,000 o'i gwmni i ymgyrch arweinyddiaeth y Prif Weinidog, Vaughan Gething.

Mae Mr Gething bob amser wedi dweud nad oedd unrhyw rheolau wedi'u torri ynghylch y rhodd.

Disgrifiad o’r llun,

Cyfarwyddwr Dauson Environmental Group, David Neal - sydd wedi ei gael yn euog o droseddau amgylcheddol ddwywaith

Dywedodd llefarydd ar ran CNC mai eu blaenoriaeth oedd mynnu bod rheolwyr y safle yn mynd i'r afael ag arogleuon o'r safle.

"Mae hynny ar wahân i'n hymchwiliad, allai arwain at erlyniadau yn y dyfodol.

"Mae’r problemau mae’r bobl sy’n byw ger safle tirlenwi Withyhedge wedi’u profi dros y misoedd diwethaf wedi bod yn annerbyniol.

"Rydyn ni wedi bod ar y safle’n aml ers y cynnydd yn nifer y cwynion am arogleuon ym mis Hydref 2023. Mae hyn yn ein helpu i benderfynu a oes angen gweithredu pellach, gan ystyried yr holl opsiynau sydd ar gael o dan y rheoliadau."

Mae CNC yn dal i dderbyn adroddiadau arogl gan bobl leol yn ddyddiol, meddai, ac yn parhau i "asesu'r arogleuon".

"Adroddiadau gan y cyhoedd sy'n arwain at yr asesiadau hyn, felly ry’n ni’n annog pobl i barhau i adrodd unrhyw arogleuon cyn gynted â phosib."

Pynciau cysylltiedig