鶹Լ

Protest yn erbyn arogl safle tirlenwi yn Sir Benfro

Withyhedge
Disgrifiad o’r llun,

Eirlys Doncaster a Lou Lavis o Spittle yn protestio tu allan i adeilad Cyngor Sir Penfro

  • Cyhoeddwyd

Daeth rhwng 40-50 o bobl ynghyd y tu allan i adeilad Cyngor Sir Penfro yn Hwlffordd fore Mercher i brotestio am yr arogl o safle tirlenwi Withyhedge.

Yn ôl pobl leol, dydyn nhw ddim yn gallu agor eu ffenestri ar adegau am fod yr arogl mor wael, ac maen nhw’n poeni am yr effaith ar werth eu cartrefi.

Fe wnaeth Cyfoeth Naturiol Cymru ymweld â’r safle ar 8 Ebrill a bydd yn cyfarfod y brynhawn Mercher i drafod y camau nesaf.

Dywedodd gweithredwyr y safle, RML, eu bod yn cydnabod nad yw’r aroglau wedi “lleihau’n llwyr".

Cafodd pobl leol wybod y byddai'r arogl, sydd wedi bod yn amlwg am y naw mis diwethaf, wedi'i ddatrys erbyn 5 Ebrill.

Fodd bynnag, mae'r protestwyr yn dweud ei fod yn dal yn broblem.

Mae Lou Lavis, 46 o Spittle, yn dweud bod y sefyllfa’n “enbyd”.

“Chi'n deffro yn y bore ac yn agor y drws ac mae'n taro chi," meddai.

"Mae'n cymryd eich anadl i ffwrdd. Mae pobl wedi dweud eu bod nhw wedi bod yn sâl yn gorfforol.

“Rydyn ni gyd wedi bod yn amyneddgar iawn. Cafon ni wybod y byddai pethau'n cael eu datrys, ond a dweud y gwir mae'n waeth.”

Disgrifiad o’r llun,

"Mae'r arogl dal yma," meddai'r ymgyrchwr Colin Barnett

Ychwanegodd Colin Barnett o Spittle - y prif ymgyrchydd y tu ôl i Stop the Stink: “Roedden ni’n wirioneddol obeithiol ar ôl aros deufis am y cynllun hwn y byddai hyn wedi ei ddatrys, ond mae’r arogl dal yma.

"Felly rydym yn ôl yn ymgyrchu ac yn siomedig iawn eu bod wedi methu’r trigolion unwaith eto.”

Disgrifiad o’r llun,

Rhai o'r protestwyr yn sefyll yn y glaw tu allan i adeilad Cyngor Sir Penfro fore Mercher

Dydd Llun fe wnaeth Paul Davies, yr Aelod o'r Senedd dros Breseli Penfro, ryddhau llythyr agored i CNC a’r prif weinidog Vaughan Gething yn gofyn am ddirymu trwydded RLM.

“Ni wedi cael addewidion gan y cwmni bod hyn yn mynd i gael ei ddelio gyda cyn dydd Gwener diwethaf a dyw hynny ddim wedi digwydd,” meddai.

“Felly dyna pam dwi’n galw ar Gyfoeth Naturiol Cymru i weithredu ac ar Lywodraeth Cymru i ymyrryd.

"Dwi’n credu nawr y dylai’r drwydded gael ei thynnu yn ôl nes bod y sefyllfa yma’n cael ei delio gyda.”

Ffynhonnell y llun, Colin Barnett
Disgrifiad o’r llun,

Mae pobl wedi bod yn cwyno am arogleuon gwael o safle Withyhedge ers mis Hydref 2023

Mewn datganiad fe ddywedodd RML: “Mae RML bellach wedi cwblhau’r gwaith peirianyddol y gofynnwyd amdano gan CNC ac yn unol â Hysbysiad Rheoliad 36.

"Roedd y gwaith yn golygu bod angen symud llawer iawn o wastraff o ben y safle tirlenwi, capio'r celloedd blaenorol a gosod y rhwydwaith casglu nwy.

"Yr wythnos ddiwethaf daeth y system tynnu nwy yn weithredol, ac mae'r nwyon bellach yn cael eu casglu. Bydd casglu'r nwy hwn yn cymryd rhai wythnosau."

Ychwanegodd y cwmni: "Ers capio'r hen gelloedd gwastraff, mae'r arogleuon wedi lleihau'n sylweddol, ond nid ydynt wedi lleihau'n llwyr."

Mae CNC wedi cynnal archwiliad o'r safle, ac maen nhw nawr yn aros am yr adroddiad.

Dywedodd CNC eu bod hefyd wedi cyhoeddi "hysbysiad rheoliad 35 ar y safle ar 4 Ebrill".

"Mae hyn yn golygu y bydd angen i RLM ddarparu dogfennau o’r holl wastraff a waredir ar y safle rhwng mis Hydref 2023 a mis Mawrth 2024," meddai llefarydd.

Pynciau cysylltiedig