鶹Լ

Talu £500 y flwyddyn am docyn bws ysgol yn 'hollol warthus'

Beca EvansFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Beca Evans yn dweud fod hi'n fater o "postcode lottery" i dderbyn trafnidiaeth am ddim yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd

Mae mam disgybl chweched dosbarth yng Nghaerdydd yn dweud bod gorfod talu £500 y flwyddyn am le ar fws ysgol i'w merch yn "hollol warthus".

Dywedodd Beca Evans, sy'n byw yn ardal Grangetown, fod y sefyllfa yn achosi "straen enfawr" a'i fod yn waeth i rai teuluoedd yr ardal "ddifreintiedig" honno.

Mae'n dweud fod angen cysoni'r taliadau teithio i ddisgyblion chweched dosbarth ar draws Cymru.

Mae 鶹Լ Cymru Fyw wedi canfod bod gwahaniaeth mawr ledled Cymru, gyda nifer o siroedd yn cynnig trafnidiaeth am ddim.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd fod disgyblion chweched dosbarth sydd ar incwm isel yn gymwys i £40 yr wythnos fel rhan o'r Lwfans Cynhaliaeth Addysg, gan ddweud fod £10 o'r swm i fynd tuag at gostau teithio.

Mae ond yn orfodol i awdurdodau lleol ddarparu bws am ddim i'r rheiny sy'n gymwys.

Mae'n rhaid i gynghorau sir ddarparu cludiant am ddim o'r cartref i'r ysgol i ddysgwyr o oedran ysgol gorfodol sy'n mynychu'r ysgol uwchradd sy'n byw 3 milltir neu fwy o'u hysgol addas agosaf.

Ond dyw disgyblion addysg ôl-16 ddim yn gymwys, ac felly dewis yr awdurdodau lleol yw penderfynu sut maen nhw'n delio â hynny.

Fe wnaeth 鶹Լ Cymru Fyw holi holl siroedd Cymru i weld beth yw’r tâl maen nhw’n ei godi am 'sedd wag' ar fws ysgol i ddisgyblion chweched dosbarth y sir.

O'r 19 wnaeth ymateb, dywedodd 12 sir eu bod yn cynnig 'sedd wag' yn ddi-dâl yn dilyn proses ymgeisio, tra bod sedd wag i ddisgybl chweched yng Nghaerdydd yn costio £500 y flwyddyn.

Cafodd Beca Evans wybod bod yn rhaid iddi dalu £500 os yw ei merch - Martha - eisiau lle ar fws i'r ysgol.

Er i gerdyn bws ei merch arall, sydd yn yr un ysgol, gyrraedd drwy'r post cyn dechrau'r tymor, doedd dim sôn am gerdyn bws Martha, a oedd yn dechrau yn y chweched dosbarth yn Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf.

Cafodd wybod y byddai’n rhaid iddi wneud cais am 'sedd wag' ar y bws am fod blaenoriaeth i blant iau yr ysgol, sy'n rheswm digon "rhesymol" meddai Beca.

Yna cafodd wybod y byddai’n rhaid iddi dalu £500 os oedd yn dymuno cael sedd i’w merch ar y bws.

"Dyle fod y cyngor yn hybu addysg bellach, yn cefnogi rhieni i anfon eu plant i'r chweched dosbarth," meddai.

Ychwanegodd fod angen cysoni'r taliadau ar draws Cymru, gan ddweud ei fod yn fater o "postcode lottery" i dderbyn trafnidiaeth am ddim.

'Barus tu hwnt'

Gyda'i merch arall yn defnyddio'r bws yn rheolaidd, dywedodd ei bod yn ymwybodol o lefydd gwag ar y bws.

Ychwanegodd: "Mae'n teimlo'n farus tu hwnt i fi gan fod y bws yna yn cael ei ddarparu ta beth, dyw e ddim yn costio unrhyw beth yn ychwanegol i'r Cyngor.

"Mae £500 yn lot fawr o arian, yn enwedig nawr gyda phethau mor anodd i deuluoedd, ac mae £500 i bobl sy'n dod o'r ardaloedd yma yn benodol hyd yn oed yn anoddach."

Dywedodd nad oes trafnidiaeth gyhoeddus ddigonol y byddai'n gallu ei ddefnyddio fel trafnidiaeth i'r ysgol, gan ychwanegu y bydd yn rhaid i'w merch gerdded tipyn i ddal y bws neu'r drên agosaf.

Dywedodd fod y sefyllfa yn "straen enfawr" arni hi a'i theulu.

"Mae'r gaeaf yn dod nawr, ma' hyd yn oed yn mynd i fod yn anoddach. Dwi ddim eisiau fy merch 16 oed yn gorfod cerdded y strydoedd ar ei phen ei hun am 20 munud neu hanner awr i ddal bws."

Mae'n awyddus i weld newid am ei fod yn "ymarferol rili rili anodd ar y funud".

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae merched Beca Evans yn ddisgyblion yn Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd fod disgyblion chweched dosbarth sydd ar incwm isel yn gymwys i £40 fel rhan o'r Lwfans Cynhaliaeth Addysg, gan ddweud fod £10 o'r swm i fynd tuag at gostau teithio.

Dywedon nhw fod "trafnidiaeth gyhoeddus yn rhedeg gan Cardiff Bus rhwng Grangetown ac Ysgol Glantaf lle mae gan y disgyblion opsiwn i brynu tocyn wythnos am £12".

Maen nhw hefyd yn cydnabod fod modd talu'r swm o £500 mewn rhannau, gan dalu £50 y mis sydd gyfystyr â thua £12 yr wythnos.

Pwy sy'n gymwys i gael trafnidiaeth ysgol am ddim?

Yn ôl Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008, mae'n ofynnol i awdurdodau lleol:

  • "ddarparu cludiant am ddim o'r cartref i'r ysgol i ddysgwyr o oedran ysgol gorfodol sy'n mynychu'r ysgol gynradd sy'n byw 2 filltir neu fwy o'u hysgol addas agosaf;

  • "ddarparu cludiant am ddim o'r cartref i'r ysgol i ddysgwyr o oedran ysgol gorfodol sy'n mynychu'r ysgol uwchradd sy'n byw 3 milltir neu fwy o'u hysgol addas agosaf.”

Mae Llywodraeth Cymru yn nodi "nad oes rheidrwydd ar awdurdodau lleol i ariannu cludiant ar gyfer dysgwyr ôl-16 ond gallant ystyried hyn yn ôl disgresiwn".

Er hyn, gall myfyrwyr ôl-16 fod yn gymwys i gael cludiant am ddim os ydyn nhw:

  • dros 16 oed, yn astudio yn eich ysgol leol ac yn teithio dros bellter penodol i gyrraedd yno;

  • rhwng 16 a 19 oed ac yn astudio'n llawn amser mewn coleg addysg bellach;

  • yn 19 oed neu'n hŷn neu'n astudio'n rhan-amser.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru "er nad oes dyletswydd statudol ar awdurdodau lleol i ddarparu cludiant am ddim i ddysgwyr ôl-16 mewn addysg bellach neu hyfforddiant prif ffrwd" fod yna "ystod o gynlluniau yn cynnig pris gostyngedig a thrafnidiaeth am ddim i blant a phobl ifanc yng Nghymru".