Â鶹ԼÅÄ

Talu am fws ysgol: Cyngor Ceredigion yn ymgynghori

  • Cyhoeddwyd
Bws ysgolFfynhonnell y llun, Thinkstock
Disgrifiad o’r llun,

Does dim rhaid i unrhyw awdurdod lleol dalu am gludo plant dros 16 oed o'u cartrefi i'w hysgol neu goleg

Mae cyngor wedi cytuno i ymgynghori oherwydd cynllun fyddai'n golygu bod myfyrwyr chweched ddosbarth yn gorfod talu bron i £400 y flwyddyn i ddefnyddio bws ysgol.

Byddai'r cynllun yng Ngheredigion i godi tâl o £130 y tymor - £390 y flwyddyn - yn dod i rym o fis Medi 2017 ymlaen petai'n cael ei gymeradwyo.

Nid yw'n orfodol i awdurdodau lleol dalu am gludo plant dros 16 oed o'u cartrefi i'w hysgol neu goleg.

Ond mae nifer o siroedd yn ailystyried polisïau cludiant am ddim oherwydd toriadau yn y grant maen nhw'n ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru.

'Sefyllfa anodd iawn'

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Ellen ap Gwynn nad oedd y penderfyniad yn "plesio" aelodau'r cyngor

Dywedodd arweinydd Cyngor Ceredigion, Ellen ap Gwynn, wrth y cabinet nad oedd codi tâl am drafnidiaeth yn "plesio" aelodau.

"Mae'n sefyllfa anodd iawn ond mae'n rhaid i ni gymryd sylw o'r hyn sy'n digwydd mewn awdurdodau agos," meddai.

Gofynnodd rhai cynghorwyr pam bod y cyngor yn gwneud tro pedol ar addewid i ddisgyblion yn ardal Tregaron y byddai trafnidiaeth am ddim yn parhau ar ôl i chweched dosbarth Ysgol Henry Richard gau ym mis Gorffennaf y llynedd.

Dywedodd y Cynghorydd Hag Harries, sy'n gyfrifol am y portffolio addysg, fod y setliad yn deg i bawb, a bod rhaid i'r cyngor wneud toriadau oherwydd eu cyllideb.

£900,514

Yn ôl papur i'r cabinet, roedd sedd ar gyfer disgybl ôl-16 yn costio £1,164 y flwyddyn ar gyfartaledd a 773 o fyfyrwyr yn elwa ar hyn.

Yr amcangyfrif yw mai £900,514 fyddai cost y ddarpariaeth.

Wedi sêl bendith y cyngor bydd yr ymgynghoriad yn dechrau ar 22 Chwefror.

Yr wythnos ddiwetha' daeth i'r amlwg fod myfyrwyr yng Ngholeg Meirion-Dwyfor yn sy'n ystyried codi pris tocyn bws i gyrraedd safle Dolgellau o £60 i £100 y tymor o fis Medi ymlaen.

Dywedodd Cyngor Gwynedd fod y prisiau wedi aros yr un fath ers pum mlynedd a'u bod yn sybsideiddio'r prisiau presennol hyd at 80%.