Â鶹ԼÅÄ

Pentref yn y gogledd gam yn nes at gael enw Cymraeg swyddogol

Pentre CythraulFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae panel o arbenigwyr wedi argymell 'Pentre Cythrel' fel enw Cymraeg swyddogol newydd New Brighton

  • Cyhoeddwyd

Mae pentref yn Sir y Fflint gam yn nes at gael enw Cymraeg swyddogol newydd.

Am genedlaethau mae pentref New Brighton, ger Yr Wyddgrug, wedi ei alw’n Gymraeg yn ‘Pentre Cythraul’ sy’n cyfieithu’n fras fel 'The Devil’s Village' yn Saesneg.

Mae trigolion wedi bod yn ymgyrchu i’r enw gael ei dderbyn yn swyddogol ochr yn ochr â’r enw Saesneg, New Brighton.

Ddydd Iau fe gytunodd cynghorwyr lleol sillafiad gwahanol, ‘Pentre Cythrel’, sy’n cael ei argymell gan banel o arbenigwyr.

Does dim cofnod ysgrifenedig o’r enw ‘Pentre Cythraul’ mewn dogfennau hanesyddol.

Ond mae’r enw i’w weld ar y neuadd gymunedol yno ac ar gyfrif gwefan gymdeithasol y pentref.

Roedd trigolion eisiau i’r enw gael ei dderbyn ar restr safonol enwau llefydd Comisiynydd y Gymraeg.

Mae’r rhestr yn cael ei llunio gan Banel Safoni Enwau Lleoedd sy’n argymell mai ‘Pentre Cythrel’ ddylai’r enw swyddogol fod.

Ynganiad Cymreig

Casglodd y panel bod tarddiad tebygol yr enw ‘Pentre Cythraul’ ychydig yn llai lliwgar na mae’n awgrymu.

Yn hytrach na chysylltiad hanesyddol efo’r isfyd, mae’n ymddangos bod yr enw wedi dod gan y diwydiannwr Josiah Catherall a gododd rai o’r tai cyntaf yn yr ardal yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Mae’n debygol mai’r ynganiad Cymreig ar y pentref gychwynnodd y gŵr hwnnw gafodd ei ddefnyddio wedyn yn Gymraeg am ddegawdau.

Felly yn hytrach na ‘Pentre Cythraul’, y sillafiad swyddogol sy’n cael ei argymell gan y panel safoni ydy ‘Pentre Cythrel’ - sy’n nes at enw’r diwydiannwr gwreiddiol.

Ddydd Iau fe bleidleisiodd Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol Cyngor Sir y Fflint o blaid derbyn y sillafiad sy’n cael ei argymell gan swyddfa Comisiynydd y Gymraeg.

Fe ataliodd un aelod ei bleidlais.

Bydd Cabinet y Cyngor yn trafod y mater ddydd Mawrth ac os byddan nhw’n ei gymeradwyo, dyna fydd yr enw swyddogol Cymraeg ar restr y Panel Safoni.

Pynciau cysylltiedig