Â鶹ԼÅÄ

Ail dymor fel cadeirydd Cymdeithas yr Iaith i Joseff Gnagbo

Joseff GnagboFfynhonnell y llun, Cymdeithas yr Iaith
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Joseff Gnagbo ei ail-ethol mewn cyfarfod cyffredinol ddydd Sadwrn

  • Cyhoeddwyd

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi cadarnhau y bydd Joseff Gnagbo yn parhau yn gadeirydd ar y mudiad.

Yng nghyfarfod cyffredinol y gymdeithas yn Bow Street ddydd Sadwrn, penderfynwyd y byddai Mr Gnagbo - a wnaeth ffoi i Gymru o'r Traeth Ifori yng ngorllewin Affrica - yn parhau yn y rôl am ail dymor.

Cafodd ei benodi i'r rôl yn wreiddiol ym mis Hydref 2023 - a hynny ar ôl bod yn weithgar gyda Chymdeithas yr Iaith ers sawl blwyddyn.

Wedi'r cyhoeddiad, dywedodd Mr Gnagbo fod y mudiad "wedi adeiladu llawer" yn ei flwyddyn gyntaf yn gadeirydd, "ond mae angen adeiladu ymhellach".

“Pan gymerais yr awenau fel Cadeirydd, roeddwn yn gwybod y byddai’r frwydr dros y Gymraeg yn un heriol. Ond roeddwn yn hyderus yng nghryfder ac ymrwymiad y gymuned hon," meddai.

"Gyda’n gilydd, rydym wedi parhau i ymladd dros hawliau’r Gymraeg, adeiladu ar sylfeini’r rhai a ddaeth o’n blaenau, ac rydym wedi parhau i bwyso am newid.

“Mae’n anrhydedd cael fy ethol fel Cadeirydd am ail dymor. Bydd fy ffocws ar ehangu cyrhaeddiad ein hymgyrchoedd, cryfhau ein partneriaethau, ac ar sicrhau bod Cymdeithas yr Iaith yn parhau i fod yn rym cryf dros gyfiawnder ieithyddol a chymdeithasol."