Tafarn Porter's yn addasu er mwyn goroesi

Yn 2021 fe gafodd rhai o selogion bariau bychain Caerdydd eu cynhyrfu pan gyhoeddwyd bod rhaid i far Porter鈥檚 symud lleoliad wedi i ddatblygwr brynu鈥檙 safle.

Roedd hon yn ergyd arall i鈥檙 gymuned weithgar sy鈥檔 cynnal gigiau a nosweithiau comedi yn rhai o fusnesau bach y ddinas yn enwedig ar 么l cau a dymchwel Gwdih诺, a鈥檙 ymgyrch fawr i warchod busnesau Stryd Womanby.

Dan Porter yw perchennog y busnes. Fe weithiodd fel actor am ddeuddeg mlynedd cyn penderfynu rhoi鈥檙 gorau iddi ac agor tafarn. Ond mae鈥檔 dweud ei bod hi, erbyn hyn, yn gymaint mwy na thafarn:

鈥淩oedden ni wastad wedi dychmygu y lle fel rhywle creadigol iawn."

Disgrifiad o'r llun, Y bar yng nghartref newydd Porter's

"Ers y dechrau, mae鈥檙 bobl fu鈥檔 rhan o鈥檌 sefydlu a鈥檙 rhan fwyaf o bobl dal ynghlwm 芒鈥檙 lle o gefndir artistig neu greadigol.

"Y bwriad oedd bod Porter鈥檚 yn le y byddai pobl yn pasio drwyddo ar y ffordd i bethau mawr drwy gefnogi pobl a鈥檜 syniadau, a rhoi platfform iddyn nhw tra鈥檔 ceisio ffeindio鈥檙 balans rhwng uchelgais a realiti trio gwneud bywoliaeth.鈥

Ond gadael y safle fu鈥檔 rhaid i Porter鈥檚 ac fe gaeon nhw eu drysau yn Harlech Court am y tro olaf ar nos galan 2023. Bellach mae鈥檙 busnes wedi ailagor ar safle newydd yn Barack Lane yng nghanol Caerdydd, gydag addewid am gynlluniau cyffrous.

Ond yn gyntaf mae鈥檔 rhaid iddyn nhw oroesi鈥檙 haf.

Disgrifiad o'r llun, Mae Porter's dal i gynnal digwyddiadau fel gigs a nosweithiau barddoniaeth lafar

Ym mis Mehefin fe sefydlodd Dan dudalen codi arian er mwyn 鈥渃ario鈥檙 busnes drwy鈥檙 haf.鈥

Y nod oedd codi 拢47,000 a phan ddaeth yr ap锚l i ben ddechrau fis Awst roedd selogion a chefnogwyr Porter鈥檚 wedi codi 拢38,735, a oedd yn 82% o鈥檙 targed.

Fe gostiodd y symud ddegau o filoedd i鈥檙 busnes, ond dywedodd Dan na fyddai wedi 鈥渕addau i mi fy hun鈥 pe bai o wedi cerdded i ffwrdd oherwydd bod angen newid lleoliad. Byddai hynny wedi bod yn 鈥渇fordd hawdd allan.鈥

Ychwanegodd: 鈥淣i fyddai pobl eraill wedi maddau i mi 鈥檆hwaith! Er ei fod o wedi bod yn orfodol symud, mi orfodwyd hynny yn y ffordd neisiaf posib a does dim drwgdeimlad rhyngom ni 芒鈥檙 cyn-landlordiaid.鈥

Disgrifiad o'r llun, Murlun yn safle newydd Porter's

Oherwydd cost y symud, mae鈥檙 coffrau yn wacach nag y bydden nhw鈥檙 adeg yma o鈥檙 flwyddyn fel arfer. Felly lle mae hyn yn gadael y Porter鈥檚 ar ei newydd wedd?

鈥淩ydyn ni鈥檔 optimistig am y dyfodol, dim ond i ni fynd dros y speed bumps sydd o鈥檔 blaena鈥 dros yr haf.

鈥淧an mae鈥檙 haul yn dod mas, 鈥檇yw pobl ddim eisiau bod mewn music venue tywyll 鈥 maen nhw eisiau bod mewn gardd gwrw neu yng ngerddi eu hunain! A dw i鈥檔 deall hynny. Felly mae鈥檙 hafau wastad wedi bod yn heriol i ni, alla鈥 i ddim meddwl am yr un haf hawdd.鈥

Disgrifiad o'r llun, Mae adleisiau o'r hen Porter's dal i'w gweld yn y safle newydd

Nod Dan a鈥檙 t卯m yn Porter鈥檚 yw dod yn elusen. Mae鈥檙 digwyddiadau yn Porter鈥檚 wastad wedi bod am ddim, ac er mwyn cadw pethau fel 鈥檔a sefydlu eu hunain fel elusen yw鈥檙 ffordd ymlaen, meddai.

鈥淎r hyn o bryd rydyn ni wedi鈥檔 sefydlu fel busnes masnachol, ond rydyn ni wastad wedi gweithredu fel elusen. Byddai bod yn elusen yn ein gwneud yn gryfach, ac yn caniatau i ni geisio am grantiau ac ariannu nad oes modd ymgeisio amdanynt ar hyn o bryd.

鈥淒ydw i ddim angen bod yn berchennog busnes. I mi y peth pwysicaf yw bod Porter鈥檚 yn parhau. A dw i鈥檔 hapus cael fy adnabod jyst fel y boi 'naeth sefydlu Porter鈥檚.鈥

Mae鈥檙 weledigaeth sydd gan Dan a鈥檌 d卯m i鈥檙 Porter鈥檚 newydd yn fawr, gyda gofod theatr yn y basement, llwyfan a stafell berfformio, bar a gofod ymarfer neu R&D ar yr ail lawr. Eu gobaith yw bod yn ganolfan greadigol sy鈥檔 gwneud y celfyddydau鈥檔 hygyrch i unrhyw un.