Â鶹ԼÅÄ

Cynllun mentora yn gyfle 'gwerthfawr' i fandiau ifanc

Disgrifiad,

Mae disgyblion o ysgolion uwchradd Caerdydd wedi cael y cyfle i ffurfio bandiau fel rhan o raglen Menter Caerdydd

  • Cyhoeddwyd

Mae pobl ifanc wedi dweud fod gwyliau cerddorol Cymraeg yn "bwysig iawn" i gynnig cyfleoedd i gerddorion ifanc.

Daw hyn ar ôl i Fenter Caerdydd ddweud fod diffyg bandiau Cymraeg yn cael eu meithrin yn y brifddinas.

Mae disgwyl i ŵyl Tafwyl ddenu torfeydd mawr i Barc Bute dros y penwythnos, a bydd nifer o fandiau newydd yn cael y cyfle i berfformio yno.

Ers 2021 mae Menter Caerdydd, trefnwyr yr ŵyl, wedi bod yn mentora'r genhedlaeth nesaf o fandiau trwy eu rhaglen Yn Cyflwyno.

Cyfle cyntaf i cerddorion ifanc

Ffynhonnell y llun, Menter Caerdydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae swyddog ieuenctid Menter Caerdydd, Gruffydd Madoc-Jones, yn credu ei bod yn bwysig cynnig cyfleodd cerddorol i blant y brifddinas

Mae trefnwyr un o wyliau mwyaf Cymru yn dweud fod diffyg bandiau Cymraeg o Gaerdydd.

Er y bydd bandiau o ledled Cymru yn perfformio yn Tafwyl, mae Menter Caerdydd yn poeni am y gefnogaeth sydd ar gael i gerddorion y dyfodol.

Dywedodd swyddog ieuenctid Menter Caerdydd, Gruffydd Madoc-Jones: "Ni'n gweld o'n eithaf pwysig oherwydd ni'n gwybod fod yn pob ysgol uwchradd sydd 'da ni, bod 'na talente' sydd mewn i gerddoriaeth."

Fel rhan o raglen Yn Cyflwyno, mae disgyblion o Gaerdydd yn cael y cyfle i dderbyn cyngor gan fentoriaid profiadol gyda'r gobaith o annog mwy o bobl ifanc i wneud cerddoriaeth cyfrwng Cymraeg.

"Ni'n meddwl bod o'n grêt i greu prosiect sydd yn dod â phobl at ei gilydd a wedyn bod nhw'n gallu cael yr arweiniad 'na," dywedodd Gruffydd.

Disgrifiad o’r llun,

Mae criw o ysgolion Plasmawr a Bro Edern wedi ffurfio Malu Awyr o dan fentoriaeth Mei Gwynedd

Mae criw o ysgolion Plasmawr a Bro Edern wedi ffurfio Malu Awyr o dan fentoriaeth Mei Gwynedd.

Roedd Anna Wigley wedi bod yn chwilio am gyfle i berfformio, ac mae hi'n credu ei bod yn "bwerus" ei bod hi nawr yn gallu gwneud hynny yn yr iaith Gymraeg.

Dywedodd: "Mae'r cynllun yma wedi rili cychwyn fi off.

"Dwi wedi bod eisiau gwneud rhywbeth fel hynna am amser hir iawn.

"Mae pawb arall mewn band eu hunain, dim ond nawr dwi wedi cael fy siawns gyntaf a dwi'n rili hapus i allu gwneud hynny."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Gruff Quarry yn falch o gael y cyfle i chwarae yn "un o'r venues gorau yng Nghaerdydd"

Mae aelod arall, Gruff Quarry yn dweud bod y cynllun yn ei gwneud yn "lot haws" i sefydlu a pharhau gyda gwaith y band.

"Ni'n gallu cael ein enwau allan 'na, s'dim hassle am drio cael gig cyntaf ni, mae e jyst yna'n barod so mae'n 'neud hi'n haws i gychwyn."

Roedd mentoriaid, ffrindiau a theulu yn gallu gwylio'r bandiau mewn gig am ddim yng Nghlwb Ifor Bach fel rhan o ffrinj Tafwyl nos Iau.

Dywedodd Gruff: "Mae Clwb Ifor Bach yn un o'r venues gorau yng Nghaerdydd yn fy marn i so, mae'n wych i fi allu chwarae yma."

'Ffeindio gigs yn anodd'

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Iestyn Gwyn Jones a'i fand Ble? cymryd rhan yn y prosiect yn 2022

Roedd Iestyn Gwyn Jones, Morus Jones, Gethin Sirett-Evans, Iestyn Elis a Gruff Lewis yn ddisgyblion yn Ysgol Plasmawr pan gymron nhw ran yn y cynllun yn 2022.

Ers ffurfio Ble?, mae'r grŵp pres-roc yn parhau i berfformio ac yn bwriadu rhyddhau eu EP cyntaf tuag at ddiwedd y flwyddyn.

Mae un o'r aelodau, Iestyn Gwyn Jones yn dweud bod y band wedi cael profiadau "cwbl wych" oherwydd Yn Cyflwyno.

"Fi'n synnu cymaint o gigs ni wedi cael jyst ers bod yn rhan o'r prosiect yma," meddai.

"Yn enwedig fel artist ifanc, mae ffeindio gigs yn gallu bod yn reit anodd.

"Bydde Ble? ddim yma heddiw heblaw am Tafwyl a Menter Caerdydd."

Er eu llwyddiant nhw, dywedodd Iestyn bod rhai o'r grwpiau eraill wedi rhoi'r gorau i berfformio ers i'r rhaglen fentora ddod i ben.

'Llwyddo i greu' er toriadau ariannol

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Elan Evans yn credu fod angen buddsoddi mewn mudiadau sy'n meithrin artistiaid newydd

Trwy ei gwaith gyda mudiad Beacons Cymru, mae Elan Evans yn helpu artistiaid newydd ar lwybrau i mewn i gerddoriaeth a'r celfyddydau.

Mae hi'n credu bod cynlluniau o'r fath yn hanfodol i helpu ac ysbrydoli artistiaid sydd ar ddechrau eu gyrfa.

"Mae 'na gyfleoedd anhygoel mas 'na i artistiaid ifanc," meddai Elan.

"Mae o jyst yn rhan o ledaenu’r gair a 'neud yn siŵr bod yr artistiaid yn gwybod fod y prosiectau 'ma o gwmpas."

Er yn nodi'r cyfleoedd sydd ar gael, mae Elan yn galw am fwy o fuddsoddiad i'r mudiadau sy'n helpu artistiaid.

"Mae'n gyfnod rili heriol i fod yn greadigol ac i fod yn artist ar hyn o bryd.

"Mae 'na wastad waith i'w wneud yn amlwg, a dwi'n credu gyda'r cuts mae'r diwydiant creadigol wedi cael yn ddiweddar yng Nghymru, mae o'n syndod bod artistiaid a organisations yn dal i lwyddo i greu."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Malu Awyr yn gobeithio parhau i berfformio yn y dyfodol

Er toriadau i'r sector, mae aelodau'r bandiau newydd yn obeithiol am eu dyfodol.

Dywedodd Anna: "Fi'n rili hoffi pawb sydd yn y grŵp, dwi'n meddwl 'da ni'n gweithio'n dda gyda'n gilydd felly byse'n neis gallu gwneud mwy."

Sefydlu band newydd oedd "gobaith" Gruff ers cymryd rhan yn y cynllun.

"Os mae'r gigiau 'ma'n mynd yn dda, bydda i'n hapus i gario 'mlaen gyda'r band 'ma."