鶹Լ

Tafarn Porter's yn addasu er mwyn goroesi

  • Cyhoeddwyd

Yn 2021 fe gafodd rhai o selogion bariau bychain Caerdydd eu cynhyrfu pan gyhoeddwyd bod rhaid i far Porter’s symud lleoliad wedi i ddatblygwr brynu’r safle.

Roedd hon yn ergyd arall i’r gymuned weithgar sy’n cynnal gigiau a nosweithiau comedi yn rhai o fusnesau bach y ddinas yn enwedig ar ôl cau a dymchwel Gwdihŵ, a’r ymgyrch fawr i warchod busnesau Stryd Womanby.

Dan Porter yw perchennog y busnes. Fe weithiodd fel actor am ddeuddeg mlynedd cyn penderfynu rhoi’r gorau iddi ac agor tafarn. Ond mae’n dweud ei bod hi, erbyn hyn, yn gymaint mwy na thafarn:

“Roedden ni wastad wedi dychmygu y lle fel rhywle creadigol iawn."

Disgrifiad o’r llun,

Y bar yng nghartref newydd Porter's

"Ers y dechrau, mae’r bobl fu’n rhan o’i sefydlu a’r rhan fwyaf o bobl dal ynghlwm â’r lle o gefndir artistig neu greadigol.

"Y bwriad oedd bod Porter’s yn le y byddai pobl yn pasio drwyddo ar y ffordd i bethau mawr drwy gefnogi pobl a’u syniadau, a rhoi platfform iddyn nhw tra’n ceisio ffeindio’r balans rhwng uchelgais a realiti trio gwneud bywoliaeth.”

Ond gadael y safle fu’n rhaid i Porter’s ac fe gaeon nhw eu drysau yn Harlech Court am y tro olaf ar nos galan 2023. Bellach mae’r busnes wedi ailagor ar safle newydd yn Barack Lane yng nghanol Caerdydd, gydag addewid am gynlluniau cyffrous.

Ond yn gyntaf mae’n rhaid iddyn nhw oroesi’r haf.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Porter's dal i gynnal digwyddiadau fel gigs a nosweithiau barddoniaeth lafar

Ym mis Mehefin fe sefydlodd Dan dudalen codi arian er mwyn “cario’r busnes drwy’r haf.”

Y nod oedd codi £47,000 a phan ddaeth yr apêl i ben ddechrau fis Awst roedd selogion a chefnogwyr Porter’s wedi codi £38,735, a oedd yn 82% o’r targed.

Fe gostiodd y symud ddegau o filoedd i’r busnes, ond dywedodd Dan na fyddai wedi “maddau i mi fy hun” pe bai o wedi cerdded i ffwrdd oherwydd bod angen newid lleoliad. Byddai hynny wedi bod yn “ffordd hawdd allan.”

Ychwanegodd: “Ni fyddai pobl eraill wedi maddau i mi ’chwaith! Er ei fod o wedi bod yn orfodol symud, mi orfodwyd hynny yn y ffordd neisiaf posib a does dim drwgdeimlad rhyngom ni â’r cyn-landlordiaid.”

Disgrifiad o’r llun,

Murlun yn safle newydd Porter's

Oherwydd cost y symud, mae’r coffrau yn wacach nag y bydden nhw’r adeg yma o’r flwyddyn fel arfer. Felly lle mae hyn yn gadael y Porter’s ar ei newydd wedd?

“Rydyn ni’n optimistig am y dyfodol, dim ond i ni fynd dros y speed bumps sydd o’n blaena’ dros yr haf.

“Pan mae’r haul yn dod mas, ’dyw pobl ddim eisiau bod mewn music venue tywyll – maen nhw eisiau bod mewn gardd gwrw neu yng ngerddi eu hunain! A dw i’n deall hynny. Felly mae’r hafau wastad wedi bod yn heriol i ni, alla’ i ddim meddwl am yr un haf hawdd.”

Disgrifiad o’r llun,

Mae adleisiau o'r hen Porter's dal i'w gweld yn y safle newydd

Nod Dan a’r tîm yn Porter’s yw dod yn elusen. Mae’r digwyddiadau yn Porter’s wastad wedi bod am ddim, ac er mwyn cadw pethau fel ’na sefydlu eu hunain fel elusen yw’r ffordd ymlaen, meddai.

“Ar hyn o bryd rydyn ni wedi’n sefydlu fel busnes masnachol, ond rydyn ni wastad wedi gweithredu fel elusen. Byddai bod yn elusen yn ein gwneud yn gryfach, ac yn caniatau i ni geisio am grantiau ac ariannu nad oes modd ymgeisio amdanynt ar hyn o bryd.

“Dydw i ddim angen bod yn berchennog busnes. I mi y peth pwysicaf yw bod Porter’s yn parhau. A dw i’n hapus cael fy adnabod jyst fel y boi 'naeth sefydlu Porter’s.”

Mae’r weledigaeth sydd gan Dan a’i dîm i’r Porter’s newydd yn fawr, gyda gofod theatr yn y basement, llwyfan a stafell berfformio, bar a gofod ymarfer neu R&D ar yr ail lawr. Eu gobaith yw bod yn ganolfan greadigol sy’n gwneud y celfyddydau’n hygyrch i unrhyw un.

Pynciau cysylltiedig