Beth aeth o'i le i Ferched Cymru yn y Chwe Gwlad?

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Cymru hawliodd y llwy bren eleni, er y fuddugoliaeth yn erbyn yr Eidal
  • Awdur, Cennydd Davies
  • Swydd, Chwaraeon Â鶹ԼÅÄ Cymru

Flwyddyn yn ôl roedd yna ddathliadau mawr yn Parma wrth i dîm merched Cymru gipio trydedd buddugoliaeth ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Roedd y canlyniad hwnnw yn golygu eu bod yn codi i’r chweched safle ar restr detholion y byd – eu safle uchaf erioed.

Roedd yna hyder o’r newydd, y cytundebau proffesiynol newydd yn amlwg yn dwyn ffrwyth a’r tîm ar ben ei ddigon wrth baratoi ar gyfer cystadleuaeth WX1 ymhlith yr haen uchaf o wledydd y byd fyddai’n cystadlu yn Seland Newydd.

Ond 12 mis yn ddiweddarach dathliadau o fath gwahanol fuodd yng Nghaerdydd y Sadwrn diwethaf, wrth i dîm Hannah Jones gipio buddugoliaeth dros yr Eidalwyr ac osgoi colli pob un gêm yn yr ymgyrch.

Mae ymateb y garfan wedi’r gêm - yn tarfu ar gyfweliad byw wrth gofleidio’r hyfforddwr Ioan Cunningham - wedi denu tipyn o feirniadaeth o sawl cyfeiriad o ystyried mai Cymru oedd dal wedi hawlio’r llwy bren.

Yr hyn yr oedd yr ymateb yn dangos yn glir serch hynny oedd maint y rhyddhad i’r chwaraewyr a’r hyfforddwr ei hun, ac o ystyried hynny mae’r holl emosiynau sydd wedi deillio o’r fuddugoliaeth yn ddealladwy.

Ond pam y newid mawr a beth felly sydd wedi mynd o’i le?

Y daith broffesiynol yn dod oddi ar y cledrau ?

Roedd Pencampwriaeth y Chwe Gwlad y llynedd wedi dangos yn glir fod y garfan ar y llwybr cywir a seiliau cadarn wedi eu gosod.

Fe gipiwyd tair buddugoliaeth am y tro cyntaf ers 2009, ac wedi i nifer y cytundebau gynyddu roedd 32 o chwaraewyr proffesiynol yn barod i godi pac ar gyfer WX1 yn Seland Newydd.

Ond er yr addewid mae’r cyfan wedi mynd o chwith, a does dim dwywaith fod y ffeithiau moel yn dangos fod Cymru wedi colli tir.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Fe gollodd Cymru eu tair gêm yn yr WX1 yn Seland Newydd y llynedd hefyd

Y llynedd fe sgoriodd y tîm 17 cais ar hyd yr ymgyrch - 10 yn fwy nag eleni - gyda nifer o wybodusion wedi beirniadu’r diffyg chwarae creadigol ymhlith yr olwyr sydd wedi dod o dan y chwyddwydr.

Dyw olwyr Cymru, yn syml, heb danio ac efallai yn hynny o beth roedd 'na orddibyniaeth ar rym corfforol y blaenwyr tymor diwethaf.

Mae diffyg arweinwyr yn broblem hefyd wedi i nifer o chwaraewyr profiadol ymddeol yn cynnwys Siwan Lilicrap, Sioned Harries, Elinor Snowsill a Caryl Thomas, ac yn aml felly mae’r baich wedi cwympo ar y capten Hannah Jones, sydd yn amlwg wedi bod o dan bwysau yn sgil y canlyniadau.

Ffactor arall o bosib yw’r ffaith fod yr Alban ac Iwerddon bellach yn dimau proffesiynol ac roedd 'na gydnabyddiaeth fod y gwledydd hynny wedi dal lan.

Os felly onid cyfrifoldeb Cymru yw parhau ar y blaen ac i fod yn arloesol?

Ymateb i feirniadaeth

Dyma’r tymor cyntaf i’r garfan ddod o dan y lach a bu’n rhaid ymdopi gyda nifer yn beirniadu a chwestiynu’r broses.

Mae ymateb o’r fath yn dod law yn llaw wrth gwrs a bod yn athletwyr proffesiynol, ac fe gyfaddefodd y capten Hannah Jones fod y garfan yn dal i gyfarwyddo â’r newid mawr yma.

Roedd cyn-chwaraewr Cymru, Dyddgu Hywel a’r cyn-hyfforddwr, Chris Horsman yn synnu gweld yr ymateb ‘positif’ ymhlith y garfan a’r tîm hyfforddi wedi’r perfformiad yn erbyn Ffrainc - gêm gollodd Cymru o 40-0 - a bod yr ymateb hynny yn gwbl annerbyniol.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae rhai wedi cwestiynu agwedd y tîm wedi rhai o'r canlyniadau siomedig eleni

Dadl Ioan Cunningham yw bod angen mwy o ddyfnder mewn safleoedd penodol ac ar ôl i nifer roi’r gorau i’r gamp y llynedd, mae 'na droi golwg ar y genhedlaeth nesaf wrth i Sian Jones, Gwenan Hopkins, Mollie Reardon, Cath Richards a Mollie Wilkinson ennill eu capiau cyntaf.

Dadl arall cyson yw nad yw’r chwaraewyr yma’n chwarae yn ddigon rheolaidd.

Mae’r rhan fwyaf yn chwarae yn Lloegr ond yn sgil cryfder y gêm yno, mae nifer yn ei chael hi’n anodd hoelio lle cyson yn eu timau.

A heb gystadleuaeth ddomestig gydnabyddedig yng Nghymru eto, dyw’r broblem yma ddim yn mynd i ddiflannu dros nos.

Beth nesaf?

Mi fyddai’r fuddugoliaeth dros yr Eidalwyr wedi gwneud tipyn o ran codi hyder.

Mae'r ffaith ei bod hi'n debygol y bydd tîm Ioan Cunningham yn chwarae yn erbyn timau sy'n is na nhw ar restr detholion y byd yn yr Hydref hefyd yn creu'r posibilrwydd o greu momentwm cyn Pencampwriaeth y Chwe Gwlad 2025.

Ond yn y tymor hir mae angen newidiadau mawr a strategaeth glir.

Er mwyn chwarae ar y lefel uchaf yn gyson, un awgrym yw ceisio sefydlu tîm Cymreig yng Nghynghrair Lloegr, ond fyddai hynny yn dibynnu ar ewyllys da Undeb Rygbi Lloegr sydd, hyd yma, heb fod yn barod i ildio i’r cais.

Heb os, mae ail-sefydlu'r timau dan-18 a dan-20 wedi bod yn hwb i’r gêm yng Nghymru, ond mae’r cyfnod diweddar wedi dangos fod yna lawer o waith eto i’w gyflawni er mwyn sicrhau fod yna dro ar fyd ac mai eithriad yn unig yw ymgyrch y Chwe Gwlad yn 2024.