Â鶹ԼÅÄ

Sioned Harries yn ymddeol o rygbi yn 34 oed

Disgrifiad,

Mae Sioned Harries wedi cynrychioli Cymru mewn pedair pencampwriaeth Cwpan y Byd

  • Cyhoeddwyd

Mae seren rygbi Cymru, Sioned Harries wedi cyhoeddi ei bod yn ymddeol o'r gamp yn 34 oed.

Mae'r chwaraewr rheng-ôl wedi ennill 78 o gapiau dros 14 blynedd, gan gynrychioli'r wlad mewn pedair Cwpan y Byd.

Bydd ei gêm olaf i Brython Thunder yn erbyn Gwalia Lightning yn yr Her Geltaidd ddydd Sul.

Dywedodd Harries: “Rwy’n hynod falch o’r hyn rwyf wedi’i gyflawni yn y gêm, ac er bod hwn yn benderfyniad anodd, mae’r amseru yn iawn i mi."

'Braint anhygoel'

Ychwanegodd: "Rwyf wedi bod wrth fy modd â’r her a byddaf wastad yn ddiolchgar am yr atgofion a’r profiadau anhygoel yr wyf wedi eu cael.

“Dyw pethau ddim wastod wedi bod yn hawdd. ‘Rwyf wedi profi nifer o uchafbwyntiau ac isafbwyntiau ar hyd fy nhaith.

"Ond er ambell siom ar hyd y ffordd – mae gwisgo’r crys coch, cynrychioli fy nheulu, fy nghymuned a fy mhobl wedi bod yn fraint anhygoel.

"Rwy’n gobeithio fy mod wedi eich gwneud chi i gyd yn falch."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Sioned Harries wedi ennill 78 o gapiau dros Gymru

"Pan ddechreuais i chwarae rygbi i Gymru – doedd dim cytundebau proffesiynol ar gael.

"Mae hynny wedi newid erbyn hyn ac felly mae modd gwneud gyrfa mas o chwarae rygbi.

"Mae pethau wedi gwella shwt gymaint – ac mae’r tîm rhyngwladol yn chwarae o flaen torfeydd mawr erbyn hyn ac yn cael llawer o sylw ar y cyfryngau.

"Mae pethau wedi newid yn bendant – a hynny er gwell – ers i mi ddechrau chwarae yng Nghlwb Rygbi Aberaeron.

"Mae’n eithaf swreal, ond yn beth gwych – gwybod bod pob merch ifanc rwy’n eu dysgu neu eu hyfforddi, yn gallu dyheu i fod yn chwaraewr rygbi proffesiynol erbyn hyn."

Athrawes lawn amser

Chwaraeodd Harries ei gêm gyntaf i Gymru yng Nghwpan y Byd yn erbyn Awstralia yn 2010.

Aeth ymlaen i chwarae ym mhencampwriaethau 2014, 2017 a 2021.

Roedd ei gêm olaf i Gymru hefyd yn erbyn Awstralia, ym mhencampwriaeth WXV1 yn Seland Newydd y flwyddyn ddiwethaf.

Roedd Harries yn chwarae i Gymru ar y cyd â gweithio llawn amser fel athrawes yn Ysgol Gymraeg Bro Dur, hyd yn oed ar ôl i gêm y menywod droi'n broffesiynol yn 2022.

Chwaraeodd i glybiau'r Scarlets a Chaerwrangon, gan hefyd gynrychioli Cymru yn y gêm saith-bob-ochr.