鶹Լ

Effaith 'anferth' colli swyddi dur, ond 'rhaid bod yn bositif'

Cassius Walker-Hunt
Disgrifiad o’r llun,

Mae Cassius Walker-Hunt wedi agor caffi gan ei fod yn disgwyl colli ei swydd gyda Tata

  • Cyhoeddwyd

Mae yna bryderon mawr y gallai colli swyddi yng ngwaith dur Tata ym Mhort Talbot gael effaith "anferth" ar fywyd y gymuned leol.

Gallai nifer o weithwyr gael eu gorfodi i chwilio am waith ymhell o'r ardal wrth i ddwy ffwrnes chwyth gau, a 2,000 o swyddi yn diflannu gyda nhw.

Mae rhai gweithwyr wedi penderfynu arallgyfeirio’n barod, yn eu plith mae Cassius Walker-Hunt sydd wedi agor caffi yn y dref.

Disgrifiad o’r llun,

Un o nifer o furluniau diweddar sydd wedi ymddangos ar waliau ym Mhort Talbot

Ar ôl gorffen ei waith am 06:00, mae Cassius yn gwneud ei ffordd i ganolfan siopa Aberafan i agor Portablo Coffi.

Gan ei fod yn gweithio ar linell gynhyrchu'r ffwrnes chwyth ei hun, mae'n gwybod nad oes dyfodol iddo yn y gwaith dur.

"Fi’n teimlo’n anhapus, ac yn emosiynol oherwydd ma' lot o deuluoedd sy’n mynd i gael trafferthion mawr," meddai'r gweithiwr dur 27 oed.

"Fi just wedi [agor caffi] oherwydd ma' 3,000 o bobl yn mynd i fynd mas o waith ar yr un pryd, so fi just yn mynd i fod ychydig yn gynnar yn neud e."

Mae'n ffyddiog bod dyfodol i'r dref os all pawb "gadw'n bositif".

Disgrifiad o’r llun,

Mae gan Joshua Pugh fabi ifanc ac yn dweud ei bod yn amhosib iddo ail-hyfforddi ar gyflog prentis

Yng nghlwb rygbi Cwins Aberafan, mae Joshua Pugh, 33, yn egluro ei fod wedi colli ei swydd yng ngwaith dur y Morfa ar ôl 14 o flynyddoedd.

Caeodd y ffwrnais golosg yno yn sgil pryderon cwmni Tata am ddiogelwch.

Mae’n rhan o’r tîm sy’n datgomisiynu’r ffwrneisi, ond mae’n disgwyl bod yn ddi-waith erbyn diwedd Gorffennaf.

Mae e, fel eraill sy’n cael eu heffeithio gan y cau, wedi cael cynnig ail-hyfforddiant gan Tata. Ond all Joshua ddim fforddio’r cyflog sylweddol is.

“Mae babi 11 wythnos oed ‘da fi,” meddai, “alla i ddim gwneud prentisiaeth tair blynedd o hyd. Does ‘da fi ddim o’r arian wrth gefn i gynnal hynny.”

Disgrifiad o’r llun,

Mae sawl aelod o dîm Cwins Aberafan yn weithwyr dur

Mae hefyd yn poeni am effaith cau’r ffwrneisi ar ei glwb rygbi.

“Fyddwn ni’n gweld yr un bois ni’n arfer gweld bob dydd? Ydyn nhw’n mynd i orfod symud mâs o Bort Talbot neu hyd yn oed o Gymru er mwyn cael gwaith?

“Bydd e’n anferth. Os gollwn ni bump neu chwech o’r bois ar y tîm rygbi, gallai’n bwrw ni ac mae timoedd eraill yn yr un sefyllfa’n gwmws achos mae pawb rownd ffordd hyn yn gweithio yn y gwaith dur.”

Disgrifiad o’r llun,

Symudodd tad-cu Sara Manchipp o Wlad yr Haf i Bort Talbot i weithio yn y gwaith dur

'Nôl yn y caffi, mae un o drigolion y dref, Sara Manchipp, yn egluro bod rhyw fath o gyswllt gan bawb yn y dref â'r gwaith dur.

Daeth ei thad-cu hi o Wlad yr Haf i Bort Talbot yn unswydd i weithio yn y gwaith dur.

Mae'n dweud ei fod e "mor drist" dros y gweithwyr sy'n colli eu gwaith.

"Na’th y gwaith dur roi cyfle iddo fe godi teulu, magu teulu a chael arian i’r teulu hefyd," meddai.

"Wedodd e bod e’n cydymdeimlo shwt gyment â’r bobl sy’n colli eu gwaith nawr achos maen nhw’n mynd i golli’r holl brofiade gath e."

'Ffydd yn y gymuned'

Eto i gyd, mae ei wyres yn obeithiol am ddyfodol Port Talbot.

"Ma' pobl yn mynd i fecso achos ma' hwn yn amser caled iawn i shwt gyment o deuluoedd ac maen nhw yn mynd i bryderu ond ma' ffydd 'da fi bod pobl y dref yn mynd i ddod at ein gilydd i sicrhau dyfodol i’n cymuned a’n tref ni."

Ffynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r undebau wedi cyhuddo Tata o "ddiystyru'r effaith ar weithwyr"

Mae aelodau undebau Unite a Community eisoes wedi pleidleisio o blaid gweithredu yn ddiwydiannol dros y cynllun ailstrwythuro.

Mae disgwyl i undeb GMB gynnal pleidlais ymysg aelodau yn fuan hefyd.

Methodd yr undebau a Tata ddod i gytundeb ar gynlluniau ail-strwythuro’r cwmni yn gynharach yn y mis, wedi i’r undebau wrthod nifer o gynigion allweddol gan y cwmni o India.

Yn ôl yr undebau, mae’r cwmni wedi “diystyru” effaith y newidiadau ar weithwyr, eu teuluoedd a chymunedau.

Cynllun Tata yw i adeiladu ffwrnes drydan newydd gwerth £1.25bn ym Mhort Talbot. Byddai ffwrnes drydan yn achosi llai o lygredd na ffwrnais chwyth ac angen llai o weithwyr i’w rhedeg.

Yn ôl y cwmni, byddai’r cynllun yn sicrhau dyfodol cynhyrchu dur ar y safle.