Gething wedi dweud wrth weinidogion ei fod yn dileu negeseuon

Ffynhonnell y llun, YMCHWILIAD COVID

Disgrifiad o'r llun, Rhoddodd Vaughan Gething dystiolaeth i ymchwiliad Covid ym mis Mawrth

Dywedodd Vaughan Gething wrth weinidogion mewn grŵp tecstio yn ystod y pandemig ei fod yn dileu negeseuon, mae wedi dod i’r amlwg.

Dywedodd y prif weinidog, oedd yn weinidog iechyd ar y pryd, wrth gydweithwyr y gallai’r negeseuon gael eu dal gan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.

Dywedodd Mr Gething wrth y Senedd ddydd Mawrth fod y gweinidogion wedi bod yn trafod materion mewnol Llafur, nid polisi Covid Llywodraeth Cymru, ac mae wedi gwadu dileu negeseuon er mwyn osgoi craffu.

Dywedodd y Ceidwadwyr Cymreig a Phlaid Cymru y gallai fod Mr Gething wedi camarwain ymchwiliad Covid ar ôl i’r stori, a adroddwyd gyntaf gan Nation.Cymru, ddod i’r amlwg.

Yn siarad gyda Â鶹ԼÅÄ Cymru ddydd Mawrth, dywedodd Mr Gething nad oedd wedi "dileu negeseuon ynghylch gwneud penderfyniadau, ac mewn gwirionedd heb ddileu unrhyw neges destun o fy ffon, oherwydd nad oedd gen i'r amser na'r awydd".

Yn y Senedd, cyhuddwyd Mr Gething gan arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth o roi tystiolaeth gelwyddog ar lw yn yr ymchwiliad.

Galwodd Mr Gething ar Mr ap Iorwerth i dynnu'r cyhuddiad yn ôl, gan alw'r cyhuddiad yn atgas.

Awgrymodd y prif weinidog fod y neges yn ceisio osgoi sylwadau fyddai'n peri embaras rhwng gweinidogion i ddod i'r amlwg.

Yn y cyfamser dywedodd yr ymchwiliad Covid y byddai'n ystyried a ddylid cymryd mwy o dystiolaeth gan Mr Gething.

Mae'r ddwy wrthblaid wedi ysgrifennu at yr ymchwiliad yn gofyn iddo adalw Mr Gething.

'Rwy’n dileu’r negeseuon'

Mewn sgwrs grŵp gweinidogol ar 17 Awst 2020, pan oedd yn weinidog iechyd, ysgrifennodd Mr Gething: “Rwy’n dileu’r negeseuon yn y grŵp hwn.

"Gallant gael eu dal mewn cais rhyddid gwybodaeth a dwi'n meddwl ein bod ni i gyd yn y lle iawn ar y dewis sy'n cael ei wneud."

Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, Andrew RT Davies, wrth Senedd Cymru ddydd Mawrth bod y negeseuon wedi'u hanfon ar iMessage - system negeseuon testun Apple iPhone.

Cafodd Â鶹ԼÅÄ Cymru wybod bod y negeseuon wedi eu hanfon ar ffôn gafodd ei ddarparu gan y Senedd i Mr Gething.

Yng Nghwestiynau i'r Prif Weinidog ddydd Mawrth dywedodd Mr Gething wrth Senedd Cymru fod y neges wedi ei chyhoeddi "heb gyd-destun y drafodaeth".

Cyhuddwyd Mr Gething gan Mr Davies o geisio osgoi y ddeddf rhyddid gwybodaeth a thorri'r gyfraith ac unrhyw ymrwymiadau i ymchwiliadau cyhoeddus.

Dywedodd Mr Gething fod Mr Davies yn camddarllen y ddeddf, a dywedodd fod y negeseuon yn ymwneud â sgwrs rhwng gweinidogion am gyfarfod grŵp Llafur ym mis Awst 2020.

“Nid yw’n ymwneud â gwneud penderfyniadau yn ymwneud â’r pandemig. Mae’n ymwneud â sylwadau y mae cydweithwyr yn eu gwneud i’w gilydd ac am ei gilydd.

"Mae'n ymwneud â sicrhau nad ydym yn darparu pethau a allai achosi embaras," meddai.

Dyfynnodd Rhun ap Iorwerth dystiolaeth Mr Gething i'r ymchwiliad Covid lle dywedodd: “Roeddwn ar ddeall ein bod wedi cadw a chynnal yr holl wybodaeth y dylem ei wneud, a byddai ar gael i’r ymchwiliad hwn.â€

Gofynnodd Mr ap Iorwerth: “Ydy’r prif weinidog yn deall pam mae pobl yn gofyn heddiw a wnaeth roi tystiolaeth gelwyddog ar lw?â€

Atebodd Mr Gething fod y neges yn ymwneud â "thrafodaeth o fewn y grŵp Llafur, a sut mae pobl yn siarad a ddim yn siarad â'i gilydd".

“Rwy’n gwrthod yn llwyr yr awgrym nad wyf wedi bod yn onest gyda'r ymchwiliad Covid.â€

Wrth gyfeirio at y ffrae am y rhoddion i ymgyrch Mr Gething, dywedodd Mr ap Iorwerth: “Yn anffodus, mae’r Senedd ar bob mainc yn colli ffydd yng ngallu’r prif weinidog hwn i arwain heb unrhyw wrthdyniadau.

"Wedi saith wythnos mae ei arweinyddiaeth yn ymwneud â goroesi.â€

'Ystyried y wybodaeth'

Yn yr ymchwiliad Covid ar 11 Mawrth eleni, dywedodd Mr Gething: “Roeddwn ar ddeall ein bod wedi cadw a chynnal yr holl wybodaeth y dylem ei wneud, ac y byddai ar gael i’r ymchwiliad hwn.â€

Mewn datganiad roedd wedi dweud wrth yr ymchwiliad fod ganddo ddau ffôn y Senedd - un y rhoddodd y gorau i'w ddefnyddio ym mis Gorffennaf 2021 a throsglwyddwyd ei ddata i ail ffôn.

Dychwelwyd y ffôn ar gyfer gwaith cynnal a chadw, meddai mewn datganiad tyst, ym mis Mehefin 2022, a chafodd cynnwys y ffôn ei lanhau.

Roedd copi wrth gefn o gynnwys y ffôn ac eithrio negeseuon testun. "Doeddwn i ddim yn sylweddoli hynny ar y pryd," meddai.

Dywedodd llefarydd ar ran Ymchwiliad Covid-19 y DU: “Mae’r adroddiadau hyn wedi’u dwyn i sylw’r ymchwiliad y bore yma.

"Mae'r ymchwiliad yn ystyried y wybodaeth sydd ar gael ac a oes angen ceisio tystiolaeth bellach gan Mr Gething."