鶹Լ

Crynodeb

  • Vaughan Gething yn ateb cwestiynau am y pedwerydd tro fel Prif Weinidog Cymru.

  1. Hwyl fawrwedi ei gyhoeddi 14:29 Amser Safonol Greenwich+1 7 Mai

    Dyna ni, mae Vaughan Gething wedi ateb cwestiynau am y pedwerydd tro fel prif weinidog.

    Ymunwch â ni eto yr wythnos nesaf.

    Vaughan GethingFfynhonnell y llun, Senedd
    Disgrifiad o’r llun,

    Vaughan Gething

  2. Teithwyr trênwedi ei gyhoeddi 14:28 Amser Safonol Greenwich+1 7 Mai

    Natasha AsgharFfynhonnell y llun, Senedd
    Disgrifiad o’r llun,

    Natasha Asghar

    Mae Natasha Asghar o'r blaid Geidwadol yn dweud "nad yw teithwyr trên yng Nghymru yn cael y gwasanaeth y maen nhw'n ei haeddu".

    Mae'r prif weinidog yn cydnabod "nad yw llawer gormod o deithwyr ar gyfer gwasanaethau rheilffordd yng Nghymru yn cael y gwasanaeth y maent yn ei haeddu".

    Ond meddai, "mae perfformiad Trafnidiaeth Cymru wedi gwella’n aruthrol yn ystod y misoedd diwethaf. Mae ein buddsoddiad o £800 miliwn mewn trenau newydd ledled Cymru yn golygu bod ein gwasanaethau’n fwy dibynadwy, ac mae canlyniadau perfformiad Trafnidiaeth Cymru wedi bod yn well na holl weithredwyr rheilffyrdd eraill Cymru yn ystod 2024".

    Trafnidiaeth CymruFfynhonnell y llun, Trafnidiaeth Cymru
  3. Ceiswyr lloches a ffoaduriaidwedi ei gyhoeddi 14:11 Amser Safonol Greenwich+1 7 Mai

    Mae Jane Dodds o'r Democratiaid Rhyddfrydol yn gofyn "pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith bosibl Deddf Diogelwch Rwanda (Lloches a Mewnfudo) 2024 ar geiswyr lloches a ffoaduriaid yng Nghymru?"

    Atebodd Mr Gething y bydd y ddeddf "yn cael effaith andwyol ar bobl sy’n ceisio noddfa yma yng Nghymru. Mae’r ddeddf yn tanseilio polisi cenedl noddfa Cymru, bydd yn ysgogi gweithio anghyfreithlon ac ecsbloetio, gan arwain yn ddiau at fwy o gaethwasiaeth modern, ac yn llesteirio sgiliau y mae mawr eu hangen ar ein heconomi".

    Jane DoddsFfynhonnell y llun, Senedd
    Disgrifiad o’r llun,

    Jane Dodds

  4. Diogelu gwleidyddionwedi ei gyhoeddi 13:59 Amser Safonol Greenwich+1 7 Mai

    Mae angen gwneud mwy i i ddiogelu gwleidyddion yng Nghymru rhag ymosodiadau corfforol a llafar posibl, meddai'r Ceidwadwr Joel James.

    Atebodd y prif weinidog, "mae ymddygiad difrïol yn fygythiad gwirioneddol i’n democratiaeth ac yn annerbyniol... Rydym yn gweithio gyda phartneriaid i fynd i’r afael â cham-drin ac i annog mwy o bobl i mewn i’n gwleidyddiaeth, er mwyn adlewyrchu’n well y wlad yr ydym heddiw".

  5. 'Anonest'?wedi ei gyhoeddi 13:54 Amser Safonol Greenwich+1 7 Mai

    Dywed arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth bod disgwyl i brif weinidog "fod yn onest, yn dryloyw ac o farn dda, ac mae’r rhagofynion hynny’n cael eu tanseilio ar hyn o bryd. Yn gyntaf, cafwyd y rhodd o £200,000 gan lygrwr a gafwyd yn euog, rŵan negeseuon gafodd eu dileu yn ystod y pandemig".

    Dyfynnodd Rhun ap Iorwerth dystiolaeth Mr Gething yn ymchwiliad Covid lle dywedodd: “Roeddwn ar ddeall ein bod wedi cadw a chynnal yr holl wybodaeth y dylem ei wneud, a byddai ar gael i’r ymchwiliad hwn.”

    Gofynnodd Mr ap Iorwerth, “ydy’r prif weinidog yn deall pam mae pobol yn gofyn heddiw a wnaeth e roi tystiolaeth gelwyddog ar lw?”

    Atebodd Mr Gething, "gwrthodaf yr awgrym fy mod wedi bod yn anonest yn ystod yr ymchwiliad Covid".

    Meddai ymhellach, "mae’r neges unigol yn ymwneud â thrafodaeth o fewn y grŵp Llafur am sut mae pobl yn siarad â’i gilydd a sut nad ydynt yn siarad â’i gilydd. Yn ei hanfod, mae'n apêl i bobl ystyried yr hyn sydd ganddynt i'w ddweud".

    Yn ôl Rhun ap Iorwerth, mae Mr Gething yn "baglu o un sgandal i'r llall, nid dyma'r ffordd i lywodraethu".

    Rhun ap IorwerthFfynhonnell y llun, Senedd
    Disgrifiad o’r llun,

    Rhun ap Iorwerth

  6. Camarwain ymchwiliad Covid-19 y Deyrnas Unedig?wedi ei gyhoeddi 13:50 Amser Safonol Greenwich+1 7 Mai

    Gan gyfeirio at adroddiad ar wefan Nation.Cymru, mae Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, yn gofyn a wnaeth Vaughan Gething gamarwain ymchwiliad Covid-19 y Deyrnas Unedig trwy wadu iddo ddileu negeseuon rhyngddo fe a gweinidogion eraill.

    Mae Nation.Cymru wedi cyhoeddi neges gan Mr Gething sydd heb ei datgelu o’r blaen lle dywed ei fod am ddileu sgyrsiau gafodd fel rhan o grŵp.

    Mae Mr Davies dyfynnu'r neges sydd bellach wedi'i chyhoeddi:

    "Rwy'n dileu'r negeseuon yn y grŵp hwn. Gellir eu cynnwys mewn FOI [cais rhyddid gwybodaeth] ac rwy'n meddwl ein bod ni i gyd yn y lle iawn o ran y dewis sy'n cael ei wneud."

    Ymatebodd y Prif Weinidog Vaughan Gething, "anfonais y neges yr ydych yn cyfeirio ati. Rwyf hefyd yn glir iawn bod cyd-destun y sgwrs yn ymwneud yn llwyr â chyfarfod grŵp y Blaid Lafur ac nid gwneud penderfyniadau yn ymwneud â’r pandemig.

    "Mae'n ymwneud â sylwadau y mae cydweithwyr yn eu gwneud i'w gilydd ac am ei gilydd. Mae'n ymwneud â sicrhau nad ydym yn darparu pethau a allai achosi embaras, ond nid pethau a effeithiodd ar unrhyw wybodaeth am wneud penderfyniadau yn ystod y pandemig".

    Andrew RT DaviesFfynhonnell y llun, Senedd
    Disgrifiad o’r llun,

    Andrew RT Davies

  7. Prosiect pont Llannerchwedi ei gyhoeddi 13:42 Amser Safonol Greenwich+1 7 Mai

    Dywed y prif weinidog bod Llywodraeth Cymru wedi dyfarnu £1.1m i Gyngor Sir Ddinbych ar gyfer prosiect pont Llannerch rhwng Trefnant a Thremeirchion, "i ddeall y dyluniad y mae angen ei symud ymlaen i ailosod y bont".

    Ychwanegodd, "rwy'n cydnabod ei fod yn fater gwirioneddol o bryder ac anghyfleustra i gymunedau.. i drafnidiaeth breifat a chyhoeddus, a thrafnidiaeth ysgol, ac, yn wir, llwybrau teithio llesol rhwng cymunedau. Mae hwn yn brosiect cymhleth".

    Roedd yn ymateb i'r Ceidwadwr Gareth Davies a ddywedodd, "cafodd pont Llannerch ei dinistrio yn ystod storm Christoph yn 2021, a mwy na thair blynedd yn ddiweddarach nid ydym yn nes at gael pont newydd, yn anffodus. Mae cymunedau Trefnant a Thremeirchion yn dal i fod wedi'u datgysylltu, gyda gyrwyr yn cael eu hanfon ar ddargyfeiriadau hir dim ond i yrru i'r pentref nesaf".

    Dymchwelodd Pont Llannerch yn ystod Storm Christoph ddiwedd Ionawr 2021Ffynhonnell y llun, LIAHLL BRUCE
    Disgrifiad o’r llun,

    Dymchwelodd Pont Llannerch yn ystod Storm Christoph ddiwedd Ionawr 2021

    Yr olygfa wedi i'r bont ddymchwel
    Disgrifiad o’r llun,

    Yr olygfa wedi i'r bont ddymchwel yn 2021

  8. Rhieni mewn profedigaethwedi ei gyhoeddi 13:35 Amser Safonol Greenwich+1 7 Mai

    Janet Finch-SaundersFfynhonnell y llun, Senedd
    Disgrifiad o’r llun,

    Janet Finch-Saunders

    Mae Delyth Jewell o Blaid Cymru yn dweud y gall rhieni mewn profedigaeth sy'n colli babi cyn 24 wythnos o feichiogrwydd yn Lloegr dderbyn tystysgrif i gydnabod eu colled.

    Mae'n gofyn a ellid cyflwyno tystysgrif o'r fath yng Nghymru.

    Atebodd y prif weinidog y bydd yn ystyried y mater gyda chydweithwyr yn y Cabinet, gan "feddwl o ddifrif sut y gallem wneud hynny mewn ffordd gyson ar draws y wlad".

    Mae Janet Finch-Saunders o'r blaid Geidwadol yn diolch i Delyth Jewell am godi'r mater.

    Meddai, "Rhai blynyddoedd yn ôl, ges i fabi yn 24 wythnos, a babi oedd e. Eto i gyd, es i mewn a dod yn ôl heb ddim, a dwi'n teimlo pan rydych chi wedi cario babi ers 24 wythnos, mae'n amser hir."

    Delyth JewellFfynhonnell y llun, Senedd
    Disgrifiad o’r llun,

    Delyth Jewell

  9. Cymharu’r problemau oedd yn wynebu Alun Michael a thrybini Vaughan Gethingwedi ei gyhoeddi 13:18 Amser Safonol Greenwich+1 7 Mai

    Vaughan Roderick
    Golygydd Materion Cymreig y 鶹Լ

    Quote Message

    Hawdd yw cymharu’r problemau oedd yn wynebu Alun Michael a thrybini Vaughan Gething. Roedd Alun Michael wedi ei etholi i arwain Llafur Cymru mewn amgylchiadau amheus gan ddibynnu ar yr undebau Llafur am ei fandad. Er bod yr ymgeisydd aflwyddiannus, Rhodri Morgan, fel Jeremy Miles, wedi derbyn swydd yng nghabinet ei wrthwynebydd roedd ‘na deimlad bod hi’n fater o amser nes i’r awenau newid dwylo. Serch hynny mae 'na wahaniaeth pwysig rhwng y ddwy sefyllfa. Llywodraeth leiafrifol oedd llywodraeth Alun Michael gyda’r gwrthbleidiau a’r niferoedd i ddymchwel ei arweinyddiaeth ar unrhyw bryd. Yn achos Mr Gething fe fyddai angen i lond dwrn o rebeliaid Llafur gefnogi’r gwrthbleidiau er mwyn ei ddiswyddo."

  10. Croesowedi ei gyhoeddi 13:00 Amser Safonol Greenwich+1 7 Mai

    Prynhawn da, croeso i'n darllediad byw o'r Cwestiynau i'r Prif Weinidog, sy'n dechrau am 1.30pm – pedwerydd sesiwn Vaughan Gething yn y swydd.

    Cynhelir y cyfarfod llawn ar ffurf hybrid, gyda rhai aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.