鶹Լ

Dyn ifanc wnaeth ffoi rhyfel wedi boddi yn y môr yng Ngwynedd - cwest

Bermo
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Mohamad, ei frawd a’i ffrindiau wedi penderfynu galw heibio'r Bermo cyn mynd adref ar 27 Mai

  • Cyhoeddwyd

Mae cwest wedi clywed bod dyn ifanc a oedd wedi ffoi'r rhyfel yn Syria i ddechrau bywyd newydd yng ngogledd Cymru wedi marw ar ôl boddi ar daith i lan y môr.

Symudodd Mohamad Alkadour, 20, i Wrecsam ar ôl cyrraedd fel ffoadur pan oedd yn blentyn.

Clywodd y gwrandawiad yng Nghaernarfon ddydd Mercher nad oedd Mohamad yn gwybod sut i nofio, a’i fod wedi cael ei lusgo i’r môr pan aeth ef a’i ffrindiau i draeth Y Bermo yng Ngwynedd ym mis Mai.

Cafwyd hyd i’w gorff bron i ddwy awr yn ddiweddarach, ac fe gadarnhaodd Crwner Gogledd-Orllewin Cymru mai damwain drasig oedd hi.

Ton wedi'i gipio

Roedd Mohamad gyda’i frawd a’i ffrindiau ar drip i Eryri, ac roedden nhw wedi penderfynu galw heibio'r Bermo cyn mynd adref ar 27 Mai.

Dywedodd ei frawd, Abdullah Alrawas, eu bod nhw wedi cytuno i fynd i’r môr am dro bach, a rhoddodd un o’r grŵp bâr o siorts iddo.

Mewn datganiad a gafodd ei ddarllen gan yr uwch grwner Kate Robertson, dywedodd Abdullah iddo ddychwelyd i'r car ar ôl ychydig funudau.

Wedyn, daeth ei ffrind, Taha Elfituri, i fyny’r traeth gan weiddi fod ton wedi cipio Mohamad a'i fod wedi colli golwg ohono yn y môr.

Dywedodd Mr Elfituri fod Mohamad wedi bod mewn dŵr i’w frest yn unig, ond bod tonnau wedi eu cludo nhw allan yn sydyn.

Dywedodd y bu'n rhaid i’r heddlu a’r timau achub ei dynnu’n ôl rhag mynd yn ôl i’r dŵr i chwilio am ei ffrind.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd bad achub Y Bermo yn rhan o'r ymgyrch i ddod o hyd i Mohamad Alkadour

Cafwyd hyd i gorff Mohamad tua 19:45 - bron i ddwy awr ar ôl iddo fynd ar goll.

Cafodd ei gludo i Ysbyty Gwynedd ym Mangor, ond doedd meddygon ddim yn gallu ei achub.

Cadarnhaodd archwiliad post-mortem ei fod wedi boddi.

'Rydyn ni mor falch ohono'

Dywedodd ei fam, Khawla Al Naser, fod Mohamad yn fachgen tawel, a wnaeth yn dda yn yr ysgol er gwaethaf plentyndod anodd.

Roedd wedi gorfod ffoi rhag y rhyfel yn Syria ac wedi byw fel ffoadur yn Libanus (Lebanon) nes iddyn nhw ddod i Gymru.

Dywedodd nad oedd Mohamad erioed wedi dysgu nofio, ac er nad oedd ganddo lawer o ddiddordeb mewn dysgu, roedd yn mynd i’r pwll nofio lleol gyda ffrindiau weithiau, ond bob tro’n aros yn y pen bas.

"Rydyn ni mor falch ohono ac yn ei golli gymaint," meddai.

Dywedodd y crwner, Kate Robertson, fod yr hyn a ddigwyddodd yn Y Bermo yn “hollol annisgwyl ac anfwriadol”.

Wrth fynegi ei chydymdeimlad gyda'r teulu, dywedodd fod y farwolaeth wedi bod yn ddigwyddiad “hollol drawmatig” i bawb oedd yno.

Fe wnaeth y crwner gofnodi ei farwolaeth fel damwain.

Pynciau cysylltiedig