Â鶹ԼÅÄ

Dyn 20 oed wedi marw mewn digwyddiad yn Y Bermo

Bad achub Y Bermo
Disgrifiad o’r llun,

Roedd bad achub Y Bermo yn rhan o'r ymgyrch nos Lun i ddod o hyd i'r dyn a fu farw

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn 20 oed wedi marw yn dilyn digwyddiad yn Y Bermo.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r ardal am oddeutu 18:00 nos Lun, 27 Mai, wedi adroddiadau fod dyn wedi mynd i drafferthion tra'n nofio yn y môr.

Bu nifer o asiantaethau yn cynorthwyo gyda'r chwilio, gan gynnwys Gwylwyr y Glannau, yr RNLI a'r heddlu.

Fe ddaethon nhw o hyd i'r dyn am tua 20:00, ac fe gafodd ei gludo i'r ysbyty gan ambiwlans awyr, ond bu farw yno.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y dyn ei gludo i'r ysbyty mewn hofrennydd

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Richard Griffiths: "Rydym yn apelio ar unrhyw un a welodd y digwyddiad ac sydd heb siarad gyda'r heddlu yn barod, neu rhywun sydd â lluniau fideo i gysylltu gyda'r heddlu gan ddyfynnu'r cyfeirnod 24000477242.

"Mae ein meddyliau gyda theulu'r dyn fu farw, ac rydym yn parhau i'w cefnogi nhw.

"Mae'r crwner wedi cael ei hysbysu am y farwolaeth."

'Y môr yn gallu bod yn beryglus'

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd: “Mae hwn yn ddigwyddiad hynod drist ac yr ydym yn cydymdeimlo’n ddwys â theulu a ffrindiau’r unigolyn a fu farw.

"Rydym hefyd yn talu teyrnged i’r gwasanaethau brys a ymatebodd i’r sefyllfa nos Lun.

"Rydym yn annog unrhyw un a welodd yr hyn ddigwyddodd i gysylltu â Heddlu Gogledd Cymru."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cyngor lleol yn rhybuddio pa mor beryglus y gallai'r môr fod, er mod prin yw'r digwyddiadau mwyaf difrifol

Ychwanegodd: “Mae digwyddiadau fel hyn yn anghyffredin ac yn ein hatgoffa o ba mor beryglus gall y môr fod.

"Gall traethau fod yn lefydd o beryglon cudd, megis tonnau pwerus a llanw cryfion.

“Rydym yn galw ar y cyhoedd i fod yn ymwybodol o’r peryglon, i gymryd pob gofal a dal sylw o wybodaeth benodol, canllawiau ac arwyddion rhybudd.

"Rydym yn annog unrhyw un sy’n ymweld â’r arfordir i gadw golwg am arwyddion diogelwch ac i ystyried y tywydd a’r llanw ar ddiwrnod eu hymweliad."