Â鶹ԼÅÄ

Bwriad ail-agor capel gyda chysylltiad â Phatagonia

Disgrifiad,

Y gobaith ydi "creu canolfan efo egni newydd"

  • Cyhoeddwyd

Gallai capel, lle cafodd y syniad o sefydlu gwladfa Gymreig ym Mhatagonia ei drafod gyntaf yng Nghymru, agor unwaith eto.

Mae Capel Engedi yng Nghaernarfon wedi cau ers nifer o flynyddoedd bellach.

Roedd Lewis Jones, un o sefydlwyr y Wladfa Gymreig yn ne America, yn aelod yn y capel.

Bwriad prosiect Engedi2.0 ydi agor y capel unwaith eto fel canolfan gymunedol fydd yn cynnwys amgueddfa i gofio am Lewis Jones.

Disgrifiad o’r llun,

Capel Engedi oedd y lleoliad lle cafodd y syniad o sefydlu'r Wladfa ei drafod gyntaf yng Nghymru

Mae Sebastian Eduardo Pèrez Parry wedi'i eni a'i fagu ym Mhatagonia ac yn aelod o'r tîm sy'n ceisio adnewyddu'r capel yng Nghaernarfon.

Mae Mr Parry yn hanesydd ac mae ganddo lawer o brofiad yn gweithio mewn amgueddfeydd.

Dywedodd fod capel Engedi "yn ddiddorol iawn".

Dywedodd: “Ro’n i’n astudio Cymraeg ym Mhorth Madryn ac yn gweithio llawer ar hanes y wladfa Gymreig ym Mhatagonia a darllen llyfrau Lewis Jones – yr hyn ysgrifennodd o am hanes y wladfa yn Ne America.

"Mewn llyfrau eraill, mae’n dweud bod Engedi yn lle pwysig iawn felly, ro’n i am weld lle roedd o oherwydd ro’n i wedi cynllunio taith hyfforddiant am chwe mis i Gymru eisoes – ro’n i’n gwybod bod gwaith adnewyddu yn digwydd."

Disgrifiad o’r llun,

Fe symudodd teulu Sebastian Eduardo Pèrez Parry i fyw i Batagonia

Fe gysylltodd Mr Parry â'r tîm yn Engedi ac fe gafodd wahoddiad i ymuno â'r gwaith adnewyddu yno.

Roedd llawer o greiriau yn y capel a sbardunodd Mr Parry i fynd ati i geisio sefydlu amgueddfa mewn ystafell yn y capel.

“Oherwydd fy ngwaith mewn amgueddfeydd, ro'n i'n meddwl ei bod hi’n bwysig, nid dim ond i achub y pethau hyn, ond hefyd i adrodd y stori, sydd mor ddiddorol, trwy gyfrwng y gwrthrychau.

"Roedd Lewis Jones ac arloeswyr eraill yn cyfarfod yma ac fe wnaethon nhw gynnig y syniad o daith i Batagonia. Felly o’r fan hon y tyfodd holl hanes y Wladfa Gymreig. Felly roedd yn ddiddorol iawn i fi i fod yn rhan o adfer yr adeilad a’r hanes."

Disgrifiad o’r llun,

Mae fandaliaid wedi difrodi'r capel dros y blynyddoedd yn ôl y tîm sy'n adnewyddu'r adeilad

Ychwanegodd : "Fel mae’n digwydd, 120 o flynyddoedd yn ôl ar Dachwedd 24, bu farw Lewis Jones. Felly rwy'n gobeithio erbyn y dyddiad yna byddwn ni wedi creu ystafell fach – yn y lle mawr hwn – i fod yn amgueddfa er mwyn arddangos yr eitemau."

Pwy oedd Lewis Jones?

Cafodd Lewis Jones ei eni yng Nghaernarfon, ac roedd yn flaenllaw yn hanes sefydlu'r wladfa Gymreig ym Mhatagonia.

Roedd yn mynychu capel Engedi yng Nghaernarfon ac yn argraffydd yng Nghaergybi. Pan aeth i Batagonia, sefydlodd wasg argraffu yno hefyd.

Aeth i Batagonia ym 1862, a dychwelodd i Gymru er mwyn perswadio'r Cymry i fentro yno.

Mae Luned Gonzalez yn ffigwr adnabyddus ym Mhatagonia, ac yn or-wyres i ddau o brif sefydlwyr y Wladfa - Lewis Jones a Michael D. Jones.

Dywedodd: "Mi oedd Lewis Jones yn argraffydd ac yn mynychu capel Engedi... ac mi oedden nhw'n cael cyfarfodydd i drafod gwahanol bethau, ac un o'r trafodaethau buodd, oedd sefydlu gwladfa ym Mhatagonia mae'n debyg.

"Mae Trelew wedi cael ei henwi ar ôl Lewis Jones, achos bod o wedi bod yn bwysig i gael yr elw i ddod o Fadryn... i'r dyffryn, ac o'r herwydd, mi oedd yna dref wedi cael ei geni."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Luned Gonzalez yn ffigwr adnabyddus ym Mhatagonia

Wrth drafod sefyllfa'r Gymraeg yn yr Ariannin erbyn hyn, dywedodd Ms Gonzalez nad oes cymaint o ddisgynyddion Cymru yno bellach.

"Ond mi fasa chi'n synnu faint o Gymraeg sydd" meddai.

"Mae 'na lawer o ddosbarthiadau, mae 'na ysgolion Cymraeg wedi cael eu sefydlu.

"Mi fasa fo [Lewis Jones] yn hapus iawn siŵr o fod, a 'da ni'n dal i gysylltu gyda sawl person o Gymru drwy'r Gymraeg."

Wrth drafod y prosiect o adnewyddu capel Engedi, dywedodd Ms Gonzalez : "'Dw i'n gobeithio y gallan nhw orffen y gwaith.

"'Dw i'n annog pobl i'w helpu... felly gobeithio'r gorau a phob hwyl iddyn nhw."

Disgrifiad o’r llun,

Mae capel Engedi wedi'i leoli ar Stryd Newydd yng Nghaernarfon

Liam Kurmos ydi arweinydd prosiect Engedi2.0.

Mae'r criw yn awyddus i greu canolfan gymdeithasol i bobl lleol "ddatblygu eu hunain" drwy bob math o gyfryngau.

Dywedodd: "Mae 'na lwyth o waith i ddod â'r capel yn ôl i gyflwr fel dylsa fo fod... mae 'na dreftadaeth wych yma gyda'r Wladfa.

"Mi nes i ddarganfod hefyd fod David Lloyd George yn defnyddio'r capel cyn mynd i'r maes [yng Nghaernarfon] i siarad pan oedd yn Brif Weinidog."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Liam Kurmos yn dweud bod hanes y capel yn "wych"

Mae Mr Kurmos yn awyddus i'r gymuned wneud defnydd o'r capel.

"Mi yda ni isio creu gofod lle mae pobl yn gallu datblygu eu hunain mewn unrhyw ffordd, os ydi nhw isio datblygu cyfleodd economaidd, gallan nhw ddod yma i ddysgu sgiliau... a chreu cymuned o bobl sy'n dysgu'i gilydd.

"Da ni yn bwriadu creu gofod i bobl gydweithio ar brosiectau cerddoriaeth hefyd... a gwahodd unrhyw un sydd isio bod yn rhan o glwb cerddoriaeth."

Er mwyn codi arian i adnewyddu'r adeilad mae'r criw wedi bod yn ymgeisio am grantiau ac yn derbyn cymorth gan bobl a grwpiau amrywiol.