Â鶹ԼÅÄ

Y Wladfa: Ysgol newydd i fod yn 'gerflun byw' o'r Cymry cyntaf

Llun o sut allai'r ysgol newydd edrych.Ffynhonnell y llun, Margarita Jones Green
Disgrifiad o’r llun,

Y gobaith ydy agor drysau'r ysgol newydd erbyn mis Mawrth 2027

  • Cyhoeddwyd

Mae ymgyrchwyr sy'n ceisio adeiladu ysgol uwchradd Gymraeg-Sbaeneg newydd ym Mhatagonia yn gobeithio gallai'r safle fod yn "gerflun byw" o'r Cymry cyntaf wnaeth gyrraedd yr ardal nôl yn 1865.

Nod ymgyrch 'Brics i Batagonia' ydy codi arian i helpu gyda'r gwaith o adeiladu'r ysgol newydd yn Nhrevelin, a hynny trwy werthu hyd at 10,000 o friciau am £5 yr un.

Hon fyddai'r ysgol uwchradd gyntaf o'i math yn y rhanbarth.

Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast fore Gwener, dywedodd un o'r ymgyrchwyr, Margarita Jones Green, ei bod yn gobeithio y byddai ysgol o'r fath yn rhoi "cyfle i bawb" ddysgu'r iaith.

Ffynhonnell y llun, Margarita Jones Green
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Margarita Jones Green ei magu yn Nhrevelin yn nhalaith Chubut

Cafodd Margarita ei magu ar aelwyd oedd yn medru'r Gymraeg yn Nhrevelin, ond doedd dim ysgol oedd yn rhoi cyfle iddi wneud defnydd ehangach o'r iaith ar y pryd.

Esboniodd fod y syniad o greu ysgol uwchradd newydd wedi datblygu yn ystod dathliadau i nodi canrif a hanner ers i'r Cymry cyntaf gyrraedd y Wladfa.

"Roedd angen gwneud rhywbeth arbennig i gofio am y fenter yma o'r Cymry cyntaf oedd wedi cyrraedd," meddai Margarita.

"Mi o'n i eisiau dathliad go iawn... ac roedd yna syniad o godi cerflun neu rywbeth felly yn y dref.

"Ond penderfynodd y Gymdeithas Gymreig adeiladu ysgol go iawn a'i gwneud yn ddwyieithog fel bod pawb yn cael y cyfle i ddysgu'r iaith Gymraeg

"O'n i'n meddwl, hwnna fydd y cerflun go iawn, cerflun byw fydd yn para am byth... bydd cyfle i bawb wedyn, y cyfle ches i ddim pan oni'n fach."

Ffynhonnell y llun, Margarita Jones Green

Cafodd y syniad o werthu briciau ei ysbrydoli gan y ddiweddar awdures Hazel Charles Evans - yr athrawes gyntaf i fynd i'r Andes i roi gwersi Cymraeg.

Fe wnaeth Ms Charles Evans drefnu ymgyrch debyg er mwyn codi canolfan Gymraeg yn Esquel rai blynyddoedd yn ôl.

"Hi oedd wedi cael y syniad o adeiladu canolfan, ac aeth i Gymru i chwilio am help gan nad oedd digon o arian yma.

"Felly aeth hi draw at ffrindiau, i eisteddfodau, ysgolion, a chymdeithasau yng Nghymru ac yr Ariannin.

"Daeth y syniad o werthu brics am bunt, a hefo'r arian yna roedden nhw wedi llwyddo i godi canolfan hyfryd i athrawon oedd yn dod oddi draw i allu aros mewn fflat yng nghanol y dref."

Wedi'r llwyddiant hwnnw, dywedodd Margarita eu bod yn awyddus i fynd ar drywydd tebyg gyda'r ymgyrch yma.

Ffynhonnell y llun, Margarita Jones Green
Disgrifiad o’r llun,

Fe agorodd Ysgol Y Cwm ym mis Mawrth 2016

Cafodd Ysgol y Cwm, yr ysgol gynradd Gymraeg yn Nhrevelin, ei hagor yn 2016, ac mae rhai gwersi Cymraeg i ddisgyblion uwchradd bellach yn cael eu cynnal yno hefyd.

Ond dydy rhannu adeilad fel hyn ddim yn ymarferol yn y tymor hir, yn ôl Margarita.

Un rheswm am hynny yw'r ffaith bod rhaid i ddisgyblion uwchradd a chynradd rannu ystafelloedd newid.

"Yn 2016 oedden ni'n agor yr ysgol gynradd newydd, sy'n hyfryd.

"Oedd 'na ddigon o le i tua 200 o blant yna, a dechreuon ni hefo 34. Ar hyn o bryd mae 150 o blant yn dysgu yno.

"Maen nhw'n (disgyblion cynradd ac uwchradd) gweithio yn yr un adeilad, ond dydi hynny ddim yn rhywbeth 'da ni'n gallu (parhau i'w) 'neud."

Dywedodd Margarita fod yr ymgyrch yn mynd yn "wych" a bod y gwaith o hyrwyddo'r cyfan yn parhau.

Pynciau cysylltiedig