Â鶹ԼÅÄ

AS Llafur wedi'i wahardd yn dilyn 'honiadau difrifol'

Geraint DaviesFfynhonnell y llun, Senedd y DU/PA
  • Cyhoeddwyd

Mae'r AS Llafur Geraint Davies wedi cael ei wahardd gan y blaid yn dilyn honiadau o "ymddygiad cwbl annerbyniol".

Dywedodd y blaid eu bod yn "honiadau hynod o ddifrifol", gan annog unrhyw un oedd am gwyno i gysylltu gyda nhw.

Yn ôl Politico, y wefan wnaeth adrodd am yr honiadau, mae wedi ei gyhuddo o roi sylw dieisiau o natur rywiol i gydweithwyr iau.

Dywedodd AS Gorllewin Abertawe wrth Politico nad oedd yn adnabod yr honiadau.

Colli'r chwip Llafur

"Dyw'r un ohonynt, cyn belled â dwi'n gwybod, wedi gwneud cwyn i'r Blaid Lafur neu'r senedd," meddai Mr Davies wrth Politico.

"Os ydw i wedi pechu rhywun heb sylwi, wedyn yn naturiol mae'n ddrwg gen i achos mae'n bwysig ein bod ni'n rhannu amgylchedd sydd yn parchu pawb yn hafal."

Mae'r Â鶹ԼÅÄ wedi cysylltu gyda Mr Davies am sylw, ond heb dderbyn ymateb hyd yma.

Mae Mr Davies nawr wedi ei wahardd o'r blaid wrth i'r ymchwiliad gael ei gynnal, ac felly nid yw'n cael eistedd fel AS Llafur.

Dywedodd gwefan Politico fod pum dynes wedi honni bod Mr Davies wedi rhoi sylw rhywiol digroeso iddyn nhw, yn gorfforol ac ar lafar.

Mae’r honiadau, sy’n mynd yn ôl o leiaf bum mlynedd, yn cynnwys yfed gormodol, yn ogystal â sylwadau rhywiol a chyffwrdd dieisiau â menywod iau, yn ôl y wefan.

'Hynod o ddifrifol'

Dywedodd rhai o’r unigolion eu bod wedi trafod ei ymddygiad gyda chwipiaid Llafur, sydd â gofal am ddisgyblaeth y blaid.

Adroddodd Politico yn ddiweddarach fod menyw gwahanol wedi cyflwyno cwyn ffurfiol i'r blaid. Mae'r Â鶹ԼÅÄ wedi cadarnhau bod cwyn ffurfiol wedi'i gwneud.

Yn gynharach, dywedodd llefarydd ar ran y blaid fod yr honiadau yn rhai "hynod o ddifrifol o ymddygiad cwbl annerbyniol".

"Rydym yn annog yn gryf i unrhyw un sydd â chwyn i gysylltu gydag ymchwiliad y Blaid Lafur.

"Bydd unrhyw achwynydd yn cael mynediad i wasanaeth cymorth annibynnol, fydd yn cynnig cyngor cyfrinachol ac annibynnol gan arbenigwyr allanol drwy gydol y broses."

Mae Geraint Davies wedi bod yn AS dros Orllewin Abertawe ers 2010, a rhwng 1997 a 2005 bu hefyd yn AS dros Croydon Central.