Â鶹ԼÅÄ

Ymgeisydd yn colli cefnogaeth Plaid Cymru ar ôl sylwadau ar-lein

Sharifah RahmanFfynhonnell y llun, Plaid Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Fydd Sharifah Rahman ddim yn cael cefnogaeth Plaid Cymru yn etholaeth de Caerdydd a Phenarth

  • Cyhoeddwyd

Mae Plaid Cymru yn dweud na fyddan nhw'n cefnogi eu hymgeisydd yn etholaeth de Caerdydd a Phenarth yn sgil sylwadau gafodd eu gwneud ar-lein.

Mewn datganiad, dywedodd y blaid bod Sharifah Rahman wedi gwneud sylwadau ar y cyfryngau cymdeithasol yn trafod y gwrthdaro yn y Dwyrain Canol "sydd ddim yn cyd-fynd â safbwynt na gwerthoedd Plaid Cymru".

Gan fod hyn wedi digwydd mor agos at ddiwedd yr enwebiadau, mae'n golygu y bydd ei henw yn aros ar y papur pleidleisio fel ymgeisydd swyddogol ar ran Plaid Cymru, ond fydd y blaid ddim yn ei chefnogi.

Dywedodd llefarydd: "Mae Plaid Cymru yn gyson wedi condemnio gweithredoedd terfysgwyr Hamas ar 7 Hydref yn ogystal â'r cyrchoedd awyr ofnadwy gan Lywodraeth Israel.

"Ry'n ni'n atgyfnerthu ein galwadau am gadoediad ar unwaith.

"Fe fydd Plaid Cymru yn parhau i ymgyrchu am heddwch a datrysiad dwy wladwriaeth - gan gynnwys cydnabod tiriogaeth Balesteinaidd, a dyfodol heddychlon i Balesteiniaid ac Israeliaid.

"Ry'n ni'n condemnio unrhyw ragfarn a hiliaeth, gan gynnwys gwrth-semitiaeth ac Islamoffobia."

Mae Â鶹ԼÅÄ Cymru wedi methu â chysylltu gyda Ms Rahman i ofyn am sylw.

Rhestr o'r ymgeiswyr eraill yn etholaeth De Caerdydd a Phenarth:

  • Stephen Doughty, Llafur

  • Simon Llewellyn, Reform UK

  • Anthony Slaughter, Y Blaid Werdd

  • Ellis Smith, Y Ceidwadwyr

  • Alex Wilson, Democratiaid Rhyddfrydol

Pynciau cysylltiedig