Â鶹ԼÅÄ

'Anodd' bod yn Geidwadwr wrth ymgyrchu - ymgeisydd

Fay JonesFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae ymgyrch y Blaid Geidwadol wedi cael "cychwyn anodd", meddai Fay Jones

  • Cyhoeddwyd

Mae aelod o'r Ceidwadwyr Cymreig yn dweud bod ei phlaid wedi gwneud "sawl camgymeriad" yn ddiweddar, gan gynnwys penderfyniad Rishi Sunak i adael digwyddiad D-Day yn Ffrainc yn fuan.

Dywedodd Fay Jones, is-weinidog yn llywodraeth Mr Sunak, ei bod hi'n "anodd i fynd at ddrysau a dweud eich bod chi'n ymgeisydd Ceidwadol".

Ychwanegodd ymgeisydd y blaid dros Aberhonddu, Maesyfed a Chwm Tawe: "A fydden i wedi hoffi gweld yr ymgyrch yn cychwyn yn well? Yn bendant.

"Mae wedi bod yn ddechrau anodd, ac rydym wedi gwneud sawl camgymeriad."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Rishi Sunak wedi ymddiheuro am ei benderfyniad i adael digwyddiad D-Day yn gynnar

Roedd Mr Sunak yn Normandi dydd Iau gydag arweinwyr byd eraill i nodi 80 mlynedd ers ymosodiad D-Day.

Daeth adroddiadau ei fod wedi gadael y digwyddiad yn fuan, a daeth i'r amlwg ei fod wedi cymryd rhan mewn cyfweliad gydag ITV ynglŷn â'r etholiad cyffredinol.

Yn ysgrifennu ar X fore Gwener, dywedodd y Prif Weinidog: "Roedd o'n gamgymeriad i beidio aros yn Ffrainc yn hirach - ac rwy'n ymddiheuro."

Yn siarad ar Radio Wales Breakfast, dywedodd Ms Jones: "Dwi'n meddwl ei fod yn iawn fod y Prif Weinidog wedi ymddiheuro am ei benderfyniad ddoe.

"Dwi ddim yn meddwl y cafodd hynny'n gywir.

"Ond dyna un peth allwch chi ddisgwyl gan Rishi, yn ystod ei gyfnod fel Prif Weinidog mae o wastad wedi bod yn glir pan mae'n methu gwneud rhywbeth, mae wastad wedi ymddiheuro a bod yn blwmp ac yn blaen."

Ychwanegodd y cyn-AS dros hen etholaeth Brycheiniog a Sir Faesyfed: "Mae wedi bod yn ddechrau anodd, rydym wedi gwneud sawl camgymeriad.

"Ond bydd y craffu a'r pwysau wastad arnom ni oherwydd 'da ni wedi bod mewn llywodraeth am amser hir."

Er iddi gyfaddef ei fod yn "anodd" mynd at ddrysau etholwyr a dweud ei bod hi'n ymgeisydd Ceidwadol, dywedodd: "Dwi ddim yn cael yr argraff ein bod ni gyd yn doomed yn y blaid Geidwadol."

Yn ôl Plaid Cymru, mae "penderfyniad amharchus" Mr Sunak i adael y digwyddiad D-Day yn "dweud cyfrolau am ei gyfnod fel Prif Weinidog".

Dywedodd llefarydd y byddai cyn-filwyr a'u teuluoedd wedi eu dychryn o weld Mr Sunak yn "blaenoriaethu ei ymgyrch etholiadol dros gofio'r rhai aberthodd eu bywydau er mwyn i ni fyw mewn heddwch".

'Yn sicr mae angen newid'

Y Democratiaid Rhyddfrydol oedd yn dal y sedd rhwng 1992 a 2015, a dywedodd ymgeisydd blaid bod gwasanaethau iechyd yn bwnc pwysig yn yr ardal.

Er mai Llywodraeth Cymru sydd yng ngofal iechyd yng Nghymru, dywedodd David Chadwick bod llawer sy'n byw ar hyd y ffin yn defnyddio gwasanaethau yn Lloegr.

"Yr hyn sy'n allweddol wrth drwsio'r GIG yng Nghymru, y GIG yn Lloegr a dros y DU ydy'r ariannu sy'n dod gan San Steffan," meddai.

"Yn sicr mae angen newid yn y llywodraeth."

Dywedodd ymgeisydd Llafur i'r ardal, Matthew Dorrance, nad yw trafferthion Vaughan Gething yn bwnc trafod wrth ymgyrchu.

Dywedodd Mr Dorrance bod pobl yn siarad am faterion sy'n "effeithio teuluoedd yn ariannol, sut mae pobl yn diodde' gyda'r argyfwng costau byw".

Wrth drafod y bleidlais o hyder a gollodd Mr Gething yn y Senedd, dywedodd ei fod wedi "ennill pleidlais ddemocrataidd ymysg aelodau Llafur", a bod gwrthbleidiau'r Senedd yn "chwarae gemau gwleidyddol".

Dywedodd ymgeisydd Reform UK, Adam Hill, ei bod yn bryd "rhoi ysgytwad" i'r drefn yn yr ardal yn dilyn blynyddoedd o aelodau o'r Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol.

Dywedodd y byddai ei blaid yn "gwneud gwahaniaeth" mewn ardal wledig sy'n colli gwasanaethau.

"Dyna pam dwi yma er mwyn amddiffyn hynny fel ein bod yn gallu cadw ein gwasanaethau hanfodol, ein meddygon, ein heddlu."

Ymgeiswyr yn etholaeth Aberhonddu, Maesyfed a Chwm Tawe:

Democratiaid Rhyddfrydol - David Chadwick

Llafur - Matthew Dorrance

Plaid Cymru - Emily Durrant-Munro

Reform UK - Adam Hill

Ceidwadwyr - Fay Jones

Plaid Werdd - Amerjit Kaur-Dhaliwal