3 llun: Lluniau pwysicaf Margaret Williams

Disgrifiad o'r llun, Y gantores Margaret Williams

Os fyddai rhaid i chi ddewis tri llun sydd yn cynrychioli eich bywyd chi, pa luniau fydden nhw?

Y gantores soprano ac actores o Frynsiencyn, Margaret Williams, sydd wrth y llyw yr wythnos yma yn dewis ei hoff dri llun.

Ffynhonnell y llun, Cyfrannwr

Disgrifiad o'r llun, Margaret Williams a'i thad

Wrth fy modd hefo'r llun yma. Wedi bod yn Borth (Porthaethwy) oedda' ni am dro bach gan fod fy nhad isio i Iwan, oedd yn bedair oed ar y pryd, gael mynd draw at y pier a gweld y bont.

Ar ffordd nôl, parcio'r car ar 'chydig wrth y 'lwcowt' i orffen yr hufen iâ a rhyfeddu, fel bob amser, am harddwch y Fenai. Troi amdani wedyn tua Brynsiencyn, pasio'r tŵr, finna'n deud wrth Iwan "yli tŵr marcwis yna fan'na, drycha mor uchal ydi o" a medda f'ynta' nôl... "mae o mor uchal a Taid tydi Mam"!

Ffynhonnell y llun, Cyfrannwr

Disgrifiad o'r llun, Y diweddar Dai Jones Llanilar, a Margaret

Fues i'n lwcus iawn i gydganu, a chydweithio â dau o ddiddanwyr mwya’ Cymru, sef Ryan a Dai Jones.

Profiad anhygoel a diguro oedd canu o flaen cynulleidfaoedd hefo'r ddau. "Hywel a Blodwen" fydda'r "eitem gerddorol ddigri" hefo Ryan, a "Madam will you walk" hefo Dai. Dyna'i chi dasg ynddo'i hun oedd canu'r deuawda' 'ma'n lân a chroyw - a heb chwerthin!

Ma'r llun papur newydd yma o Dai a finna'n dangos yn blaen mor anodd oedd hynny! Gen i gymaint o atgofion bythgofiadwy am y ddau.

Ffynhonnell y llun, Cyfrannwr

Disgrifiad o'r llun, Margaret gyda'r Pab John Paul II

Llun sy'n agos iawn at 'y nghalon i.

Dwi'n teimlo'n tu hwnt o freintiedig o fod wedi cael cynulliad preifat â'r Pab John Paul ll yn y Fatican yng nghwmni'r comedïwr Tom O'Connor a'i wraig Patricia, nôl yn yr wythdegau. Cawsom rosari bob un ganddo.

Bellach mae'r Pab John Paul ll wedi'i ganoneiddio yn Sant.

Hefyd o ddiddordeb: