Â鶹ԼÅÄ

3 llun: Lluniau pwysicaf Catrin Mara

  • Cyhoeddwyd
Catrin Mara
Disgrifiad o’r llun,

Catrin Mara

Yr actores Catrin Mara, panelydd ar y gyfres newydd o Chwalu Pen ar Â鶹ԼÅÄ Sounds, sy'n dewis tri llun sy'n agos at ei chalon.

Ffynhonnell y llun, Catrin Mara
Disgrifiad o’r llun,

Catrin a Nain Talgoed

Dyma lun gafodd y teitl answyddogol 'ffrindia penna'' oherwydd dyna fuon ni erioed. Nain 'Talgoed' sydd yma efo fi. Dynes oedd a syniadaeth bell o flaen ei hamser. Roedd hi hefyd yn andros o hwyl a mor ifanc ei ffordd. Dwi'n credu ein bod yn gweld y byd trwy lens debyg iawn.

Ffynhonnell y llun, Arwyn Herald
Disgrifiad o’r llun,

Cynog Dafis, Dafydd Wigley, Dad (Elfyn Llwyd) a Ieuan Wyn Jones yn cerdded i'r Senedd yn bedwar dros Blaid Cymru yn 1992

Yma gwelwn Cynog Dafis,Dafydd Wigley, Dad a Ieuan Wyn Jones yn cerdded i'r Senedd yn bedwar dros Blaid Cymru yn 1992.

Roedd hi'n foment arwyddocaol am sawl rheswm. Be' sydd yn aros yn y cof i mi ydy Mam yn sibrwd yn fy nghlust 'Dychmyga sut oedd teulu Gwynfor (Evans) yn teimlo yn ei weld o'n cerdded i mewn ar ei ben ei hun.'"

Rhwng Dad a Ieuan gallwch weld fy mrawd Rhods yn photobombio. Aeth o ymlaen i astudio gwleidyddiaeth.

Ffynhonnell y llun, Ray Daniel, Lens Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mam Catrin; y gantores Eleri Llwyd

Dwi'n caru'r llun yma o Mam. Mae hi'n adnabyddus yn Nghymru fel cantores ond yn y Bala fel cyn bennaeth Saesneg Ysgol y Berwyn.

Roedd hi hefyd yn cadw popeth i fynd tra roedd Dad yn gweithio yn Llundain. Tipyn o job efo dau teenager direidus a llond cwt o golomennod (nad ydy hi'n cîn arnynt) i'w tendio. Santes.

Hefyd o ddiddordeb: