Sefyllfa rygbi Cymru i waethygu cyn gwella - Shanklin

Ffynhonnell y llun, Huw Evans Agency

Disgrifiad o'r llun, Am y pumed tro'r tymor yma, colli wnaeth holl ranbarthau Cymru
  • Awdur, Cennydd Davies
  • Swydd, Chwaraeon Â鶹ԼÅÄ Cymru

Mae cyn-ganolwr Cymru, Tom Shanklin o’r farn y bydd sefyllfa rygbi Cymru yn gwaethygu ymhellach ar ôl i’r pedwar tîm proffesiynol golli eto'r penwythnos diwethaf.

Dyma’r pumed tro'r tymor yma i bob un o dimoedd Cymru golli yn yr un rownd, sy’n golygu fod y Gweilch, Scarlets, Dreigiau a Chaerdydd i gyd yn chwe isa’r tabl gyda dwy rownd yn weddill.

Dim ond cyfanswm o 17 buddugoliaeth sydd wedi bod rhwng y rhanbarthau i gyd mewn 64 gêm, a dim ond wyth o rheiny yn erbyn gwrthwynebwyr tu hwnt i Gymru – y gweddill yn y gemau darbi Cymreig.

Y Gweilch sydd wedi perfformio orau wrth sicrhau wyth buddugoliaeth hyd yma, ond er bod lle yn yr wyth uchaf ac felly yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop y tymor nesaf yn fathemategol bosib, mae bellach yn ymddangos tu hwnt i’w gafael ar ôl colli’n drwm yn Leinster ar yr ail benwythnos yn olynol iddyn nhw ildio dros 60 o bwyntiau.

Ffynhonnell y llun, PA

Disgrifiad o'r llun, "Dwi ddim yn gweld unrhyw ffordd y bydd y sefyllfa’n gwella tymor nesaf," meddai Tom Shanklin

Mae’r hinsawdd economaidd ar wasgfa ariannol ar y rhanbarthau yn hysbys i bawb gyda’r uchafswm cyflogau fesul carfan wedi’i gwtogi i £5.2m eleni.

Mi fydd hyn yn lleihau ymhellach tymor nesaf i £4.5m ac yn ôl Shanklin does dim modd i dimoedd Cymru gystadlu’n deg, a’r bwlch yn debygol o ledaenu.

"Does dim modd i ni gystadlu â’r chwe thîm uchaf, a tan i’r sefyllfa newid, mi fydd timoedd Cymru yn gyson ar waelod y tabl," meddai.

Yn siarad ar raglen Scrum V Â鶹ԼÅÄ Cymru fe ddywedodd y cyn-ganolwr mai gwaethygu fydd y sefyllfa cyn gwella.

"Dwi ddim yn gweld unrhyw ffordd y bydd y sefyllfa’n gwella tymor nesaf yn enwedig oherwydd  fydd nifer o chwaraewyr yn barod i godi pac oherwydd y sefyllfa ariannol.

"Mae angen newidiadau mawr, dramatig a phellgyrhaeddol ac os nad yw’r cyllidebau yn cynyddu yna fydd 'na ddioddef am flynyddoedd i ddod."

'Cymryd y bygythiad o ddifri'

Tan yn ddiweddar doedd canlyniadau siomedig y rhanbarthau ddim o dan y chwyddwydr cymaint â hynny, yn rhannol oherwydd llwyddiant y tîm cenedlaethol ond mae’r llwyddiant yna wedi hen ddiflannu.

Dim ond un fuddugoliaeth fuodd i dîm y merched eleni, colli pob un o gemau’r Chwe Gwlad oedd hanes y dynion, ac mae 'na berygl yn ôl Shanklin y gallai’r diddordeb ar lawr gwlad bylu, gyda’r genhedlaeth nesaf yn troi at gampau eraill.

"Mae’n rhaid i’r awdurdodau gymryd y bygythiad o ddifri' – mae’n hanfodol fod 'na dimau yn cystadlu am dlysau yn flynyddol er mwyn cynnal diddordeb ond ar hyn o bryd y' ni ymhell o’r nod.

"Y cwestiwn yw beth yw gweledigaeth Undeb Rygbi Cymru a sut mae codi’r gêm allan o’r dyfnderoedd."

Mae Prif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru Abi Tierney wedi cyhoeddi y bydd strategaeth newydd yr undeb  yn cael ei gyhoeddi fis nesaf, a hynny er mwyn ymdrin â datrys anghydfod y gêm yn y tymor hir.