鶹Լ

Dyfarnu yn y Gemau Olympaidd yn 'gwireddu breuddwyd'

Disgrifiad,

Y Cymro sy'n 'gwireddu breuddwyd' yn dyfarnu yn y Gemau Olympaidd

  • Cyhoeddwyd

Mae cael ei ddewis i ddyfarnu yng nghystadlaethau rygbi'r Gemau Olympaidd wedi “gwireddu breuddwyd” i Ben Breakspear o Gwm Cynon.

Fe fydd Ben, 26, yn dyfarnu'r gemau saith bob ochr ym Mharis yn yr haf.

Wrth siarad ar Dros Frecwast ddydd Gwener dywedodd Ben bod y cyfan wedi bod yn “bach o sioc” ond ei fod yn falch ei fod o’r diwedd cael rhannu’r newyddion anhygoel.

“I gael yr e-bost 'na i ddweud bo' fi ar y ffordd i Baris – mae e dal heb sinko mewn eto," meddai Ben.

“Dwi dal yn prosesu popeth sy’n mynd ymlaen. Mae’n wir anrhydedd a dwi’n edrych ymlaen i’r haf.

"Mae wir wedi bod yn freuddwyd i gymryd rhan. Yn 2012 rwy’n cofio gwylio’r Gemau Olympaidd yn Llundain a fi methu credu bo’ fi eleni yn cael cymryd rhan.”

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ben yn ddiolchgar iawn am sgwrs a gafodd gyda Nigel Owens yn ystod un o gemau'r Urdd

Mae Ben yn gyn-ddisgybl o Ysgol Gyfun Gymraeg Rhydywaun a dywed mai'r ysgol a’i anogodd i ddilyn cwrs dyfarnu fel un o’i bynciau TGAU.

Mae wedi bod yn dyfarnu ers yn 18 a bellach yn teithio'r byd gan wneud gyrfa o ddyfarnu.

Mae’n dweud hefyd fod cystadlaethau chwaraeon yr Urdd wedi bod yn hwb i’w yrfa a sgwrs a gafodd yn ystod un o’r gemau hynny gyda’r dyfarnwr rhyngwladol Nigel Owens.

"Dwi’n cofio’r sgwrs 'na ges i gyda Nigel Owens lawr yn Sir Gâr ryw chwech i saith mlynedd yn ôl – 'nath e ddweud wrthai pa gyfleon oedd allan yna o ran dyfarnu – rhywbeth o’n i heb really meddwl am…

"O’dd y chat 'na really wedi agor y freuddwyd i weld pa ffynonellau sydd mas 'na i 'neud gyrfa yn y byd dyfarnu ac yn y byd rygbi a fi heb edrych yn ôl ers hynny.”

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Ben Breakspear yn dyfarnu yn ystod gemau dan 20 Cwpan Rygbi'r Byd

Mae Ben yn un o 23 sydd wedi’u dewis i ddyfarnu y gemau saith bob ochr – bydd 12 yn dyfarnu gemau’r dynion ac 11 yn dyfarnu gemau'r merched a fydd yn cael eu cynnal ar draws Ffrainc o 24-30 Gorffennaf.

Bwriad tymor hir Ben yw bod yn ddyfarnwr gemau 15 chwaraewr, ond am y tro mae am ganolbwyntio ar dimau saith bob ochr er mwyn ennill profiad.

Mae'n dweud fod mwy o gyfleon ar hyn o bryd i fod yn ddyfarnwr saith bob ochr.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr

"Mae’n rhoi cyfle i fi deithio’r byd ac i dyfu fel dyfarnwr. Rhaid gwneud penderfyniadau mawr o dan bwysau o flaen torf eitha mawr," meddai.

Mae Ben eisoes wedi dyfarnu gemau rygbi saith bob ochr yng Nghwpan y Byd ac yng Ngemau’r Gymanwlad ond fe fydd eleni yn "achlysur enfawr”, ychwanegodd.

&ܴdz;‵ really edrych ymlaen wrth i lygad y byd fod ar y Gemau Olympaidd yn Ffrainc.”