鶹Լ

Her cael lle i fyw gydag anifail anwes

James a BrunoFfynhonnell y llun, Llun Cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd James Strauch ei fod wedi gorfod dewis rhwng cael gwared ar Bruno neu fod yn "ddigartref gyda chi"

  • Cyhoeddwyd

Mae pobl sy'n berchen ar anifeiliaid anwes yn ei gweld hi'n anodd cael rhywle i fyw, gan ddweud fod nifer o landlordiaid yn gwrthod cynnig lle iddyn nhw.

Dywedodd perchennog ci o'r Rhyl ei fod wedi gwneud cais i rentu 60 eiddo, ac yn y diwedd wedi cynnig £1,000 yn ychwanegol i'r landlordiaid er mwyn ceisio cael caniatâd i gael lle i fyw gyda'i gi Labrador, Bruno.

Wedi wyth mis o chwilio, dywedodd James Strauch ei fod wedi gorfod dewis rhwng cael gwared ar Bruno neu fod yn "ddigartref gyda chi".

Dywedodd ei fod wedi cael rhywle i fyw o fewn wythnos ar ôl iddo beidio nodi ar ei gais fod ganddo gi.

Dywedodd y Gymdeithas ar gyfer Landlordiaid Preswyl fod anifeiliaid yn achosi risg ychwanegol i'r landlordiaid, ac y dylen nhw gael yr hawl i ddewis pwy sy'n rhentu eu heiddo.

Dywedodd Dog Trust fod tua 15% o anifeiliaid sy'n cael eu gadael mewn lloches o ganlyniad i berchnogion yn gorfod newid lle maen nhw'n byw.

Allweddi tŷ o fewn wythnos i ddychwelyd y ci

Roedd Mr Strauch yn byw gyda'i gyn-gariad pan ddaeth Bruno i fyw gyda nhw.

Ar ôl i'w perthynas ddod i ben, roedd yn awyddus i gael cartref iddo ef a Bruno.

Wedi deufis o chwilio am rywle newydd i fyw heb unrhyw lwc, fe symudodd i mewn gyda'i ffrind, gan feddwl y byddai wedi gallu dod o hyd i rywle i fyw ymhen rhai wythnosau.

Er hynny, dywedodd Mr Strauch, sy'n gwirfoddoli gyda'r RNLI, ei fod wedi derbyn "na" fel ateb gan bob landlord neu asiantaeth dai.

"Fe wnes i hyd yn oed gynnig dwbl, neu deirgwaith y blaendal, £1,000 yn ychwanegol, rhag ofn. Nes i ddweud y bydden i'n ail-wneud y tŷ, ond doedd dim diddordeb," meddai.

Wedi chwe mis o chwilio, bu'n rhaid iddo adael tŷ ei ffrind am fod teulu ei ffrind yn disgwyl babi ac roedd angen y lle yn ôl.

Dywedodd iddo wynebu penderfyniad "hynod rwystredig ac anodd" o ddychwelyd Bruno.

Ar ôl iddo ddod o hyd i berchennog cyfagos newydd i'w gi, fe welodd newid amlwg yn yr ymatebion wrth iddo ymgeisio am le i fyw.

"Unwaith nes i ffeindio perchennog i Bruno ges i weld tŷ o fewn deuddydd, ac roedd gen i'r allweddi o fewn wythnos," meddai.

'Anifeiliaid yn rhan o’r teulu'

Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast, dywedodd Billie Jade Thomas o elusen RSPCA Cymru ei bod hi'n "cymryd yn hirach" i'r rhai sydd ag anifeiliaid i ddod o hyd i rywle i fyw.

"Ma’ 'na lefydd sy'n gadael i chi gymryd anifail anwes ond bydd e'n cymryd yn hirach nag os ydych heb anifail," meddai.

Dywedodd bod yr argyfwng costau byw a rheolau rhentu yn golygu bod "canolfannau yn llawn - canolfannau elusennau fel Dogs Trust yn llawn".

"Mae'n meddwl bod rhaid i bobl rhoi lan eu hanifeiliaid a wedyn os, er enghraifft, mae'n rhaid i rywun symud oherwydd mae eu rhent yn rhy ddrud neu maen nhw angen symud am swydd neu rhywbeth fel 'na mae trio ffindo cartref arall lle maen nhw’n gallu cadw anifeiliaid anwes - mae yn galed."

Disgrifiad,

Yn ôl Billie-Jade Thomas o RSPCA, mae'n her i'r rhai ag anifeiliaid i ddod o hyd i gartref

Ychwanegodd: "Mae anifeiliaid yn rhan o’r teulu, maen nhw’n ffrind i bobl, mae llawer o benefits o gael anifail anwes felly mae’n torri fy nghalon i feddwl bod, weithiau, maen rhaid i bobl rhoi nhw lan jest i gael tai saff."

Yn ôl Ms Thomas byddai mwy o anifeiliaid yn gallu cael eu mabwysiadu pe bai landlordiaid yn caniatáu lle i bobl fyw gyda'u hanifeiliaid.

Ffynhonnell y llun, Dog Trust
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Dog Trust nhw ei fod yn "dorcalonnus" gweld cŵn a'u perchnogion yn cael eu gwahanu

Dywedodd Dogs Trust fod cynnydd o bron i draean yn nifer y bobl sy'n cael gwared ar eu cŵn oherwydd problemau wrth gael lle i fyw yng Nghymru rhwng Mawrth a Gorffennaf eleni, o'i gymharu â'r un cyfnod yn 2023.

Dywedon nhw ei fod yn "dorcalonnus" gweld cŵn a'u perchnogion yn cael eu gwahanu.

Mae Llywodraeth Y DU yn edrych i newid y gyfraith sy'n ymwneud â rhentu gydag anifeiliaid anwes.

Mae Mesur Hawliau Rhentwyr wedi ei groesawu gan yr RSPCA, sy'n credu y bydd yn gorfodi landlordiaid i nodi eu rhesymau dros beidio â derbyn cais gan rywun sydd ag anifail anwes.

Mae gan y gyfraith yng Nghymru ganllawiau sy'n rhoi'r cyfrifoldeb ar y landlord i ystyried pob cais gan bobl sydd am rentu gydag anifail anwes.

Dywedodd David Bowles, Pennaeth Materion Cyhoeddus yr RSPCA: “Mae’r RSPCA yn credu bod landlordiaid yn anwybyddu’r canllawiau hynny.”

Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddan nhw'n ystyried mesurau sy'n cefnogi rhentwyr sydd ag anifeiliaid anwes, ac y byddan nhw'n gwneud cynigion yn ddiweddarach y mis hwn.