Â鶹ԼÅÄ

Cynghorau i ailedrych ar bolisi sganio anifeiliaid anwes

  • Cyhoeddwyd
CathFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Ai Cymru fydd y wlad gyntaf yn y byd i fabwysiadu polisi o sganio ar draws yr holl gynghorau?

Mae cynghorau sir Cymru wedi cytuno i ailedrych ar y ffordd maen nhw'n mynd ati i sganio anifeiliaid anwes.

Roedd wedi galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i wneud sganio am ficrosglodion - mewn anifeiliaid anwes byw neu farw - yn orfodol.

Arweiniodd hyn at gynghorau yn edrych yn wirfoddol ar eu harferion, gyda'r chwech nad oedd eisoes wedi dechrau sganio yn edrych ar bolisïau newydd.

Mae milfeddygon a llochesi yn sganio anifeiliaid anwes pan maen nhw'n dod o hyd iddyn nhw, ond nid oes unrhyw ofyniad ar gynghorau i wneud hynny.

Ar hyn o bryd, nid yw cynghorau sir Gwynedd, Ynys Môn, Caerdydd, Casnewydd, Blaenau Gwent a Chastell-nedd Port Talbot yn sganio anifeiliaid anwes.

Mae gweddill yr awdurdodau lleol yn sganio anifail anwes "pan fyddant yn penderfynu ei fod mewn cyflwr priodol i wneud hynny".

Cymru yn arwain?

Dywedodd elusen Cats Matter mai Cymru fydd y wlad gyntaf yn y byd i fabwysiadu polisi o sganio ar draws yr holl gynghorau.

Ychwanegodd llefarydd y byddai perchnogion yn "falch ofnadwy" gyda'r penderfyniad.

Dywedodd RSPCA Cymru: "Mae'n gwneud datganiad hynod o bwysig am y ffordd ry'n ni'n trin anifeiliaid mewn cymdeithas yng Nghymru."