Â鶹ԼÅÄ

Carcharu dynes am achosi marwolaeth mam 'hael a chariadus' o Bwllheli

Emma MorrisFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd teulu Emma Morris fod eu bywydau "wedi eu chwalu yn llwyr"

  • Cyhoeddwyd

Mae dynes o Abertawe wedi ei dedfrydu i saith mlynedd a phedwar mis o garchar am achosi marwolaeth mam ifanc o Bwllheli drwy yrru'n beryglus yng Ngwynedd y llynedd.

Bu farw Emma Louise Morris, oedd yn fam i ddau o blant, yn dilyn gwrthdrawiad rhwng pedwar cerbyd ar ffordd osgoi'r Felinheli ar 3 Ebrill 2023.

Roedd Jacqueline Mwila, 51 o Abertawe, wedi pledio'n euog i achosi marwolaeth Ms Morris, 28, ac i gyhuddiad arall o achosi niwed difrifol i fab a phartner Ms Morris.

Mewn gwrandawiad Llys y Goron Caernarfon, oedd yn cael ei glywed yn Llandudno, cafodd Mwila hefyd ei gwahardd rhag gyrru am naw mlynedd.

Clywodd y llys fore Gwener fod Ms Morris wedi ei lladd, a'i mab pedair oed wedi ei anafu yn ddifrifol, ar ôl i yrrwr arall anwybyddu llinellau gwyn dwbl yn y ffordd er mwyn goddiweddyd car arall.

Roedd Mwlia yn gyrru adref o wyliau gyda'i theulu yn Iwerddon ar y pryd.

Dywedodd y barnwr Timothy Petts nad oedd gan Mwila eglurhad am pam wnaeth hi benderfynu pasio'r car a chyflymu i 69mya mewn parth 60mya.

'Dim siawns o'ch osgoi'

"Fe wnaeth Emma Morris eich gweld, ond doedd ganddi ddim siawns o'ch osgoi," meddai.

"Doeddech chi ddim wedi bwriadu gyrru yn beryglus, a dwi'n derbyn fod y ffaith eich bod wedi lladd mam ifanc wedi cael effaith fawr arnoch."

Clywodd y llys y byddai Ms Morris wedi marw yn syth, tra bod ei mab, Jac Williams, yn sownd yn y car oedd wedi troi ben i waered.

Ychwanegodd y Barnwr Petts fod "marwolaeth eich merch glên, hael a chariadus wedi gadael gwagle enfawr" ym mywydau ei rhieni.

Disgrifiad o’r llun,

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar y rhan o'r A487 sy'n osgoi pentref Y Felinheli rhwng Caernarfon a Bangor

Clywodd y llys mai dyma oedd y tro cyntaf i Mwila yrru ar y rhan yma o'r ffordd, ond bod y "marciau ar y lon yn glir iawn".

Dywedodd James Walsh, partner Ms Morris, ei fod yn dewis cerddoriaeth ar ei ffôn pan glywodd Emma yn dweud rhywbeth ac fe edrychodd fyny i weld cerbyd yn dod i'w cyfeiriad nhw ar yr ochr anghywir y ffordd.

Yn ôl yr erlyniad, byddai'r gwrthdrawiad wedi ei osgoi yn llwyr pe bai'r Audi oedd yn cael ei yrru gan Ms Mwila wedi aros yn y lôn gywir.

'Ein calonnau yn dal yn deilchion'

Dywedodd teulu Emma Morris mewn datganiad bod y siwrnai i gyrraedd y man yma wedi bod yn "hir, yn arteithiol ac yn boenus".

"Does dim gwir gyfiawnder i Emma.

"Fe wnaeth Jaqueline Mwila achosi ei marwolaeth drwy yrru yn beryglus, ac er iddi bledio'n euog, mae'r ddedfryd yn bell o fod yn ddigon difrifol i ni fel teulu.

"Mae ein bywydau ni wedi cael eu newid am byth, wedi eu chwalu yn llwyr gan weithredoedd diofal y ddynes yma wnaeth yrru mewn modd mor beryglus - i'r pwynt lle wnaeth hi ladd ein merch.

"Byddwn yn ceisio symud ymlaen heb ein Emma prydferth ni. Bydd rhaid i'w dau o blant wynebu'r dyfodol yma heb eu mam gariadus.

"Mae ein poen yn gyson, mae ein calonnau yn dal yn deilchion."

Ar ran Mwlia, dywedodd yr amddiffyniad ei bod yn "ymddiheuro o waelod calon" a'i bod yn deall fod "eiliad o wneud penderfyniad gwael wedi newid bywyd teulu cyfan".