Â鶹ԼÅÄ

Bachgen yn gwella wedi gwrthdrawiad ger Y Felinheli

  • Cyhoeddwyd
A487 Felinheli
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Peugeot 208, Audi A3 llwyd tywyll, BMW 1 series, a Skoda Octavia yn rhan o'r digwyddiad ar yr A487

Mae bachgen pedair oed yn parhau yn yr ysbyty wedi gwrthdrawiad ar ffordd osgoi Y Felinheli ger Caernarfon, ond mae ei deulu'n dweud bod ei gyflwr yn gwella.

Bu farw Emma Louise Morris, 28, o Bwllheli yn y gwrthdrawiad ar ffordd yr A487 toc wedi 19:00 ar 3 Ebrill.

Cafodd cwest i'w marwolaeth ei agor a'i ohirio fore Gwener.

Cafodd y bachgen ei gludo i Ysbyty Alder Hey yn Lerpwl gydag anafiadau allai beryglu ei fywyd.

Mae dynes a gafodd ei chludo i Ysbyty Stoke gydag anafiadau difrifol a dau berson arall gafodd eu cludo i Ysbyty Gwynedd bellach wedi gadael yr ysbyty.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y cwest i farwolaeth Emma Louise Morris ei agor a'i ohirio fore Gwener, 14 Ebrill

Dywedodd y Cwnstabl Gareth Rogers o Uned Blismona'r Ffyrdd Heddlu'r Gogledd: "Diolch byth mae'r bachgen bach yn gwella, sydd yn newyddion andros o dda.

"Mae ein meddyliau'n parhau efo teulu a ffrindiau Miss Morris ar adeg sy'n anodd iawn i bawb. Maen nhw yn parhau i gael eu cefnogi gan swyddog cyswllt teulu arbenigol.

"Mae ein hymchwiliad wedi dechrau, a hoffem ddefnyddio'r cyfle yma i wneud apêl bellach am dystion.

"Rydym yn parhau i gynnal ymholiadau er mwyn deall yr amgylchiadau yn llawn a hoffem ddiolch i rhai sydd wedi cysylltu â ni hyd yn hyn.

"Rydym yn parhau i annog unrhyw un, sydd heb siarad â ni eto, i gysylltu - yn enwedig rhywun oedd yn teithio ar hyd ffordd osgoi'r A487 rhwng 18:30 a 19:00 ar 3 Ebrill neu a allai fod â lluniau dashcam."