Â鶹ԼÅÄ

'Y gwaith dur yw ein hunaniaeth - ni yw'r dref dur'

Kenneth Phillips a Gabriella Jukes
Disgrifiad o’r llun,

Mae sawl aelod o deulu Gabriella Jukes wedi gweithio yn y gwaith dur, gan gynnwys ei thad-cu, Kenneth Phillips

  • Cyhoeddwyd

Ddydd Llun, fe fydd y dull traddodiadol o gynhyrchu dur ym Mhort Talbot yn dod i ben ar ôl mwy na chan mlynedd.

Mae Tata Steel wedi addo adeiladu ffwrnes arch drydanol gwerth £1.25bn ond bydd bron i 2,000 o swyddi a llawer mwy o swyddi contractwyr yn diflannu.

"Mae gennym y traeth, mae gennym y mynyddoedd, ond y gwaith dur yw ein hunaniaeth. Ni yw'r dref dur," meddai Gabriella Jukes, sydd â sawl aelod o'i theulu sydd wedi gweithio ar y safle dur.

Dywedodd Gabriella ei bod wedi teimlo balchder yn teithio o amgylch y byd ar ôl ennill cystadleuaeth Miss Wales rai blynyddoedd yn ôl a sôn am hanes Port Talbot a phwysigrwydd y gwaith dur i'r ardal.

Ond mae hi bellach yn rhannu pryderon nifer o bobl yr ardal dros ddyfodol y safle.

"Mae fy nghefnder yn gweithio yna a ma' fe dal yn ifanc iawn. Gadawodd e'r ysgol yn meddwl ei fod yn mynd i gael swydd yna am oes. Ond erbyn hyn mae pethau mor ansicr iddo fe a teuluoedd ifanc eraill."

Fe weithiodd taid Gabriella, Kenneth Phillips, fel peiriannydd trydanol yn Tata.

Mae wastad wedi bod yn gysur, gweld y ffwrneisi chwyth, meddai, oherwydd "chi'n sylweddoli bod eich plant yn gweithio, mae ganddyn nhw swydd yna".

Mae'n drist nawr o weld beth sy'n digwydd, ond mae'n cyfaddef "nad yw'n syndod" ar ôl gweld swyddi'n cael eu torri sawl tro yn ystod ei 25 mlynedd ar y safle.

"Mae'n mynd i ddinistrio Port Talbot," dywedodd. "Does dim ots gen i beth mae pobl eraill yn dweud, maen nhw i gyd yn gwybod y gwir."

Dywedodd Tata Steel bod yna gyfleoedd i weithwyr sydd am golli eu swyddi i ailhyfforddi a bydd dyfodol y gwaith dur yn golygu dyfodol gwyrddach.

"Mae'n mynd i helpu o ran ansawdd yr aer," meddai Gabriella, "ond ar ddiwedd y dydd fi'n credu bydd safonau byw nifer o bobl yn gwaethygu...

"Bydd llai o swyddi, llai o arian yn yr ardal ac efallai y bydd rhaid i bobl symud i ffwrdd o'r ardal yn y pendraw i chwilio am waith."

'Gwres a seiniau'r gwaith dur ar ganfas

Mae Angharad Young yn rhannu'r un tristwch wrth feddwl na fydd ffwrneisi chwyth y gwaith dur i'w gweld yn y dyfodol. Nhw sy'n cynrychioli Port Talbot - dyna cartref i nifer o bobl yr ardal, medde hi.

Fuodd ei thad-cu'n gweithio yn y gwaith dur ac fe gymrodd e amser i ddarlunio a pheintio lle roedd e'n gweithio hefyd.

Mae rhai o'i luniau ar waliau un o ystafelloedd clwb chwaraeon a chymdeithasol Tata Steel erbyn hyn.

Disgrifiad o’r llun,

Mae casgliad o beintiadau tad-cu Angharad Young, sy'n dangos gwaith dur Port Talbot, ar y wal yng nghlwb chwaraeon a chymdeithasol Tata Steel

"O'dd e’n anodd iawn pan farwodd e i ddewis beth i gadw. Mae e’n hyfryd dod i'r clwb a gweld lluniau oedd yn ei stafell fyw e, ma' fe’n deimlad reit neis, cartrefol," meddai Angharad.

"Roedd fy nhad-cu yn dwlu ar liwiau a pethau go ddramatig. Felly roedd hyn yn ffordd o allu rhoi’r contrast rhwng y du a gwyn, a trio cael y gwres a seiniau'r gwaith dur mas yn y lliwiau."

Mae Angharad yn credu y byddai ei thad-cu yn falch bod yna obaith y bydd y dref yn lanach o ganlyniad i'r newidiadau sydd ar y gweill, ond y byddai hefyd gofidio am bobl yn colli eu swyddi ac effaith hynny ar yr ardal.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Claire Edwards yn rhedeg y bar yng nghlwb chwaraeon a chymdeithasol Tata Steel ac yn aml yn clywed cwsmeriaid yn trafod dyfodol y gwaith dur

Yn ôl Claire Edwards sy'n rhedeg clwb chwaraeon a chymdeithasol Tata Steel, "does yna ddim Port Talbot heb y gwaith dur".

Mae hi'n gobeithio y bydd perchnogion y safle'n cadw eu haddewidion i barhau â'r broses o gynhyrchu dur yn y dref.

Ond mae'n cyfaddef ei fod yn gyfnod anodd iawn i bawb, yn enwedig nifer o aelodau timau chwaraeon y clwb sy'n gweithio ar y safle ac yn wynebu colli eu swyddi.

"Efallai bydd y newidiadau ar y safle yn dda i'r amgylchedd, ond mae'n anodd gweld pobl yn colli eu swyddi. Rwy'n gobeithio y daw pethau'n dda yn y diwedd, a dweud y gwir," meddai.

Er gwaetha'r pryderon, mae'r clwb, meddai, yn gallu bod yn ddihangfa i nifer o bobl rhag pwysau'r hyn sy'n digwydd yn y gwaith dur, yn enwedig ar y penwythnos pan mae'r timau rygbi a phêl-droed yn chwarae.

Pynciau cysylltiedig