鶹Լ

Dyddiau olaf ffwrneisi dur traddodiadol Port Talbot mewn lluniau

Oriel luniauNeidio heibio'r oriel luniauSleid 1 o 4, Mandie Pugh, mewn côt wen, yn sefyll o flaen ei fan fyrgyrs yn dal bocs clir yn llawn rholiau bara, Mae Mandie Pugh wedi rhedeg fan fyrgyrs ger y gwaith dur am 36 mlynedd
  • Cyhoeddwyd

Rhyw fath o deimlad o orfodaeth yw disgrifiad y ffotograffydd Mark Griffiths o'r rheswm yr aeth ati i wneud ffilm fer am gymuned Port Talbot.

Cafodd ei fagu yn y dref, ac mae teulu a ffrindiau iddo'n gweithio yn y gwaith dur, neu â rhyw fath o gysylltiad gyda’r gwaith.

Mae disgwyl i’r ffwrnais chwyth yng ngwaith Tata gael ei diffodd ddydd Llun.

Bydd tua 2,000 o weithwyr Port Talbot yn colli eu swyddi.

Pan fydd y ffwrnais yn cau, bydd cynhyrchu dur yn y modd traddodiadol yn dod i ben yng Nghymru.

Ffynhonnell y llun, Jon Pountney
Disgrifiad o’r llun,

Bydd tua 2,000 o bobl yn colli eu gwaith pan fydd yr ail o ddwy ffwrnais chwyth Tata ym Mhort Talbot yn cau

Adrodd stori cymuned sydd â dyfodol ansicr mae'r ffilm fer o’r enw gan Mark Griffiths.

“Mae’r effaith yn mynd i fod yn syfrdanol," meddai.

"Fydd e ddim yn effeithio’n unig ar y gweithwyr dur, bydd e’n effeithio ar yr isadeiledd o gwmpas [Tata], y busnesau lleol, y cymunedau sydd yn mynd i gael eu chwalu a’u dinistrio oherwydd hyn.

“Dyma pam ro’n i’n meddwl ei bod hi’n bwysig i mi greu’r gwaith yma,” meddai.

Ffynhonnell y llun, Mark Griffiths
Disgrifiad o’r llun,

Traffordd yr M4 yn nadreddu heibio Port Talbot

Fel rhan o’r ffilm, fe siaradodd Mark Griffiths gydag amrywiaeth o gyfranwyr - cynrychiolydd undeb, perchennog busnes yn y dref, elusen iechyd meddwl, a'r Aelod Seneddol lleol, Stephen Kinnock.

“Mae gen i gysylltiad agos â llawer o bobl ym Mhort Talbot - sawl ewythr, fy nheulu’n ehangach, ffrindiau oedd yn gweithio ar ryw adeg mewn rhan o’r gwaith dur, un ai’n uniongyrchol neu’n rhan o’r isadeiledd - felly mae’n anodd iawn clywed y straeon yma."

Mae’n dweud bod Port Talbot, yn ymdebygu i’r cymoedd o ran agwedd y bobl.

“Ry’n ni’n un teulu anferth, ac mae pawb yn edrych ar ôl ei gilydd,” meddai.

Mae’r ffotograffydd yn gobeithio y bydd ei waith yn cadw hanes y dref yn fyw, ac yn annog rhai sydd mewn grym i ofalu am y gymuned hefyd.

'Dogfennu pethe fydd fyth yn digwydd eto'

Ffynhonnell y llun, Jon Pountney
Disgrifiad o’r llun,

Jon Pountney: 'Afon o fetel tawdd'

Cafodd y ffotograffydd Jon Pountney fynediad i'r safle i dynnu lluniau o ddyddiau olaf y ffwrnes chwyth.

“Fel rhywun o’r tu allan, chi’n mynd i mewn ac yn meddwl, ‘sai wir yn gwybod sut i ymateb i’r hyn rwy’n ei weld, achos mae e' mor anhygoel’, ac fel ffotograffydd, mae hynny’n eitha' anodd, achos chi hefyd yn ceisio canolbwyntio ar y lluniau,” meddai.

Mae ei brosiect diweddara, ‘The Allure of Ruins’, yn canolbwyntio ar greiriau a thirluniau ôl-ddiwydiannol Cymreig, neu “hen bethau” yn ei eiriau ei hun.

Mae hefyd wedi bod yn gyfle i ddweud stori gwaith dur Tata mewn ffordd gyfoes, a “dogfennu pethe fydd fyth yn digwydd eto”.

“Doeddwn i ddim yn gwybod beth i’w ddisgwyl, ac ry’ch chi yn ei hanfod yn mynd i gwrdd ag ystafell dywyll fawr iawn, ble mae na afon o fetel tawdd yn rhedeg drwy’r canol.

“Dydych chi byth wedi gweld unrhywbeth tebyg – mae’n rhywbeth anhygoel bron fel elfennau llosgfynydd, sy’n eitha' brawychus,” ychwanega.

Ffynhonnell y llun, Jon Pountney
Disgrifiad o’r llun,

'Afon o fetel tawdd'

Cyn gynted ag yr ydych chi ar y safle, mae'r teimlad o falchder yn “amlwg iawn, iawn” ymysg y gweithwyr, yn ôl yr artist gweledol.

“Mae pobl yn broffesiynol iawn ac yn parchu ei gilydd, a’r gwaith maen nhw’n ei wneud, sy’n hynod o beryglus,” meddai.

Ffynhonnell y llun, Jon Pountney
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd drama deledu 'The Way' ei ffilmio ym Mhort Talbot

I Jon Pountney, mae 'na deimlad bod hanes yn ailadrodd ei hun, ar ôl bod yn rhan o gynhyrchiad ffuglennol ar waith dur yn cau.

Fe weithiodd fel ffotograffydd ar ddrama deledu Michael Sheen ‘The Way’ y llynedd, oedd yn adrodd stori o anrhefn a therfysg ynghlwm â chau gwaith dur ffuglennol.

Yn ôl seren a chyfarwyddwr y ffilm, Michael Sheen, roedd hi’n “rhyfeddol o agos at y gwir”.

Disgrifiad o’r llun,

Y ffotograffydd Jon Pountney gyda darn o haearn o safle Tata ym Mhort Talbot

Er hyn, mae Mr Pountney yn gweld dyfodol mwy gobeithiol i’r dref na’r un gafodd ei darlunio ar y sgrin fach.

“Mae hynny gan fwyaf ynghlwm â pha mor ymarferol mae’r Cymry. Hyd yn oed yn ystod amseroedd anodd, ychydig yn debyg i streic y glöwyr, y syniad yma y byddwn ni’n dal i fynd," meddai.

“Fe fyddwn ni’n parhau i edrych ar ôl ein gilydd, ac fe wnawn ni barhau i wthio ymlaen, ac fe fydd yfory wastad yn ddiwrnod gwell."