鶹Լ

Cyhoeddi Meuryn ac Islwyn newydd Ymryson y Beirdd

Y Babell Lên
Disgrifiad o’r llun,

Bydd dau wyneb cyfarwydd yn arwain Ymryson y Beirdd yn y Babell Lên eleni

  • Cyhoeddwyd

Y beirdd Twm Morys a Gruffudd Antur fydd wynebau newydd Ymryson y Beirdd yn y Babell Lên yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd eleni.

Ar ôl 20 mlynedd o feurynna a 40 mlynedd o gadw sgôr, mae Tudur Dylan Jones a Dafydd Islwyn wedi penderfynu trosglwyddo'r awenau i eraill.

Ymddangosodd Tudur Dylan fel y Meuryn am y tro cyntaf yn Eisteddfod Meifod yn 2003 ond flynyddoedd yn gynharach, yn Eisteddfod Caerdydd ym 1978 y dechreuodd Dafydd Islwyn gadw’r sgôr.

Cyhoeddwyd enwau'r Meuryn a'r Islwyn newydd ar raglen Heno ar S4C nos Fercher.

Y Meuryn newydd

Ffynhonnell y llun, Marian Ifans
Disgrifiad o’r llun,

Y Prifardd Twm Morys fydd Meuryn newydd Ymryson y Beirdd

Yn wreiddiol o Lanystumdwy, enillodd Twm y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a'r Gororau yn 2003.

Bu hefyd yn Fardd Plant Cymru yn 2009-2010.

Ar hyn o bryd, ef yw golygydd y cylchgrawn cerdd dafod, .

Mae hefyd yn gyfarwydd fel prif ganwr y grŵp Bob Delyn a'r Ebillion.

Yr Islwyn newydd

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Gruffudd Antur fydd yr ‘Islwyn’ newydd

Un o Benllyn yw Gruffudd Antur, ac mae wedi ennill Cadair Eisteddfod yr Urdd fwy nag unwaith.

Gyda gradd mewn Ffiseg, ni ddylai cadw sgôr yn yr Ymryson fod yn broblem iddo.

Yn ogystal â chadw llygad barcud ar y marciau, bydd ei wybodaeth o reolau'r gynghanedd a cherdd dafod hefyd o gymorth i'r Meuryn.

Trosglwyddo'r awenau

Ffynhonnell y llun, Marian Ifans
Disgrifiad o’r llun,

Dafydd Islwyn, sy'n trosglwyddo'r awenau eleni i'r 'Islwyn' newydd, Gruffudd Antur

Ar ôl 40 mlynedd yn eistedd wrth law'r Meuryn, fe roddodd Dafydd Islwyn y gorau i'r Ymryson yn Eisteddfod Caerdydd yn 2018, ond eleni fe gyhoeddwyd yn swyddogol pwy fyddai ei olynydd.

Fel mae'n digwydd, union 40 mlynedd yn gynharach, ym 1978 yn Eisteddfod Caerdydd y gofynnwyd i Dafydd Islwyn gadw'r sgôr am y tro cyntaf, a hynny gan Drysorydd Barddas ar y pryd, T Arfon Williams.

Bu Dafydd Islwyn yn wyneb cyfarwydd iawn nid yn unig yn y Babell Lên, ond fe fyddai o, ei ddiweddar wraig Suzanne, ac Angharad eu merch yn edrych ar ôl stondin Barddas ar y maes am flynyddoedd lawer.

Bu hefyd yn ysgrifennydd cymdeithas Barddas am 38 o flynyddoedd.

Os oeddech chi'n ddigon ffodus i fod yn rhan o gynulleidfa'r Ymryson, yn y Babell Lên, neu'n gwylio ar y teledu, fe wyddech chi bod cyfnod hir o chwerthin o'ch blaen pe byddai Dafydd Islwyn yn dod â'i hances wen allan i sychu ei ddagrau.

Ffynhonnell y llun, Marian Ifans
Disgrifiad o’r llun,

Gwahoddwyd Tudur Dylan Jones i feurynna yn 2003

Gydag 20 mlynedd o feurynna yn yr Ymryson wedi eu cyflawni, Tudur Dylan Jones yw’r Meuryn sydd wedi gweithredu am y cyfnod di-dor hiraf ers canol y ganrif ddiwethaf.

Bu'r diweddar Gerallt Lloyd Owen yn meurynna rhwng 1978 ac 1989, ac yna rhwng 1992 a 2002.

Pan aeth yntau yn wael, gwahoddwyd Tudur Dylan i feurynna yn 2003 a bu wrthi'n ddiwyd wedyn am yr 20 mlynedd nesaf.

Ond fydd Tudur Dylan ddim yn llaesu dwylo yn yr Eisteddfod ym Moduan eleni.

Bydd wrthi fel math arall o feirniad y tro hwn, yn pwyso a mesur cystadleuwyr yn y cystadlaethau llefaru.

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
Nid yw'r 鶹Լ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Tudur Dylan Jones 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r 鶹Լ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Tudur Dylan Jones 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿

O ran trefniadau'r Ymryson eleni, beirniad Englyn y dydd fydd Emyr Lewis, a beirniad Limrig y dydd fydd Bethan Gwanas.

Y gornestau fydd:

Dydd Mawrth - Morgannwg v Deheubarth v Caernarfon

Dydd Mercher - Maldwyn v Llŷn ac Eifionydd v Caerfyrddin

Dydd Iau - Ceredigion v Penceirddiaid v Meirion

Dydd Gwener - Rownd derfynol