Â鶹ԼÅÄ

Cyflwyno Coron a Chadair Prifwyl LlÅ·n ac Eifionydd

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Coron a Chadair Eisteddfod Genedlaethol LlÅ·n ac EifionyddFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol Cymru

Mewn seremoni arbennig yn Oriel Plas Glyn y Weddw, Llanbedrog nos Fawrth fe gafodd Coron a Chadair Eisteddfod Genedlaethol LlÅ·n ac Eifionydd eu cyflwyno i Bwyllgor Gwaith y Brifwyl.

Elin Mair Roberts o'r Ffôr, ger Pwllheli, sydd wedi creu'r goron eleni, a Stephen Faherty - sy'n byw ger Rhuthun ond yn hanu o Bren-teg, ger Porthmadog - gafodd ei gomisiynu i greu'r gadair.

Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith, Michael Strain bod hi'n "bleser bod yma heno i dderbyn y Goron a'r Gadair ar ran yr Eisteddfod".

Ychwanegodd ei bod yn "anodd credu", wedi pedair blynedd o baratoadau, mai ond 50 diwrnod sydd bellach cyn diwrnod agoriadol Prifwyl eleni, sy'n cael ei chynnal ym Moduan rhwng 5 a 12 Awst.

Roedd y Lôn Goed - y llwybr hanesyddol pwysig ger Chwilog sy'n ffinio Llŷn ac Eifionydd, ac a gafodd ei hanfarwoli yn y gerdd Eifionydd gan R. Williams Parry - yn ysbrydoliaeth i'r ddwy wobr.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Goron yn adlewyrchu ffiniau traddodiadol amrywiol cefn gwlad bro'r Brifwyl

Fe ddefnyddiodd y cynhyrchydd gemwaith Elin Mair Roberts ffiniau'r Lôn Goed fel sail i'r goron o arian, sydd â phenwisg deunydd gwyrdd i adlewyrchu "cyfoeth tir yr ardal" a chennin pedr o aur melyn 18ct.

Mae'r dyluniad hefyd yn adlewyrchu'r "ffiniau rhwng ffermydd a thiroedd, yn ogystal â'r gwrychoedd a'r waliau cerrig a welir yn draddodiadol yn ardaloedd yr Eisteddfod".

Mae'r Goron yn cael ei noddi eleni gan Gangen Sir Gaernarfon Undeb Amaethwyr Cymru, a theulu Bryn Bodfel, Rhydyclafdy sy'n rhoi'r wobr ariannol o £750, er cof am Griffith Wynne.

Disgrifiad o’r llun,

Elin Mair Roberts gyda'r Goron

Os fydd teilyngdod yn y gystadleuaeth, fe fydd yn cael ei chyflwyno i'r bardd buddugol yn seremoni'r Coroni brynhawn Llun 7 Awst yn y Pafiliwn Mawr.

Roedd gofyn i ymgeiswyr lunio pryddest neu gasgliad o gerddi heb fod mewn cynghanedd, hyd at 250 o linellau, ar y pwnc Rhyddid.

Y beirniaid eleni yw Jason Walford Davies, Elinor Wyn Reynolds a Marged Haycock.

Ffynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol Cymru/Iolo Penri
Disgrifiad o’r llun,

Cadair a naddwyd o dderw a fu'n sefyll ar ymyl y Lôn Goed am ddwy ganrif

Cerflunio yw arbenigedd Stephen Faherty, a naddodd y Gadair eleni o ddarn mawr o goeden dderw a gafodd ei phlannu ar ymyl y Lôn Goed dros 200 mlynedd yn ôl.

Fe gafodd y dderwen gyfan ei chwythu i lawr yn ystod Storm Darwin yn Chwefror 2014, ac fe gyflwynodd Eifion Williams, Tyddyn Heilyn ddarn ohoni i'r Eisteddfod pan glywodd fod y Brifwyl i'w chynnal yn lleol.

Mae'r Gadair felly yn un o'r ychydig rai fydd wedi ei naddu, yn hytrach na'i chreu o ddarnau gwahanol, ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol.

"Mae'n ddarn arbennig o bren, ac roedd o'n gweddu i'w gerfio i gadair," meddai Mr Faherty.

"Wrth gwrs rydw i wedi gorfod defnyddio llif i dorri'r bonyn yn siâp cadair ond mae'n gadair sydd wedi'i chreu o un darn o bren.

"Fy mwriad o'r cychwyn cyntaf oedd gadael y bonyn i siarad drosto'i hun. Mae graen prydferth i'r bonyn ac rydw i am i hwnnw ddod allan a sgleinio. Yn bendant bydd yn tynnu'r llygad."

Disgrifiad o’r llun,

Stephen Faherty - dylunydd a gwneuthurwr y Gadair

Mae'r Gadair yn rhan o'r wobr am awdl neu gasgliad o gerddi mewn cynghanedd gyflawn ar fwy nag un o'r mesurau traddodiadol, hyd at 250 o linellau, ar y teitl Llif.

Cathryn Charnell-White, Karen Owen a Rhys Iorwerth yw beirniaid y gystadleuaeth.

Teulu'r diweddar Dafydd Orwig - addysgwr, arloeswr a chyn-gadeirydd Cyngor Sir Gwynedd - sy'n noddi'r gadair ac yn cyfrannu'r wobr ariannol. Mae seremoni'r Cadeirio yn cael ei chynnal brynhawn Gwener 11 Awst.

Ffynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol Cymru/Iolo Penri

Yn ôl Michael Strain, fe dreuliodd un o feibion Dafydd Orwig, Huw , "ddyddiau lu yn helpu Stephen wrth iddo gwblhau'r gwaith" o greu'r Gadair.

Ychwanegodd Mr Strain bod y Goron a'r Gadair yn "hyfryd o hardd, ac yn destun balchder i ni yma yn LlÅ·n ac Eifionydd.

"Rwy'n sicr bod pawb ar hyd a lled Cymru, fel ninnau, wedi ein gwefreiddio wrth eu gweld am y tro cyntaf heno.

Disgrifiad o’r llun,

Mae 'chwip o Eisteddfod yn ein haros', medd cadeirydd y pwyllgor gwaith Michael Strain

"Mae'n anodd credu ein bod ni, o'r diwedd, ar fin nodi mai dim ond hanner cant o ddyddiau sydd i fynd tan y byddwn yn agor y giatiau i Brifwyl Boduan, a hynny ar ôl i ni fod yn gweithio ar y paratoadau ers pedair blynedd.

"Dechreuodd y gwaith ar y Maes ddoe, ac mae ein gwaith ni fel gwirfoddolwyr ar draws y fro yn tynnu tua'r terfyn rŵan - ond ddim tan ein bod ni wedi croesawu pawb atom i Lŷn ac Eifionydd ddechrau Awst.

"Mae 'na chwip o Eisteddfod yn ein haros, felly dewch yn llu!"

Pynciau cysylltiedig