Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Cymru i dorri hyd at 50 o swyddi i wneud arbedion

Sgwâr CanologFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Symudodd Â鶹ԼÅÄ Cymru i ganol Caerdydd yn ystod y pandemig

  • Cyhoeddwyd

Mae Â鶹ԼÅÄ Cymru wedi cyhoeddi y bydd yn torri rhwng 45 a 50 o swyddi wrth i'r gorfforaeth geisio gwneud arbedion o tua £700m ar draws y DU.

Bydd hyd at 30 o'r swyddi hynny yn staff golygyddol a chynhyrchu, a hyd at 20 yn yr adran gweithrediadau (operations).

Bydd y Â鶹ԼÅÄ yn agor ffenestr diswyddiadau gwirfoddol yn fuan er mwyn ceisio adnabod staff fyddai'n fodlon gadael.

Yn ogystal â gweithlu llai, mae prosiectau ar y gweill i nodi arbedion effeithlonrwydd ar draws y busnes.

Bydd Â鶹ԼÅÄ Cymru hefyd yn "yn ystyried newidiadau i gynnwys er mwyn rhyddhau mwy o adnoddau i fuddsoddi yn anghenion cynulleidfaoedd o Gymru".

'Gorfod gwneud arbedion'

Fe gyhoeddodd cyfarwyddwr cyffredinol y Â鶹ԼÅÄ, Tim Davie, yn gynharach eleni fod yn rhaid i'r Â鶹ԼÅÄ wneud arbedion o tua £700m.

Bydd £15m o'r cyfanswm hwnnw yn dod o doriadau yng Nghymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Fel rhan o'r arbedion hynny mae Â鶹ԼÅÄ Cymru wedi cyhoeddi y bydd yn torri'r hyn sy'n cyfateb i rhwng 25 a 30 o swyddi llawn amser yn yr adrannau golygyddol a chynhyrchu.

Mae 542 o staff golygyddol - rheiny sy'n gweithio i'r adrannau newyddion - a chynhyrchu yn gweithio i Â鶹ԼÅÄ Cymru.

Bydd hyd at 20 o swyddi yn cael eu colli yn adran gweithrediadau Â鶹ԼÅÄ Cymru hefyd - o weithlu o 204.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Rhuanedd Richards y bydd y Â鶹ԼÅÄ yn "buddsoddi mewn mwy o gynnwys o Gymru"

Dywedodd cyfarwyddwr Â鶹ԼÅÄ Cymru, Rhuanedd Richards: "Mae Â鶹ԼÅÄ Cymru, fel gweddill y Gorfforaeth yn gorfod gwneud arbedion i gyrraedd y targed cyffredinol a osodwyd gan y Cyfarwyddwr Cyffredinol ym mis Mawrth.

"Mae angen yr arbedion hyn i sicrhau bod y Â鶹ԼÅÄ yn gweithredu o fewn y gyllideb ac yn mynd i’r afael â dulliau cynhyrchu a chomisiynu mewn diwydiant sy’n esblygu ac yn newid yn barhaus.

“Tra’n cydnabod yr heriau, mae ein huchelgais creadigol yn parhau, sef sicrhau gwerth ffi’r drwydded ac addasu i anghenion cynulleidfaoedd yng Nghymru sy’n newid yn barhaus.

Mae hyn yn golygu buddsoddi mewn mwy o gynnwys o Gymru ar gyfer ein gwasanaethau ar-lein sef Â鶹ԼÅÄ iPlayer, Â鶹ԼÅÄ Sounds, a’n gwasanaethau newyddion a chwaraeon ar-lein."

Pynciau cysylltiedig