Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Cymru yn 100: 'Dim dyfodol i'r ffi drwydded ar ôl 2027'?

  • Cyhoeddwyd
bbc caerdydd

Mae'n garreg filltir nodedig i'r Â鶹ԼÅÄ yng Nghymru, sy'n 100 oed yr wythnos yma.

Y ffi drwydded sy'n talu am yr holl wasanaethau - teledu, radio, ar-lein - ac am S4C.

Ond gyda chymaint o bobl yn dewis talu am wasanaethau ffrydio eraill - fel Netflix a Disney+ - pa ddyfodol sydd i'r ffi drwydded?

Mewn pedair blynedd fe ddaw siartr bresennol y Â鶹ԼÅÄ i ben.

Mae rhai arbenigwyr ar y maes darlledu yn amau a fydd cyfiawnhad i'r ffi drwydded wedi hynny.

'Ddim yn deg'

Dywed Dafydd Rees o gwmni ymgynghori ar y cyfryngau SEC Newgate UK fod yna "ddim dyfodol i'r ffi drwydded ar ôl 2027".

"Yn gyntaf dyw hi ddim yn deg bod miliwnydd yn talu'r un ffi â, dyweder, person sydd yn byw ar bensiwn y wlad yng Nghasnewydd," meddai.

"Ond beth sydd yn poeni fi yn bennaf yw nad yw rhai gwleidyddion ar hyd y blynyddoedd wedi bod yn barod i amddiffyn y Â鶹ԼÅÄ a ddim wedi sôn am werth darlledu o Gaerdydd, Llundain neu'r Alban."

Disgrifiad o’r llun,

Nid yw Dafydd Ress yn credu bod dyfodol i'r ffi drwydded ar ôl 2027

Dyw darlledu ddim wedi ei ddatganoli i Gymru - ond mae gan y Senedd bwyllgor arbennig i graffu ar y maes.

Mae cadeirydd y pwyllgor diwylliant, cyfathrebu, y Gymraeg, chwaraeon a chysylltiadau rhyngwladol yn cydnabod pwysigrwydd y ffi drwydded i annibyniaeth wleidyddol a'r Gymraeg.

"Mae'r ffi drwydded yn rhan bwysig o ran beth sydd yn cael ei wario yng Nghymru," meddai Delyth Jewell AS.

"Er enghraifft, yn 2018-2019 cafodd £250m ei wario yng Nghymru o ganlyniad i'r ffi drwydded.

"Mae'r ffi drwydded yn ffordd o warantu annibyniaeth y Â鶹ԼÅÄ."

'Rhaid addasu'

Does dim consensws gwleidyddol ynglÅ·n â'r ffordd ymlaen i'r Â鶹ԼÅÄ, ac mae rhai'n cydnabod bod yna fygythiad.

Dywedodd yr Athro Jamie Medhurst o Brifysgol Aberystwyth fod yna "fygythiad i'r Â鶹ԼÅÄ fel pob darlledwr cyhoeddus arall".

"Bygythiadau o sianeli sydd yn ffrydio. Bygythiadau hefyd o lywodraethau," meddai.

"Mae 'na ddadl wedi bod yn ddiweddar dros y ffi drwydded sef prif ffynhonnell ariannol y Â鶹ԼÅÄ ac os fydd hynny yn newid yna fe fydd yn rhaid i'r Â鶹ԼÅÄ wneud penderfyniadau anodd dros ben.

"Mae'n rhaid i'r Â鶹ԼÅÄ newid ac addasu'n ôl yr hinsawdd darlledu sydd ar hyn o bryd."

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Rhuanedd Richards fod Â鶹ԼÅÄ Cymru wedi "cymryd camau allweddol ymlaen o safbwynt y Gymraeg"

Dywedodd Rhuanedd Richards, cyfarwyddwr Â鶹ԼÅÄ Cymru: "Mae'n bwysig ein bod ni yn Â鶹ԼÅÄ Cymru yn creu cynnwys sydd yn berthnasol i'n cynulleidfa - ein bod yn agos at bobl.

"Dyna pam ei bod yn bwysig bod gan Â鶹ԼÅÄ Cymru ganolfannau ym Mangor, Wrecsam, Aberystwyth a Chaerfyrddin.

"Ond beth sydd yn allweddol ein bod yn sicrhau bod ein llwyfannau digidol yn tyfu.

"Dyna le mae ein cynulleidfa yn mynd bellach ar gyfer eu newyddion, eu cerddoriaeth a'u hadloniant.

"Yn hynny o beth rydym ni wedi cymryd camau allweddol ymlaen o safbwynt y Gymraeg a'n darlledu drwy gyfrwng y Saesneg."