鶹Լ

Dim gwerslyfr Cymraeg i ddysgu pwnc yn 'bryder sylweddol'

DosbarthFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae cwmni cyhoeddi wedi gwrthod cais un athro i gyfieithu yr unig werslyfr Saesneg

  • Cyhoeddwyd

Mae diffyg adnoddau a dim un gwerslyfr Cymraeg i addysgu Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg (CGM) mewn ysgolion yn "codi pryderon sylweddol", medd adroddiad sydd newydd ei gyflwyno i bwyllgor seneddol.

Mae'r adroddiad gan Ganolfan Genedlaethol Addysg Grefyddol Cymru ym Mhrifysgol Bangor wedi casglu tystiolaeth gan athrawon ar draws Cymru.

O'r 58 ysgol a ymatebodd ar draws 17 sir, nododd dros hanner (53.5%) bod canllawiau Llywodraeth Cymru yn "amwys" ac yn "gamarweiniol".

Mae pryderon hefyd nad yw cyfran sylweddol o ysgolion (58.1%) yn trin CGM fel pwnc gorfodol.

Ym mis Medi 2021, o dan y fe gafodd Addysg Grefyddol (AG) ei ailenwi yn Crefydd, Gwerthoedd, a Moeseg (CGM).

Nodwyd bod elfennau ohono yn orfodol i bob disgybl o dair i 16 oed wrth iddo gael ei integreiddio i wersi ar bynciau dyniaethol.

'Y canfyddiadau yn sobri rhywun'

Dywedodd Dr Gareth Evans-Jones, un o awduron yr adroddiad, eu bod wedi derbyn "llawer o negeseuon gan athrawon ledled Cymru yn mynegi pryderon ynghylch y newid".

"Mae'r newid yma'n sylweddol a chanddo'r potensial i fod yn wirioneddol gyffrous," meddai.

"Ond, yn anffodus, y neges gan nifer o’r athrawon ydy nad ydyn nhw’n teimlo eu bod wedi eu paratoi’n ddigonol i ymateb yn effeithiol i’r newid yma."

Ychwaegodd fod y "canfyddiadau yn sobri rhywun".

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod wedi ymrwymo i sicrhau bod ysgolion yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt i gyflwyno eu cwricwlwm crefydd, gwerthoedd a moeseg.

Ymysg prif ganfyddiadau'r adroddiad mae:

  • Cyfran sylweddol o ysgolion (58.1%) ddim yn trin CGM fel pwnc gorfodol;

  • Ysgolion yn parhau i gyflwyno addysg grefyddol a ddim yn rhoi pwyslais ar grefyddau fel Dyneiddiaeth a Phaganiaeth;

  • Dim ond 2% o athrawon a roddodd sylw i anffyddiaeth a chredoau anghrefyddol;

  • Diffyg adnoddau - dim un gwerslyfr Cymraeg;

  • Llai o amser yn cael ei roi i CGM i gymharu â phynciau fel hanes neu ddaearyddiaeth;

  • Dim hyfforddiant - yn enwedig i athrawon Cymraeg;

  • Canllawiau'r llywodraeth yn "amwys" ac yn "gamarweiniol".

Ffynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Mae Dr Gareth Evans-Jones yn un o awduron yr adroddiad

Mae CGM yn rhoi pwyslais ar gredoau crefyddol amrywiol, egwyddorion moesegol a gwerthoedd cymdeithasol.

Ond drwy beidio â dysgu'r pwnc yn iawn, neu ddim o gwbl, dywed yr adroddiad bod ysgolion "i bob pwrpas yn dadsgilio myfyrwyr o sgiliau cymdeithasol hanfodol".

Dydyn nhw chwaith ddim yn cael y cyfle i "ddeall eu rôl fel dinasyddion cyfrifol mewn cymdeithas gynyddol amlddiwylliannol yng Nghymru a thu hwnt".

"Mae methu â darparu’r sylfaen addysgol hon, nid yn unig yn tanseilio egwyddorion cynwysoldeb a goddefgarwch, ond hefyd yn meithrin anwybodaeth a rhagfarn," medd yr awduron.

Gwrthod caniatâd cyfieithu

Wrth ymhelaethu ar y diffyg adnoddau noda'r adroddiad bod y ffaith mai dim ond un gwerslyfr sydd ar gael - a hwnnw yn Saesneg - ar gyfer disgyblion 11-14 oed, yn "gwbl annigonol" ac felly yn codi "pryderon sylweddol".

"Er gwaethaf cydraddoldeb cyfreithiol y Gymraeg a’r Saesneg yng Nghymru ers 2011, mae’r methiant i gyhoeddi fersiwn Gymraeg o’r gwerslyfr hwn ar yr un pryd â’r fersiwn Saesneg yn awgrymu bod addysgu a dysgu CGM yn Gymraeg o werth llai nag ydyw yn Saesneg," meddai.

Mae yna bryderon hefyd am ffocws y llawlyfr Saesneg gan ei fod yn canolbwyntio'n bennaf ar wahanol grefyddau, a nid yw'n mynd i’r afael â rhannau eraill o'r cwrs.

Nodwyd bod un athro wedi gofyn i gwmni cyhoeddi Hodder Education am gael cyfieithu y llyfr Saesneg i Gymraeg ond bod caniatâd wedi ei wrthod, a nodwyd nad oedd bwriad gan y cwmni i gyfieithu'r gwerslyfr.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae pryderon bod rhai athrawon yn rhoi gormod o bwyslais ar addysg grefyddol

Dywedodd llefarydd ar ran Cyd-bwyllgor Addysg Cymru: "Rydym yn cynnig cyfres gyflawn o adnoddau dwyieithog rhad ac am ddim i gefnogi ein cymhwyster TGAU Astudiaethau Crefyddol.

"Fel corff dyfarnu, fodd bynnag, nid ydym yn cefnogi Cyfnod Allweddol 3 yn yr un modd."

Symud i Loegr

Pryder pellach sy'n cael ei nodi yn yr adroddiad yw bod rhai athrawon CGM yn symud o Gymru i Loegr am eu bod yn rhwystredig bod y maes wedi ei wthio i "ymylon cwricwlwm cymysg y Dyniaethau" yng Nghymru.

Mae rhai athrawon Addysg Grefyddol, o ganlyniad, yn dweud eu bod yn gorfod addysgu Hanes a Daearyddiaeth hefyd - pynciau "nad oeddent yn ddigon cymwys i’w haddysgu, ac yn teimlo ychydig iawn o frwdfrydedd drostynt".

Cyfeirir hefyd y gallai rhai gael eu denu i Loegr wrth i fwrsarïau o hyd at £10,000 gael eu cynnig i’r rhai sy’n dymuno hyfforddi fel athrawon Addysg Grefyddol - does dim bwrsarïau o’r fath ar gael i athrawon dan hyfforddiant yng Nghymru.

Mae methiant y llywodraeth i ddarparu gweledigaeth drefnus a chydlynol ar gyfer CGM wedi arwain at athrawon yn cael trafferth dehongli a gweithredu’r cwricwlwm yn effeithiol, ychwanega'r adroddiad.

"Mae’r diffyg eglurder hwn yn arwain at ddehongliadau amrywiol a chyferbyniol, sydd â’r potensial i arwain at wahaniaethau yn ansawdd a chynnwys y pwnc ar draws ysgolion yng Nghymru."

Ofnir bod y diffyg eglurder yn amharu ar wybodaeth disgyblion sy'n sefyll TGAU Astudiaethau Crefyddol.

'Rhoi sylw i bryderon'

Wrth gloi dywed yr adroddiad ei bod hi'n bwysig bod Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod Estyn, yr arolygiaeth addysg ar gyfer Cymru, yn adolygu’r modd y cyflwynir CGM ym mhob ysgol a sefydlu mandad sy’n sicrhau nad yw'n cael ei roi o’r neilltu o fewn y cwricwlwm ysgol.

"Rhaid cael set glir a chynhwysfawr o ganllawiau sy’n gosod CGM yn gywir, yn deg ac yn effeithiol o fewn y cwricwlwm," medd yr awduron.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau bod ysgolion yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt i gyflwyno eu cwricwlwm crefydd, gwerthoedd a moeseg, ac fe fyddwn ni’n parhau i gydweithio’n agos â nhw i ofalu bod unrhyw bryderon sy’n codi yn cael sylw.

“Rydyn ni wedi datblygu nifer o adnoddau dwyieithog i gefnogi ysgolion ac ymarferwyr i gyflwyno’r cwricwlwm crefydd, gwerthoedd a moeseg yn ogystal â’r canllawiau statudol a’r maes llafur y cytunwyd arno gan bob awdurdod lleol.”

Bydd trafodaeth bellach ar yr arolwg yn rhifyn yr wythnos hon o Bwrw Golwg ac yna ar 鶹Լ Sounds

Pynciau cysylltiedig