Â鶹ԼÅÄ

Addysg rhyw a chrefydd i fod yn bynciau gorfodol

  • Cyhoeddwyd
dosbarth ysgolFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd hawl rhieni i dynnu eu plant o wersi addysg rhyw a chydberthynas yn cael ei ddileu.

Fe fydd yr hawl i gadw plant allan o wersi addysg grefyddol hefyd yn diflannu.

Yn ôl y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, bydd cymunedau du ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig a grwpiau ffydd yn chwarae rhan wrth ffurfio canllawiau ar gyfer ysgolion.

Mae cynrychiolwyr Mwslimaidd a Chatholig wedi rhybuddio y gallai'r datblygiad beryglu perthynas gyda rhieni.

Ar hyn o bryd mae gan rieni'r hawl i atal eu plant rhag cymryd rhan mewn gwersi addysg rhyw, ond bydd hynny'n newid yn sgil y cwricwlwm newydd.

Bydd y cwricwlwm yn cael ei gyflwyno mewn ysgolion yn 2022 ond dywedodd y gweinidog ei bod am "brofi'r dull" o ymdrin ag Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb y flwyddyn nesaf.

Ychwanegodd bod ymgynghoriad wyth wythnos o hyd wedi tynnu sylw at "ystod eang o safbwyntiau" ar "fater sensitif".

Addawodd y byddai yna ganllawiau clir i ysgolion yn ogystal ag adnoddau a hyfforddiant.

Bydd Grŵp Cynnwys Cymunedau gyda chynrychiolwyr grwpiau ethnig lleiafrifol, du ac Asiaidd a ffydd yn cwrdd am y tro cyntaf fis Chwefror.

Y bwriad bydd datblygu "cyd-ddealltwriaeth o'r cwricwlwm newydd a mynd i'r afael â phryderon a godwyd gan grwpiau ffydd a grwpiau cymunedol yn ystod yr ymgynghoriad".

'Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg'

Yn ogystal fe gadarnhaodd y Gweinidog fwriad i gael gwared ar yr hawl i dynnu plant o wersi addysg grefyddol ynghyd â newid enw'r pwnc.

Y dewis mwyaf poblogaidd yn ystod yr ymgynghoriad oedd 'Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg' ac o ganlyniad dyma fydd enw'r pwnc pan ddaw'r cwricwlwm newydd i rym.

Dywedodd y Gweinidog Addysg y byddai angen "gweithredu gofalus a sensitif" ar gyfer y newidiadau i addysg cydberthynas a rhywioldeb ac addysg grefyddol.

"Ein cyfrifoldeb fel llywodraeth yw sicrhau bod pobl ifanc, drwy addysg gyhoeddus, yn gallu dysgu mewn ffordd sy'n eu cefnogi i drafod a deall eu hawliau a hawliau eraill," meddai Kirsty Williams.

"Mae'n hanfodol i'r holl bobl ifanc gael yr wybodaeth sy'n eu cadw rhag niwed.

"Mae penderfyniad heddiw yn sicrhau y bydd yr holl ddisgyblion yn dysgu am faterion gan gynnwys diogelwch ar-lein a chynnal cydberthynas iach."