鶹Լ

Dafydd Jenkins yn dilyn ôl troed Syr Gareth Edwards

Dafydd JenkinsFfynhonnell y llun, Huw Evans Picture Agency
Disgrifiad o’r llun,

Dafydd Jenkins yw'r ail chwaraewr ieuengaf erioed i arwain Cymru

  • Cyhoeddwyd

Mae Dafydd Jenkins ar fin dod yn gapten ieuengaf Cymru ers Syr Gareth Edwards, ac mae wedi cael ei gymharu ag Alun Wyn Jones yn barod. Dim pwysau felly.

Bydd y clo yn 21 mlynedd a 60 diwrnod oed pan fydd e’n arwain Cymru yng ngêm agoriadol y Chwe Gwlad yn erbyn Yr Alban ddydd Sadwrn.

Daw ei gyfle i fod yn gapten o ganlyniad i anafiadau i Jac Morgan a Dewi Lake, a dim ond Edwards oedd yn iau - 20 oed - pan arweiniodd Cymru am y tro cyntaf, hefyd yn erbyn Yr Alban yng Nghaerdydd, yn ystod Pum Gwlad 1968.

Doedd Jenkins ddim hyd yn oed wedi ei eni y tro diwethaf i'r Alban guro Cymru yng Nghaerdydd yn 2002 – ond mae rygbi yn rhan o’i enaid.

'Baby horse' yn troi'n ddyn

Chwaraeodd ei dad, Hywel, i Gymru mewn gêm ddi-gap yn erbyn yr Unol Daleithiau.

Roedd yn cael ei adnabod fel ‘Crazy Horse’, gyda'i ffrindiau yn galw ei fab yn ‘Baby Horse’.

Mae Jenkins yn sicr yn ddyn erbyn hyn.

Mae’r bachgen o Borthcawl nawr ar drothwy un o anrhydeddau uchaf chwaraeon Cymru.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Syr Gareth Edwards (ar y chwith) yn paratoi i basio'r bêl i Gymru yn erbyn Yr Alban ym 1968

“Dwi’n gobeithio bydd e’n teimlo’n well nag o'n i ar y pryd ym 1968!” meddai Syr Gareth Edwards.

"O leiaf ma' Dafydd wedi cael profiad o fod yn gapten ar ei glwb o’r blaen.

“O'n i’n ifanc, 20. Ma' mwy o brofiad ’da Dafydd ac ma' fe’n chwaraewr arbennig.

“Pob lwc iddo fe - ffantastig. Ma' fe wedi dangos bod y gallu ganddo fe.

“Byddai Warren Gatland ddim yn ei ddewis yn gapten heb feddwl bod e am chwarae yn y safle yna am flynyddoedd i ddod.

“Roedd Sam Warburton yn chwaraewr arbennig, mwy ne' lai yn sicr o’i le yn y tîm, a dwi’n credu bod e’n sefyllfa debyg gyda Dafydd.”

Ffynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Dafydd Jenkins oedd aelod ieuengaf carfan Cymru yng Nghwpan y Byd y llynedd

Ar ôl cael ei fagu ym Mhorthcawl, gadawodd Jenkins Gymru yn 16 oed i fynychu Coleg Hartpury, sydd wedi cynhyrchu nifer o chwaraewyr rygbi rhyngwladol – gan gynnwys cyn-asgellwr Cymru, Louis Rees-Zammit a phrop Lloegr, Ellis Genge.

Roedd Jenkins wedi bod yn rhan o academi'r Gweilch ond, tra'n chwarae i Hartpury, fe gysylltodd prif hyfforddwr Caerwysg, Rob Baxter, â fe.

Ymunodd Jenkins â’r clwb yn 2021 tra’n astudio gwyddor chwaraeon ym Mhrifysgol Caerwysg.

Chwaraeodd i dîm rygbi'r brifysgol, gan sgorio cais a chael ei enwi'n seren y gêm yn erbyn Durham ym muddugoliaeth cystadleuaeth Super Rugby BUCS.

Ym mis Tachwedd 2022, yn 19 oed a 342 diwrnod, torrodd Jenkins record Uwch Gynghrair Lloegr fel y capten ieuengaf, mewn buddugoliaeth i Gaerwysg yn erbyn Gwyddelod Llundain.

Doedd dim syndod felly wrth i Jenkins ennill cydnabyddiaeth ryngwladol yn fuan ar ôl hynny.

Yn dilyn perfformiadau cryf dros dîm dan-20 Cymru yn erbyn De Affrica ym mis Gorffennaf 2022, fe enillodd Jenkins ei gap llawn cyntaf dim ond pedwar mis yn ddiweddarach, fel eilydd yn y golled yn erbyn Georgia.

Yng Nghwpan y Byd llynedd, Jenkins oedd aelod ieuengaf carfan Cymru wrth iddyn nhw gyrraedd yr wyth olaf yn Ffrainc.

Mae stori Jenkins nawr yn dychwelyd i Gymru, wrth iddo baratoi i arwain ei wlad ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Ffynhonnell y llun, Getty
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Syr Gareth Edwards fod Jenkins "wedi dangos bod y gallu ganddo fe"

Bydd dydd Sadwrn yn nodi union 56 mlynedd ers daeth Edwards y Cymro ieuengaf i arwain ei wlad.

Roedd hynny yn erbyn yr un gwrthwynebwyr, Yr Alban. Enillodd Cymru 5-0.

Porthcawl yw lle mae Edwards bellach yn byw hefyd.

Bu cyn-fewnwr Cymru a’r Llewod yn chwarae gyda thaid Jenkins, Richard Gronow - tad ei fam Rhian - i dîm Bechgyn Ysgol Cymru.

Mae Rhian yn feddyg teulu yn yr ardal.

'Cadw llygad barcud!'

“Fi di bod yn cadw llygaid ar Dafydd oherwydd, fel mae’n digwydd, mae ei fam yn feddyg yn y pentref,” meddai Edwards.

“A hefyd chwaraeais i dros dîm Bechgyn Ysgol Cymru gyda’i dad-cu. Roedd e’n fachwr dros Benybont, a fe chwaraeais i yn erbyn e gyda Chaerdydd hefyd.

“Mae’r hanes yn mynd yn ôl dros y blynyddoedd. Dyna pam dwi’n cadw llygaid barcud ar y crwtyn ifanc!

“Cofiwch chi, ar yr un pryd, ni gyd fel teulu yn adnabod Jac Morgan a’i deulu, ac mae Jac wedi chwarae’n arbennig cyn ei anaf.

“Mae Dafydd yn gymeriad arbennig a fi’n falch mai fe sy’n cymryd lle Jac. Mae yna lot o dalent ifanc.

“Os gadwon nhw fel ma' nhw, pwy a ŵyr, falle bydde nhw’n gapteniaid ar y Llewod rhyw ddydd. Mae’r gallu ganddyn nhw.”