Â鶹ԼÅÄ

Cap cyntaf i Cameron Winnet i herio'r Alban

  • Cyhoeddwyd
Cameron WinnettFfynhonnell y llun, Ben Brady/INPHO/Shutterstock
Disgrifiad o’r llun,

Fe chwaraeodd Cameron Winnett i dîm dan-20 Cymru yn eu pencampwriaeth Chwe Gwlad nhw yn 2023

Bydd cefnwr Rygbi Caerdydd, Cameron Winnett, yn ennill ei gap cyntaf dros Gymru yng ngêm agoriadol Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn erbyn Yr Alban ddydd Sadwrn.

Ni fydd George North ar gael oherwydd anaf, a bydd Owen Watkin yn llenwi'r bwlch yn y canol.

Fe allai cyd-chwaraewr Winnett yng Nghaerdydd, Alex Mann hefyd ennill ei gap cyntaf oddi ar y fainc.

Mae'r blaenasgellwr James Botham a'r prop Leon Brown wedi cael eu galw'n ôl i'r 15 fydd yn dechrau yn Stadiwm Principality.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Ni fydd George North ar gael ar gyfer y gêm agoriadol oherwydd anaf

Bydd maswr y Scarlets, Sam Costelow yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf yn y Chwe Gwlad, ond ar y tu mewn iddo fydd Gareth Davies yn hytrach na Tomos Williams.

Dafydd Jenkins fydd yr ail ieuengaf i arwain Cymru erioed. Ei bartner yn yr ail-reng fydd Adam Beard tra bod Will Rowlands wedi ei adael allan o'r garfan o 23.

Mae Cymru'n chwilio am gefnwr newydd ar ddiwedd cyfnod o dros ddegawd lle mae Leigh Halfpenny a Liam Williams wedi hawlio'r crys rhif 15.

Gyda Halfpenny wedi ymddeol a Williams wedi mynd i chwarae i glwb yn Japan, ac felly ddim ar gael, mae'n gyfle i Winnett, gyda Josh Adans a Rio Dyer ar yr esgyll bob ochr iddo.

Yn sicr mae'n ddibrofiad - ei gêm ryngwladol gyntaf fydd ei 16eg gêm broffesiynol yn ei yrfa.

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Sam Costelow sy'n cael y cyfle i greu argraff fel maswr

Crys arall sydd angen ei lenwi yw'r rhif 10 wedi ymddeoliad Dan Biggar ac anaf i Gareth Anscombe.

Sam Costelow sy'n cael y cyfle, gyda'i gyd-Scarlet Ioan Lloyd yn ôl yn y garfan ryngwladol am y tro cyntaf ers tair blynedd wedi iddo gael ei enwi ar y fainc.

Gydag anafiadau i Jac Morgan a Taulupe Faletau, roedd gwagle arall yn y rheng-ôl gydag Aaron Wainwright a Tommy Reffell.

Blaenasgellwr Rygbi Caerdydd, James Botham yw'r dewis ar yr ochr dywyll, a dyma fydd ei ymddangosiad cyntaf i Gymru ers 2021.

Tîm Cymru i herio'r Alban

Winnett; Adams, Watkin, Tompkins, Dyer; Costelow, G Davies; Domachowski, Elias, Brown, D Jenkins (capt), Beard, Botham, Reffell, Wainwright.

Eilyddion: Dee, Mathias, Assiratti, Teddy Williams, Mann, Tomos Williams, I Lloyd, Grady.