Elin Fflur i gyflwyno rhaglen nos Wener ar Radio Wales

Ffynhonnell y llun, Betsan Haf Evans

Disgrifiad o'r llun, Bydd sioe gyntaf Elin Fflur ar Â鶹ԼÅÄ Radio Wales nos Wener 9 Awst

Mae'r gantores a'r cyflwynydd teledu Elin Fflur yn dweud ei bod "yn gyffrous iawn" wrth edrych ymlaen at gyflwyno rhaglen newydd wythnos nesaf ar Â鶹ԼÅÄ Radio Wales.

Dywed yr orsaf y bydd yn "dod ag egni ffres a bywiog i nosweithiau Gwener" rhwng 19:00 a 22:00, gyda'r rhifyn cyntaf nos Wener 9 Awst.

"Gen i angerdd mawr at gerddoriaeth a phobl a dwi'n teimlo bydd y sioe yma yn rhoi'r gorau o'r ddau i mi," dywedodd.

"Dwi'n edrych ymlaen at groesawu'r penwythnos gyda thiwns hapus a vibes da."

Ffynhonnell y llun, S4C

Disgrifiad o'r llun, Mae Elin Fflur yn wyneb cyfarwydd ar S4C ers blynyddoedd wrth gyflwyno rhaglenni fel Heno, Sgwrs Dan y Lloer a chystadleuaeth Cân I Gymru (uchod, gyda Trystan Ellis-Morris)

Dywed yr orsaf y bydd y rhaglen newydd "yn gyfuniad o nostalgia a llawenydd" ac yn llawn caneuon "disco a chlasuron parti" o'r 70au, 80au a'r 90au.

Fe fydd y gantores o Fôn yn cyflwyno'r rhaglen yn fyw o ganolfan y Â鶹ԼÅÄ ym Mangor.

Gan ei chroesawu i'r orsaf, dywedodd pennaeth Â鶹ԼÅÄ Radio Wales, Carolyn Hitt y bydd "yn gwmni gwych ar nosweithiau Gwener i'n gwrandawyr".

Ychwanegodd: "Fel un o gantorion-cyfansoddwyr mwyaf talentog Cymru, bydd hi'n rhannu ei gwybodaeth ac angerdd cerddorol gyda'n cynulleidfa.

"Ac fel cyflwynydd medrus mae ganddi gynhesrwydd a charisma."