Â鶹ԼÅÄ

Elin Fflur: Cyflwyno, canu a Sir Fôn

  • Cyhoeddwyd
Elin Fflur yn perfformio yn PontioFfynhonnell y llun, Yusef Bastawy

Mewn noson arbennig yn Pontio ym Mangor nos Sadwrn 2 Rhagfyr 2023, cafwyd noson i ddathlu cerddoriaeth Elin Fflur, wrth iddi ganu rhai o'i chaneuon enwocaf i gyfeiliant Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y Â鶹ԼÅÄ.

Tudur Owen oedd yn llywio'r noson, a rhwng caneuon, cafodd Elin a Tudur sgwrs am ei gyrfa, ei chariad tuag at Sir Fôn, a'r gân a ddechreuodd y cwbl iddi, Harbwr Diogel.

Ffynhonnell y llun, Yusef Bastawy
Disgrifiad o’r llun,

Tudur Owen fu'n holi Elin Fflur am ei gyrfa a'i bywyd rhwng caneuon

'Cheek' y cyflwynydd

Bu ond y dim i ni beidio cael Elin Fflur ar ein llwyfannau yn canu ac ar ein sgriniau yn cyflwyno, gan mai mynd i'r brifysgol i astudio troseddeg aeth hi, meddai, a hynny am ei bod eisiau bod fel Robbie Coltraine yn y gyfres deledu, Cracker...

Yn ffodus i ni, cafodd ganiatâd ei rhieni i gymryd blwyddyn allan i ganolbwyntio ar y canu, ac yn ei dro wedyn, daeth y cyflwyno.

"Mae lot o bobl yn dweud yr un peth, yn aml iawn, sgen ti'm lot o gynllun pan ti'n mynd i mewn i'r byd 'ma. I mi, dwi'n meddwl, o'dd o'n 'chydig bach o cheek a 'chydig bach o lwc.

"O'n i'n canu ar y pryd ac yn byw yng Nghaerdydd. Nes i gyfarfod cynhyrchydd teledu a deud 'os ti byth isho rhywun i gyflwyno, cofia amdana i'. O fewn rhyw flwyddyn, ges i wahoddiad i fynd am screen test, a gychwynnais i ar fy siwrne efo'r rhaglen gerddoriaeth Nodyn."

Bellach mae hi'n cyflwyno ar Heno a'r ffenomenon Sgwrs Dan y Lloer, a ddeilliodd o'r cyfnod clo, pan roedd rhaid dod o hyd i raglen oedd yn 'ddiogel' i'w gwneud, er mwyn llenwi'r amserlen.

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Enillodd Elin gystadleuaeth Cân i Gymru yn 2002 gyda'r gân gan Arfon Wyn, Harbwr Diogel

Mae hi hefyd yn wyneb cyfarwydd bob Dydd Gŵyl Dewi, fel un o gyflwynwyr Cân i Gymru, rhaglen sydd yn 'rhan o'i DNA hi' erbyn hyn, a hithau wedi ymddangos arni gyntaf yn 17 oed, pan enillodd y gystadleuaeth gyda Harbwr Diogel yn 2002. Mae hi'n dweud fod y teimlad o gyflwyno yn debyg iawn i'r teimlad mae hi'n ei gael wrth ganu:

"Dwi wrth fy modd yn gneud teledu byw, a mae'n wbath exciting, ti'm yn gwybod be' sy'n mynd i ddigwydd, be' mae rhywun yn mynd i ddeud. Mae'r elfen yna'n gyffrous iawn - fel perfformio o flaen cynulleidfa fel yma - does 'na'm byd fel y wefr yna."

Gwreiddiau cadarn yn Sir Fôn

Er fod ei swyddi yn mynd â hi ledled Cymru, hogan ei milltir sgwâr ydi Elin, meddai, gyda'i chariad a'i chysylltiad hi at ei chynefin - Sir Fôn - yn ddwfn.

"Mae croesi'r bont 'na i fi, dwi'n teimlo rhwbath yn newid tu mewn i mi! Wir i chi! Dwi'n perthyn i'r tir 'na dros y bont - dwi'n gwbod bo' fi a dwi'n gwybod mai fan'na dwisho bod. Dwi 'di trio mynd i Gaerdydd, a dwi 'di trio Caernarfon hyd yn oed... ond o'dd o rhy bell!

"Dwi'n falch o lle dwi'n dod. Mae' ngwreiddiau i'n ddwfn yna. Pan 'swn i isho bod yn rhwla arall?"

Ac wrth gwrs, roedd perfformio o flaen tyrfa enfawr ar Lwyfan y Maes ar nos Sadwrn olaf Eisteddfod Genedlaethol Sir Fôn yn 2017 - ei Steddfod lleol - yn un o uchafbwyntiau ei gyrfa.

"O'dd o'n brofiad anhygoel. O'n i'n swp sâl drwy'r dydd yn poeni fydd 'na neb yna. Ac o'dd llond y cae o bobl yn gwylio a mwynhau, a ma' honna jyst yn noson sy'n aros efo fi."

Ffynhonnell y llun, Yusef Bastawy
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Elin Fflur ar ben ei digon yn perfformio rhai o'r hen ffefrynnau o flaen theatr orlawn

Ei harbwr diogel

Agorodd a chlôdd y noson gyda fersiwn gerddorfaol o Harbwr Diogel, a gofynnodd Tudur iddi beth mae'r gân honno yn ei golygu i Elin:

"Bob dim. 'Swn i'm yma heddiw hebddi, mae hynny'n sicr. 'Dan ni'n mynd yn ôl dros 20 mlynedd ers i mi ei gneud hi ar Cân i Gymru, ac Arfon Wyn yn dod â'r gân 'ma ata i, a rhoi hyder ynddo fi i ennill y gystadleuaeth.

"Mae hi'n golygu'r byd i mi, a be' sy'n sbesial amdani ydi mae hi'n oesol, felly dwi'n meddwl mai dyna pam fod pobl dal yn ei mwynhau hi. Mae ystyr y gân yn rhywbeth sy'n dal i olygu gymaint i ni heddiw.

"Be' sy'n neis heno ydi ein bod ni wedi cael y cyfle i'w gneud hi yn y ffurf yna, achos dyna fel oedd Arfon wedi dod â hi ata i... wel dim efo 40 o offerynnau cerddorfa... ond yn araf, a dwi wrth fy modd yn ei chanu hi fel yna, achos fod yr ystyr yn mynd yn fwy pwerus."

Disgrifiad,

Gwrandewch ar Harbwr Diogel gan Elin Fflur a Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y Â鶹ԼÅÄ yn Pontio

Roedd y cyngerdd yn gwireddu dwy o uchelgeisiau Elin, sef canu â Cherddorfa Gymreig y Â鶹ԼÅÄ a gwerthu pob tocyn yn Pontio, ac mae werthfawrogodd hi'r cyfle i edrych nôl dros ei gyrfa drwy ei chaneuon, ac ymfalchïo yn y gwaith mae hi wedi ei gynhyrchu dros y blynyddoedd, meddai:

"Mae o'n wbath braf, achos nid yn aml iawn 'da ni'n adlewyrchu ar be' 'da ni 'di 'neud, achos 'da ni wastad yn edrych ymlaen at y peth nesa'.

"Mae cael y cyfle i neud 'wbath fel hyn mor werthfawr i allu edrych yn ôl, a deud wrtha fi fy hun 'da iawn Elin!'

Hefyd o ddiddordeb: