Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Teulu dyn 95 oed yn poeni am effaith cau Ysbyty Tregaron
- Awdur, Craig Duggan a Sara Dafydd
- Swydd, Newyddion Â鶹ԼÅÄ Cymru
Mae yna bryderon y gallai cau ysbyty cymunedol Tregaron olygu mwy o bwysau ar ysbytai eraill yng ngorllewin Cymru.
Mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn cynnig cau’r ysbyty, sydd â naw gwely i gleifion mewnol, er mwyn darparu gwasanaethau i gleifion yn eu cartrefi.
Ymhlith y rhai sy’n poeni mae teulu dyn 95 oed sydd yn yr ysbyty ar hyn o bryd wedi iddo ddisgyn.
Fe wnaeth Rhythwyn Evans godi dros £50,000 i Fwrdd Iechyd Hywel Dda yn ystod y pandemig.
Cafodd ei ysbrydoli gan y Capten Tom Moore i gerdded o amgylch ei fyngalo 91 o weithiau ar ei ben-blwydd yn 91 oed yn 2020.
Yn ôl y bwrdd iechyd byddai mwy o gleifion yn derbyn gofal dan y cynllun newydd, ac ni fyddai'n cael effaith ar ysbytai eraill yn y gorllewin.
Dywed mab Mr Evans y gallai colli gwelyau yn Nhregaron arwain at fwy o gleifion yn cael eu trin mewn coridorau neu eu cadw mewn ambiwlansys y tu allan i ysbytai oherwydd prinder gwelyau.
Dywedodd Dai Charles Evans: “Pan aeth fy nhad i mewn i’r ysbyty ym Mronglais, treuliodd y pum diwrnod cyntaf ar droli mewn coridor cyn i wely ddod ar gael.
"Mae ambiwlansys wedi'u pentyrru y tu allan.â€
Dydd Iau bydd cyfarfod yn cael ei gynnal i drafod dyfodol Ysbyty Tregaron.
Mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn cynnig cael gwared ar y gwelyau yn yr ysbyty a rhoi gwasanaethau yn y gymuned yng Ngheredigion yn eu lle.
Mae Rythwyn Evans ar hyn o bryd yn aros am gynllun gofal cyn y gall adael yr ysbyty.
Dywed ei fab: “Mae niferoedd [y gwelyau] wedi gostwng dros yr ychydig wythnosau diwethaf.
"Felly mae’r cleifion a oedd yn Nhregaron wedi cael eu cludo i gartrefi gofal a chyfleusterau eraill yn y sir, a’r hyn rwy’n ei ofni yw y gallai fy nhad gael ei ofyn, neu ei symud i gartref gofal nad yw mor gyfleus.â€
Mae Â鶹ԼÅÄ Cymru yn deall fod yna bedwar o gleifion yn derbyn gofal yn Ysbyty Tregaron ar hyn o bryd.
Mae Dilwyn Daniel yn borthor yn Ysbyty Tregaron.
Y llynedd cafodd tad Dilwyn ei gymryd i Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth.
“Roedd yn yr adran damweiniau ac achosion brys mewn coridor," meddai.
"Ac roedd o yno yn y gwely am wythnos - yn hollol ofnus o'r holl gynnwrf oedd yn digwydd, ddim yn siŵr beth oedd yn digwydd.â€
Cafodd tad Dilwyn ei symud i Ysbyty Tregaron yn ddiweddarach.
Yn ôl Peter Skitt, cyfarwyddwr sirol Ceredigion ar gyfer Bwrdd Iechyd Hywel Dda, bydd staff Ysbyty Tregaron yn gallu gofalu am hyd at 40 o gleifion yn eu cartrefu.
Meddai: “Ni fyddai cynnal y gwelyau yn Ysbyty Cymunedol Tregaron yn ein helpu i leddfu’r sefyllfa hon [ym Mronglais] oherwydd heddiw nid oes cleifion yn aros ym Mronglais am wely yn Ysbyty Cymunedol Tregaron.
“Mae cleifion wedi rhannu’n gyson y byddai’n well ganddyn nhw fod gartref, neu’n agosach at adref, ac mae hyn yn tueddu i gefnogi eu hadferiad.â€
Mae prosiect Cylch Caron yn cynnwys mwy o wasanaethau gofal, fydd yn cael eu darparu yn y gymuned.
Ond mae rhai pobl leol yn poeni am y posibilrwydd o ddiffyg gwelyau ysbyty yn yr ardal leol.
Dywedodd Cyril Evans, sy'n byw yn Nhregaron: “Fe ddywedon nhw wrth bobl yn Nhregaron yn wreiddiol fod yna ysbyty newydd yn cael ei adeiladu yma.
"Nid oes ysbyty newydd. Bydd yn lle gofal iechyd integredig.â€
Dydd Iau bydd Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn cyfarfod i drafod dyfodol Ysbyty Tregaron.
Fe fyddan nhw hefyd yn trafod dyfodol yr uned mân anafiadau yn Ysbyty Tywysog Phillip yn Llanelli a Ward Angharad yn Ysbyty Bronglais Aberystwyth.